SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 38

Mae dyn yn cael ei gyflogi gan gwmni toi (roofing) i drwsio toeau. Mae’r rôl yn golygu bod angen iddo wisgo menig arbennig er mwyn amddiffyn ei ddwylo pan fydd yn trin teils to. Wrth sefyll ar sgaffaldiau, a godwyd yn esgeulus (negligently) gan y cwmni toi, mae’n disgyn oddi arnynt ac yn dioddef anaf difrifol i’w ben, ac mae’n dwyn hawliad. Bu’n ddiofal (careless) drwy beidio â gwisgo’r menig bryd hynny.

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio’r sefyllfa orau o ran gallu’r cwmni i honni esgeuluster cyfrannol (contributory negligence) y töwr?

A. Ni all y cwmni honni esgeuluster cyfrannol oherwydd nid diofalwch y töwr a oedd wedi achosi na chyfrannu at yr anaf.

B. Ni all y cwmni honni esgeuluster cyfrannol gan nad oedd dyletswydd gofal ar y töwr tuag at y cwmni.

C. Gall y cwmni honni esgeuluster cyfrannol gan fod diofalwch y töwr wedi achosi neu gyfrannu at yr anaf.

D. Gall y cwmni honni esgeuluster cyfrannol gan fod diofalwch y töwr wedi cynyddu’n sylweddol y risg o anaf.

E. Gall y cwmni honni esgeuluster cyfrannol gan fod dyletswydd gofal ar y töwr tuag at y cwmni.


A - Ni all y cwmni honni esgeuluster cyfrannol oherwydd nid diofalwch y töwr a oedd wedi achosi na chyfrannu at yr anaf.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?