SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 52

Mae menyw yn dal dig (holds a grudge) yn erbyn ei chyn-gyflogwr.

Mae’r fenyw yn mynd i dŷ’r cyn-gyflogwr gan fwriadu torri un o ffenestri’r tŷ gyda bricsen. Mae hi’n gweld car ar ddreif y tŷ ac yn sylweddoli y gallai rhywun fod yn y tŷ. Mae hi hefyd yn sylweddoli, os bydd hi’n taflu’r fricsen, y gallai bywyd unrhyw un sydd yn y tŷ fod mewn perygl naill ai gan y fricsen neu drwy ddarnau o wydr yn hedfan o ganlyniad i dorri’r ffenestr gan y fricsen. Fodd bynnag, nid yw’n bwriadu anafu unrhyw un na pheryglu bywyd neb.

Mae’r fenyw yn taflu bricsen drwy ffenestr y gegin. Mae’r ffenestr yn torri ac mae darnau o wydr yn cael eu taflu i’r gegin o ganlyniad. Mae mab y cyn-gyflogwr yn eistedd yn y gegin. Mae’r fricsen yn hedfan heibio iddo ac yn methu ei daro o drwch blewyn. Mae’r mab yn cael ei anafu gan nifer o ddarnau o wydr sy’n hedfan, gan achosi anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau pam mae’r fenyw yn euog o ddifrod troseddol gwaethygedig (aggravated criminal damage)?

A. Roedd hi’n bwriadu taflu’r fricsen drwy ffenestr y gegin ac o ganlyniad i hynny cafodd y mab ei anafu gan wydr yn hedfan.

B. Roedd hi’n bwriadu taflu’r fricsen drwy ffenestr y gegin ac o ganlyniad i hynny rhoddwyd bywyd y mab mewn perygl gan wydr yn hedfan.

C. Roedd hi’n bwriadu taflu’r fricsen drwy ffenestr y gegin ac o ganlyniad i hynny rhoddwyd bywyd y mab mewn perygl gan y fricsen.

D. Roedd hi’n bwriadu taflu’r fricsen drwy ffenestr y gegin ac roedd hi’n ddi-hid (reckless) ynghylch a fyddai bywyd mewn perygl gan y fricsen o ganlyniad i hynny.

E. Roedd hi’n bwriadu taflu’r fricsen drwy ffenestr y gegin ac roedd hi’n ddi-hid (reckless) ynghylch a fyddai bywyd mewn perygl gan wydr yn hedfan o ganlyniad i hynny.


E - Roedd hi’n bwriadu taflu’r fricsen drwy ffenestr y gegin ac roedd hi’n ddi-hid (reckless) ynghylch a fyddai bywyd mewn perygl gan wydr yn hedfan o ganlyniad i hynny.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?