SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 4

Bu farw dyn fis yn ôl gan adael ewyllys sy’n enwi ei ffrind yn unig ysgutor (sole executor) iddo.

Nid yw’r ysgutor wedi gwneud cais am grant profiant (grant of probate) eto. Mae’n dymuno amddiffyn ei hun rhag hawliadau credydwyr anhysbys ac mae wedi penderfynu rhoi hysbysebion yn y London Gazette, sef papur newydd a ddosberthir yn yr ardal lle mae’r tir sy’n rhan o’r ystad, yn ogystal ag unrhyw bapur newydd neu gyhoeddiad arall a allai fod yn addas yn ei farn ef.

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau beth y dylai’r ysgutor ei wneud o ran yr hysbysebion er mwyn amddiffyn ei hun rhag hawliadau gan gredydwyr anhysbys?

A. Dylai osod yr hysbysebion ac aros am ddau fis ar ôl dyddiad y grant profiant cyn dosbarthu’r ystad.

B. Dylai osod yr hysbysebion ac aros am ddau fis ar ôl dyddiad yr hysbysebion cyn dosbarthu’r ystad.

C. Dylai osod yr hysbysebion ac aros am ddau fis ar ôl dyddiad marwolaeth y dyn cyn dosbarthu’r ystad.

D. Dylai osod yr hysbysebion ond rhaid iddo aros am ddau fis ar ôl dyddiad marwolaeth y dyn cyn gwneud hynny.

E. Dylai osod yr hysbysebion ond aros am ddau fis ar ôl dyddiad y grant profiant cyn gwneud hynny.


B - Dylai osod yr hysbysebion ac aros am ddau fis ar ôl dyddiad yr hysbysebion cyn dosbarthu’r ystad.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?