SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 5

Mae menyw yn y DU yn honni bod awdurdod cyhoeddus wedi torri ei hawliau o dan Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Er ei bod hi’n dymuno protestio, nid yw’n fodlon dwyn achos llys o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 (DHD) yn erbyn yr awdurdod cyhoeddus oherwydd y cyhoeddusrwydd y gallai ei wynebu, ac oherwydd y gost bosibl. Mae gan y fenyw gyfnither (cousin) gyfoethog nad yw wedi’i heffeithio gan yr achos honedig o dorri hawliau, ond sy’n fodlon dwyn achos llys ar ran y fenyw.

A oes modd i’r gyfnither ddwyn achos cyfreithiol fel cynrychiolydd y fenyw, o dan y DHD?

A. Oes, gan fod cynrychiolwyr o’r teulu yn benodol yn cael statws cyfreithiol dan y DHD.

B. Oes, gan fod y DHD yn nodi y gall cynrychiolydd ddwyn achos pan fydd anhysbysrwydd (anonymity) yn bryder difrifol i’r dioddefwr.

C. Nac oes, gan mai dim ond dioddefwr yr achos o dorri hawliau sy’n gallu dwyn achos ac nid yw’r gyfnither yn ddioddefwr.

D. Oes, gan y bydd y llys yn fodlon bod y gyfnither, fel cynrychiolydd, yn gallu talu treuliau (expenses) yr achos.

E. Nac oes, gan nad oes modd i gynrychiolydd ddwyn achos o dan y DHD oni bai ei fod yn sefyll ar ran nifer o unigolion sy’n gwneud yn union yr un hawliadau.


C - Nac oes, gan mai dim ond dioddefwr yr achos o dorri hawliau sy’n gallu dwyn achos ac nid yw’r gyfnither yn ddioddefwr.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?