SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 8

Ym mis Mawrth 2023, roedd hawlydd wedi dwyn hawliad yn erbyn ei blymer am dorcontract (breach of contract), yr honnir iddo ddigwydd ym mis Mehefin 2017. Roedd y plymer yn gweithredu fel unig fasnachwr (sole trader).

Ym mis Awst 2023, bu farw’r plymer. Mae cynrychiolwyr personol y plymer yn delio â’i hasedau hi.

Ym mis Hydref 2023, fe wnaeth yr hawlydd gais i roi cynrychiolwyr personol y plymer yn yr hawliad yn lle’r plymer a fu farw, fel bod yr hawliad yn gallu parhau.

Pa bwerau sydd gan y llys i roi rhywun yn yr hawliad yn lle’r plymer, fel parti a fu farw?

A. Mae’r llys yn gallu gorchymyn bod parti newydd yn cymryd ei lle, gan fod y cyfnod cyfyngu (limitation period) perthnasol yn dal i fod yn gyfredol pan gyflwynodd yr hawlydd gais ar gyfer disodli (substitution).

B. Nid yw’r llys yn gallu gorchymyn bod parti newydd yn cymryd ei lle gan fod y cyfnod cyfyngu (limitation period) perthnasol wedi dod i ben.

C. Mae’r llys yn gallu gorchymyn bod parti newydd yn cymryd ei lle, gan fod y cyfnod cyfyngu (limitation period) perthnasol yn dal i fod yn gyfredol pan ddechreuodd yr achos.

D. Mae’r llys yn gallu gorchymyn bod parti newydd yn cymryd ei lle, gan fod y cyfnod cyfyngu (limitation period) perthnasol yn dal i fod yn gyfredol pan fu farw’r plymer.

E. Nid yw’r llys yn gallu gorchymyn bod parti newydd yn cymryd ei lle, gan mai busnes y plymer sydd â’r atebolrwydd (liability) o hyd.


C - Mae’r llys yn gallu gorchymyn bod parti newydd yn cymryd ei lle, gan fod y cyfnod cyfyngu (limitation period) perthnasol yn dal i fod yn gyfredol pan ddechreuodd yr achos.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?