SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 48

Mae dyn yn cael ei arestio am 11pm ar nos Fercher, dan amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad (grievous bodily harm with intent) i fenyw. Caiff ei gludo i orsaf yr heddlu gan gyrraedd am 11.30pm ac awdurdodwyd iddo gael ei gadw yno am 11.45pm.

Mae ymchwiliadau’r heddlu’n parhau. Mae angen cynnal chwiliadau, cael gafael ar dystion a chael tystiolaeth feddygol. Bydd oedi cyn y gellir cael y dystiolaeth feddygol gan fod y fenyw yn cael llawdriniaeth ddwys. Mae’r swyddogion ymchwilio yn rhagweld y bydd angen iddynt ddefnyddio’r pwerau cadw hiraf posibl sydd ar gael i’r heddlu cyn gwneud cyhuddiad (charge), ac efallai y bydd angen iddynt ofyn i’r Llys Ynadon am warant i gadw’r dyn am ragor o amser.

Tan pryd y gellir cadw’r dyn cyn gwneud cyhuddiad, heb warant i’w gadw am ragor o amser?

A. 11.30pm ar y nos Iau.

B. 11.45pm ar y nos Iau.

C. 11am ar y dydd Gwener.

D. 11.30am ar y dydd Gwener.

E. 11.45am ar y dydd Gwener.


D - 11.30am ar y dydd Gwener.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?