SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 31

Mae gweithiwr anabl mewn cwmni o gyfreithwyr wedi gofyn i’r cwmni brynu meddalwedd gyfrifiadurol iddo ei defnyddio yn y gwaith. Mae’r feddalwedd hon yn galluogi rhywun sydd ag anabledd y gweithiwr i ddefnyddio cyfrifiadur yn fwy effeithiol. Mae’r partneriaid yn y cwmni eisiau cyngor ar eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (‘y Ddeddf’).

Beth y mae’n rhaid i’r partneriaid yn y cwmni ei wneud i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf?

A. Rhaid iddynt wneud addasiadau sylweddol (substantial) i sicrhau nad yw’r gweithiwr anabl dan anfantais o’i gymharu â’r rheini nad ydynt yn anabl.

B. Rhaid iddynt wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw’r gweithiwr anabl dan anfantais sylweddol (substantial) o’i gymharu â’r rheini nad ydynt yn anabl.

C. Rhaid iddynt wneud addasiadau i sicrhau nad yw’r gweithiwr anabl dan anfantais arwyddocaol (significant) o’i gymharu â’r rheini nad ydynt yn anabl.

D. Rhaid iddynt wneud addasiadau arwyddocaol (significant) i sicrhau nad yw’r gweithiwr anabl dan anfantais o’i gymharu â’r rheini nad ydynt yn anabl.

E. Rhaid iddynt wneud addasiadau i sicrhau nad yw’r gweithiwr anabl dan anfantais afresymol o’i gymharu â’r rheini nad ydynt yn anabl.


B - Rhaid iddynt wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw’r gweithiwr anabl dan anfantais sylweddol (substantial) o’i gymharu â’r rheini nad ydynt yn anabl.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?