SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 56

Cafodd adran o’r llywodraeth ei chreu yn ddiweddar i fynd i’r afael â’r bygythiad cynyddol o derfysgaeth yn y DU. Mae’r gweision sifil sy’n gweithio yn yr adran newydd (‘y Staff’) yn rhoi sylw i ddeunydd cyfrinachol sy’n berthnasol i ddiogelwch cenedlaethol, ac maent wedi cael eu dethol o blith gweithwyr presennol y gwasanaeth sifil. Roedd yr holl Staff a gafodd eu dewis i ymuno â’r adran newydd yn aelodau presennol o undeb llafur cenedlaethol mwyaf y gwasanaeth sifil (‘yr Undeb’).

Wedi i’r Staff fod yn eu swyddi newydd am chwe mis, ac yn dilyn cynnydd mewn gweithredu diwydiannol gan rai undebau llafur y gwasanaeth sifil, dywedir wrth y Staff eu bod wedi cael eu gwahardd rhag bod yn aelodau o’r Undeb, gan ddechrau ar unwaith. Ni chynhaliwyd ymgynghoriad â’r Staff na’r Undeb. Nid oedd yr Undeb yn rhan o’r gweithredu diwydiannol diweddar. Mae’r Staff yn dymuno dwyn hawliad o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, gan honni bod eu hawliau Erthygl 11 i ryddid ymgynnull a chymdeithasu (freedom of assembly and association), fel sydd wedi’u hymgorffori yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, wedi’u torri.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n cynrychioli’r cyngor gorau i’r Staff am yr amddiffyniad a gynigir gan Erthygl 11?

A. Mae hawliau Erthygl 11 yn hawliau amodol (qualified rights) y gellir eu harfer yn amodol ar gyfyngiadau a osodir er budd diogelwch cenedlaethol.

B. Mae hawliau Erthygl 11 yn hawliau cyfyngedig (limited rights) y gellir eu harfer yn amodol ar gyfyngiadau a osodir er budd lles cymdeithasol ac economaidd y wlad.

C. Mae hawliau Erthygl 11 yn rhai absoliwt mewn perthynas â hawl yr unigolyn i ffurfio undebau llafur ac i ymuno â nhw, er mwyn diogelu eu buddiannau eu hunain.

D. Mae hawliau Erthygl 11 yn hawliau amodol (qualified rights) ac mae ymgynghori yn amod angenrheidiol wrth ystyried a yw’n gymesur cyfyngu ar yr hawl i ffurfio undebau llafur ac i ymuno â nhw.

E. Mae hawliau Erthygl 11 yn hawliau cyfyngedig (limited rights) ac nid ydynt yn amodol ar gyfyngiadau pan gânt eu harfer gan y lluoedd arfog, yr heddlu neu weinyddiaeth y wladwriaeth (administration of the state).


A - Mae hawliau Erthygl 11 yn hawliau amodol (qualified rights) y gellir eu harfer yn amodol ar gyfyngiadau a osodir er budd diogelwch cenedlaethol.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?