SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 37

Mae cyfreithiwr yn cynghori cleient ar gontract cyflogaeth ynglŷn â swydd a gynigiwyd i’r cleient mewn cwmni newydd (start-up company). Ar hyn o bryd mae’r cleient mewn swydd barhaol mewn cwmni sydd wedi’i hen sefydlu.

Y diwrnod canlynol, dros ginio yn y clwb golff, mae’r cyfreithiwr yn eistedd wrth ymyl person mae’n ei adnabod rywfaint. Mae’r person hwnnw’n dweud wrth y cyfreithiwr ei fod yn poeni bod y busnes y mae’n gweithio iddo am fethu’n ariannol am fod ei brif gwsmer am fynd i ddwylo’r derbynnydd (taken into receivership) yn fuan. Yna mae’n dweud wrth y cyfreithiwr beth yw enw’r busnes y mae’n gweithio iddo. Er syndod i’r cyfreithiwr, drwy gyd-ddigwyddiad, y cwmni newydd yw hwn.

A oes dyletswydd ar y cyfreithiwr i roi gwybod i’r cleient am y pryderon ynglŷn â rhagolygon ariannol y cwmni newydd?

A. Nac oes, oherwydd cafwyd yr wybodaeth yn ystod bywyd personol y cyfreithiwr ac felly nid yw’n effeithio ar ei ddyletswyddau proffesiynol

B. Nac oes, gan fod y ddyletswydd cyfrinachedd yn drech na (overrides) y ddyletswydd i ddatgelu.

C. Nac oes, gan fod rhaid cadw gwybodaeth a geir gan gleientiaid yn gyfrinachol oni bai bod y gyfraith yn mynnu neu’n caniatáu datgeliad (disclosure) neu os bydd y cleient yn caniatáu hynny.

D. Oes, gan fod yr wybodaeth yn berthnasol i fater y cleient.

E. Oes, gan fod y ddyletswydd i ddatgelu yn drech na (overrides) y ddyletswydd cyfrinachedd.


D - Oes, gan fod yr wybodaeth yn berthnasol i fater y cleient.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?