SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 41

Bu farw dyn ddeng mis yn ôl â’i ddomisil (domiciled in) yng Nghymru a Lloegr. Rhoddwyd grant cynrychiolaeth (grant of representation) ar gyfer ei ystad saith mis yn ôl. Yn ei ewyllys, gadawodd y dyn ei ystad gyfan i’w hoff elusen. Mae gweddw (widow) y dyn yn ystyried dwyn hawliad yn erbyn ei ystad o dan y Ddeddf Etifeddiaeth (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975 (‘y Ddeddf’). Nid oes unrhyw amgylchiadau lle byddai llys yn rhoi caniatâd i gyflwyno cais hwyr o dan y Ddeddf.

Pa un o’r datganiadau canlynol yw’r disgrifiad gorau o’r sefyllfa o ran gallu’r weddw i ddwyn hawliad o dan y Ddeddf?

A. Mae’r weddw yn gallu dwyn hawliad oherwydd rhoddwyd y grant cynrychiolaeth lai na dwy flynedd yn ôl.

B. Mae’r weddw yn gallu dwyn hawliad oherwydd rhoddwyd y grant cynrychiolaeth lai na chwe mis ar ôl dyddiad y farwolaeth.

C. Mae’r weddw yn gallu dwyn hawliad oherwydd bu farw’r dyn lai na dwy flynedd yn ôl.

D. Ni all y weddw ddwyn hawliad oherwydd bu farw’r dyn dros chwe mis yn ôl.

E. Ni all y weddw ddwyn hawliad oherwydd rhoddwyd y grant cynrychiolaeth dros chwe mis ôl.


E - Ni all y weddw ddwyn hawliad oherwydd rhoddwyd y grant cynrychiolaeth dros chwe mis ôl.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?