SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 13

Mae gan gwmni ddyddiad cyfeirio cyfrifyddu (accounting reference date) o 31 Rhagfyr. Dechreuodd fasnachu ym mis Ebrill, fel bod ei gyfnod cyfrifyddu cyntaf yn dod i ben ar 31 Rhagfyr yn ystod y flwyddyn y dechreuodd fasnachu. Yn ystod y cyfnod cyfrifyddu cyntaf hwn, ni wnaeth y cwmni elw masnachu na cholled fasnachu. Fodd bynnag, gwnaeth y cwmni enillion trethadwy o £75,000 ym mis Tachwedd wrth werthu eiddo rhydd-ddaliadol (freehold). Ni wnaeth y cwmni unrhyw golledion cyfalaf yn ystod y cyfnod cyfrifyddu cyntaf hwn.

Yn ei ail gyfnod cyfrifyddu, a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr yn y flwyddyn ganlynol, gwnaeth y cwmni golled fasnachu o £45,000. Ni wnaeth y cwmni enillion cyfalaf na cholled gyfalaf yn ystod yr ail gyfnod cyfrifyddu.

A oes modd i’r golled fasnachu o £45,000 a wnaed yn yr ail gyfnod cyfrifyddu gael ei rhoi yn erbyn yr enillion trethadwy o £75,000 o’r cyfnod cyfrifyddu cyntaf?

A. Oes, oherwydd na chafwyd unrhyw golledion masnachu na chyfalaf yn y cyfnod cyfrifyddu cyntaf.

B. Nac oes, gan mai dim ond yn erbyn elw masnachu o gyfnod cyfrifyddu cynharach y gellir gosod colled fasnachu.

C. Oes, gan fod yr enillion trethadwy wedi digwydd yn ystod y cyfnod o 12 mis a ddaeth i ben yn union cyn y cyfnod cyfrifyddu pan ddigwyddodd y golled fasnachu.

D. Nac oes, gan nad oedd y cwmni’n masnachu yn ystod y cyfnod o 12 mis llawn cyn y cyfnod cyfrifyddu pan ddigwyddodd y golled fasnachu.

E. Nac oes, gan fod modd cario colled fasnachu ymlaen a’i rhoi yn erbyn elw masnachu o gyfnod cyfrifyddu dilynol yn unig.


C - Oes, gan fod yr enillion trethadwy wedi digwydd yn ystod y cyfnod o 12 mis a ddaeth i ben yn union cyn y cyfnod cyfrifyddu pan ddigwyddodd y golled fasnachu.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?