SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 14

Cafodd cwmni cyfyngedig preifat ei gorffori gyda Rheoliadau Cwmnïau (Erthyglau Enghreifftiol) 2008 (‘yr Erthyglau Enghreifftiol’) fel ei erthyglau cymdeithasiad (articles of association), ond yn ddiweddar, yn dilyn buddsoddiad pellach gan gyfranddalwyr newydd, mae wedi mabwysiadu erthyglau cymdeithasiad diwygiedig. Mae’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig (‘yr Erthyglau Newydd’) yn seiliedig ar yr Erthyglau Enghreifftiol ond hefyd yn cynnwys rhai erthyglau arbennig.

Beth y mae’n rhaid ei ffeilio gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau ar ôl mabwysiadu’r Erthyglau Newydd?

A. Cofnodion y bwrdd sy’n cynnig y newidiadau i’r Erthyglau Enghreifftiol a phenderfyniad y cyfranddalwyr i fabwysiadu’r Erthyglau Newydd.

B. Penderfyniad y cyfranddalwyr i fabwysiadu’r Erthyglau Newydd a’r ffi benodedig.

C. Yr Erthyglau Newydd a’r ffi benodedig.

D. Penderfyniad y cyfranddalwyr i fabwysiadu’r Erthyglau Newydd, a’r Erthyglau Newydd.

E. Cofnodion y bwrdd sy’n cynnig y newidiadau i’r Erthyglau Enghreifftiol, a’r Erthyglau Newydd.


D - Penderfyniad y cyfranddalwyr i fabwysiadu’r Erthyglau Newydd, a’r Erthyglau Newydd.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?