SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 39

Mae cyfreithiwr yn ychwanegu at ei incwm drwy fflatiau prynu-i-osod. Mae’r cyfreithiwr yn penderfynu gwerthu un o’r fflatiau a defnyddio’r cyfalaf ar gyfer buddsoddiad arall. Mae un o gleientiaid y cyfreithiwr yn cynnig y pris llawn a ofynnir am y fflat ac mae’r cyfreithiwr yn derbyn cynnig ei gleient.

Gan wybod yn iawn mai’r cyfreithiwr yw’r gwerthwr, mae’r cleient yn cyfarwyddo’r un cyfreithiwr yn ysgrifenedig i weithredu fel cyfreithiwr ar ei ran yn y trafodiad. Mae’r cyfreithiwr yn derbyn y cyfarwyddyd ac yn paratoi’r holl ddogfennau. Cwblheir y gwaith trosglwyddo heb gymhlethdodau.

A wnaeth y cyfreithiwr weithredu yn unol â Safonau a Rheoliadau SRA?

A. Do, oherwydd gall cyfreithiwr weithredu pan fydd gwrthdaro o ran ei fuddiannau ei hun os yw wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan y cleient.

B. Do, oherwydd gall cyfreithiwr weithredu pan fydd gwrthdaro o ran ei fuddiannau ei hun os yw wedi’i fodloni bod hynny er lles pennaf ei gleient.

C. Do, oherwydd gall cyfreithiwr weithredu pan fydd gwrthdaro o ran ei fuddiannau ei hun os oes gan y cyfreithiwr a’r cleient fuddiant cyffredin sylweddol.

D. Naddo, oherwydd ni all cyfreithiwr weithredu pan fydd gwrthdaro o ran ei fuddiannau ei hun oni bai bod y cyfreithiwr a’r cleient yn cystadlu tuag at yr un amcan.

E. Naddo, oherwydd ni all cyfreithiwr weithredu pan fydd gwrthdaro o ran ei fuddiannau ei hun neu risg sylweddol y bydd gwrthdaro o ran ei fuddiannau ei hun.


E - Naddo, oherwydd ni all cyfreithiwr weithredu pan fydd gwrthdaro o ran ei fuddiannau ei hun neu risg sylweddol y bydd gwrthdaro o ran ei fuddiannau ei hun.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?