SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 33

Roedd dyn yn yfed mewn bar cyhoeddus ac aeth yn feddw iawn. Bu’n dadlau gyda chwsmer arall ac yn sydyn trawodd ef y cwsmer arall yn ei wyneb gyda’i wydryn gwag gan achosi anaf a oedd yn gyfystyr â niwed corfforol difrifol (grievous bodily harm). Roedd y dyn mor feddw fel na wyddai beth yr oedd yn ei wneud. Roedd y dyn wedi meddwi o’i wirfodd (voluntarily). Arestiodd yr heddlu’r dyn. Mae wedi cael ei gyhuddo (charged) o glwyfo (wounding) gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Pa un o’r canlynol yw’r disgrifiad gorau o atebolrwydd (liability) y dyn am glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol?

A. Nid yw’n euog gan ei fod mor feddw fel nad oedd wedi ffurfio’r bwriad angenrheidiol ar gyfer y drosedd.

B. Nid yw’n euog gan fod meddwdod yn rhoi esgus rhesymol am yr ymosodiad.

C. Mae’n euog gan iddo feddwi o’i wirfodd a bod hynny’n ddigon di-hid (reckless) i fodloni’r gofyniad mens rea ar gyfer y drosedd hon.

D. Mae’n euog gan fod achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol yn drosedd â bwriad penodol (specific intent) ac nid yw meddwdod yn amddiffyniad yn achos trosedd â bwriad penodol.

E. Mae’n euog gan fod achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol yn drosedd â bwriad sylfaenol (basic intent) ac nid yw meddwdod yn amddiffyniad yn achos trosedd â bwriad sylfaenol.


A - Nid yw’n euog gan ei fod mor feddw fel nad oedd wedi ffurfio’r bwriad angenrheidiol ar gyfer y drosedd.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?