SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 39

Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran cleient sy’n codi arian sydd wedi’i sicrhau yn erbyn ei gartref er mwyn ariannu ei fusnes newydd. Bydd y cyfreithiwr yn rhoi cyngor ac yn paratoi’r holl ddogfennau angenrheidiol mewn perthynas â’r morgais.

Mae’r cleient yn gofyn i’r cyfreithiwr egluro’r prif wahaniaethau rhwng morgais ad-dalu a morgais gwaddol (endowment). Nid yw’r cyfreithiwr na’i gwmni wedi cael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i gyflawni gweithgaredd a reoleiddir.

A oes modd i’r cyfreithiwr roi’r esboniad y gofynnir amdano o ran y mathau o forgeisi?

A. Oes, gan fod cyngor o’r fath yn rhan angenrheidiol o ddarparu ei wasanaethau cyfreithiol.

B. Oes, gan ei fod yn ddarostyngedig i Reolau (Cwmpas) Gwasanaethau Ariannol Cyfreithwyr (Solicitors’ Financial Services (Scope) Rules) ac felly mae’n dod o dan esemptiad (exemption) rhag Deddf Marchnadoedd a Gwasanaethau Ariannol 2000.

C. Oes, gan fod darparu cyngor cyffredinol yn syrthio’r tu allan i gwmpas Deddf Marchnadoedd a Gwasanaethau Ariannol 2000.

D. Nac oes, gan nad yw cyngor o’r fath yn dod o dan esemptiad (exemption) rhag Deddf Marchnadoedd a Gwasanaethau Ariannol 2000.

E. Nac oes, gan nad yw’r cyfreithiwr wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol i roi cyngor mewn perthynas â’r naill fath o forgais na’r llall.


C - Oes, gan fod darparu cyngor cyffredinol yn syrthio’r tu allan i gwmpas Deddf Marchnadoedd a Gwasanaethau Ariannol 2000.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?