SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 35

Mae cyfreithiwr wedi’i gyfarwyddo gan gwmni cleient sy’n cael anawsterau o ran llif arian. Mae’r cleient wedi gofyn i’r cyfreithiwr roi cyngor ynglŷn â dyletswyddau ei gyfarwyddwyr mewn perthynas â monitro sefyllfa ariannol y cwmni. Yn ystod y trafodaethau, mae’r cleient yn dweud bod y cwmni’n ystyried gwella ei sefyllfa ariannol drwy fuddsoddi mewn gwarannau ecwiti (equity securities) ac mae’n gofyn a all y cyfreithiwr argymell unrhyw stocbroceriaid i’r cleient.

Mae brawd y cyfreithiwr yn bartner mewn cwmni o stocbroceriaid sydd wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac sydd wedi sicrhau enillion sylweddol i’r cyfreithiwr ac i gleientiaid eraill.

O ran argymell, mae’r cyfreithiwr wedi dod i’r casgliad:

(i) ni fyddai’n peryglu ei annibyniaeth fel cynghorwr cyfreithiol y cleient mewn unrhyw ffordd; a

(ii) byddai er budd pennaf (best interests) y cleient gan mai’r stocbroceriaid hyn yw’r gorau yn y maes hwn.

Ni fydd y cyfreithiwr yn cael budd ariannol o’r argymhelliad. Mae’r cyfreithiwr yn gwybod y byddai ei frawd yn ddiolchgar bod busnes yn cael ei gyflwyno iddo.

Pa un o’r camau canlynol ddylai’r cyfreithiwr ei gymryd nesaf?

A. Rhoi’r gorau i weithredu ar ran y cleient.

B. Argymell unigolyn yn y cwmni o stocbroceriaid i’r cleient yn hytrach nag at frawd y cyfreithiwr.

C. Sicrhau cadarnhad ysgrifenedig gan ei frawd na fydd y cyfreithiwr yn cael budd ariannol am argymell busnes.

D. Rhoi gwybod i’r cleient bod brawd y cyfreithiwr yn bartner yn y cwmni o stocbroceriaid.

E. Gofyn i rywun arall yng nghwmni’r cyfreithiwr i argymell y cwmni o stocbroceriaid i’r cleieint.


D - Rhoi gwybod i’r cleient bod brawd y cyfreithiwr yn bartner yn y cwmni o stocbroceriaid.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?