SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 55

Mae’r heddlu’n cael ei alw i far mewn perthynas â honiad o ymosodiad. Mae swyddogion yr heddlu sy’n mynd i’r bar yn siarad â dyn sy’n gwaedu o doriad i’r wyneb. Mae menyw yn cael ei harestio yn y bar ar amheuaeth o ymosodiad ar y dyn sy’n achosi gwir niwed corfforol (actual bodily harm) iddo. Mae’r swyddog arestio yn sylwi ar waed ar law’r fenyw.

Mae’r fenyw yn cael ei chludo i orsaf yr heddlu. Awdurdodir iddi gael ei chadw yno ac yna caiff ei chyfweld dan rybudd (under caution) ym mhresenoldeb ei chyfreithiwr. Yn unol â chyngor ei chyfreithiwr, mae’r fenyw yn arfer ei hawl i aros yn ddistaw yn y cyfweliad ac nid yw’n rhoi eglurhad am y gwaed ar ei llaw.

Mae’r swyddog cyfweld yn rhybuddio’r fenyw bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i ymosodiad ac mae’n gofyn iddi roi esboniad am y gwaed ar ei llaw oherwydd credir y gallai’r gwaed fod yno oherwydd iddi gyflawni’r ymosodiad. Caiff hi ei hatgoffa bod y cyfweliad yn cael ei recordio ac y gellir rhoi’r cofnod fel tystiolaeth mewn gwrandawiad llys, ac y gallai llys ddod i gasgliad (draw an inference) yn ddiweddarach os bydd hi’n methu rhoi esboniad am y gwaed yn ystod y cyfweliad. Mae’r fenyw yn parhau i arfer ei hawl i aros yn ddistaw.

Mae’r fenyw yn cael ei chyhuddo (charged) o ymosod ar y dyn gan achosi gwir niwed corfforol iddo. Mae’r fenyw yn pledio’n ddieuog ac yn gwrthod rhoi tystiolaeth yn ei threial.

A oes modd gwahodd llys y treial i ddod i gasgliad a fyddai’n niweidiol i’r fenyw gan iddi fethu rhoi esboniad am y gwaed ar ei llaw yn ei chyfweliad dan rybudd?

A. Nac oes. Gan nad yw’r fenyw yn rhoi tystiolaeth yn ei threial, nid yw’n dibynnu ar ffaith yn ei hamddiffyniad nad oedd hi wedi sôn amdani yn ei chyfweliad dan rybudd.

B. Nac oes, gan fod hawl gan y fenyw i aros yn ddistaw yn ei chyfweliad dan rybudd.

C. Nac oes, gan fod cyfreithiwr y fenyw wedi ei chynghori i arfer ei hawl i aros yn ddistaw yn ei chyfweliad dan rybudd.

D. Oes, oherwydd y rhybudd (warning) a roddwyd i’r fenyw yn ei chyfweliad dan rybudd.

E. Oes, gan y byddai wedi bod yn rhesymol i’r fenyw egluro’r gwaed ar ei llaw yn ei chyfweliad dan rybudd.


D - Oes, oherwydd y rhybudd (warning) a roddwyd i’r fenyw yn ei chyfweliad dan rybudd.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?