SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 35

Mae tri dyn a menyw yn mynd i mewn i swyddfa lle mae’r fenyw yn gweithio rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r grŵp yn mynd i mewn i’r swyddfa am 10pm ar nos Sadwrn i gael parti. Mae’r fenyw’n defnyddio ei hallweddi/goriadau i’w gadael nhw i mewn.

Ar ôl hanner awr maent yn diflasu ac felly mae un o’r grŵp yn awgrymu eu bod yn edrych o amgylch y swyddfa i weld a oes unrhyw alcohol y gallant ei ddwyn. Tra eu bod yn y swyddfa mae’r grŵp yn chwilio drwy’r droriau ac yn dod o hyd i wisgi ac yn ei yfed. Maent hefyd yn dod o hyd i £300 ac yn ei ddwyn.

Pa un o’r canlynol yw’r disgrifiad gorau ynghylch a ydynt yn euog o fwrgleriaeth?

A. Maent i gyd yn ddieuog gan nad ydynt wedi mynd i mewn fel tresmaswyr gan fod y fenyw’n gweithio yn y swyddfa ac mae ganddi ganiatâd i fynd i mewn.

B. Dim ond y dynion sy’n euog gan nad yw’r fenyw yn dresmaswr am ei bod yn gweithio yn y swyddfa ac mae ganddi ganiatâd i fynd i mewn.

C. Maent i gyd yn euog gan eu bod wedi mynd i mewn fel tresmaswyr ac yna wedi dwyn ar ôl mynd i mewn i’r swyddfa.

D. Maent i gyd yn ddieuog gan nad ydynt wedi defnyddio grym i fynd i mewn i’r swyddfa.

E. Maent i gyd yn euog gan fod bwriad i ddwyn wedi’i ffurfio ar adeg mynd i mewn i’r swyddfa.


C - Maent i gyd yn euog gan eu bod wedi mynd i mewn fel tresmaswyr ac yna wedi dwyn ar ôl mynd i mewn i’r swyddfa.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?