SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 16

Yn dilyn cyfres o ffrwydradau terfysgol yng nghanol Llundain, rhoddodd y llywodraeth bwerau uchelfreiniol brys (emergency prerogative powers) ar waith. Roedd y pwerau hyn yn galluogi’r llywodraeth i gymryd rheolaeth dros adeiladau masnachol a ddifrodwyd yn y ffrwydradau. Roedd y pwerau hefyd yn galluogi’r llywodraeth i wrthod mynediad i feddianwyr (occupiers) i’r adeiladau hynny tra bo timau fforensig yn ymgymryd â’r broses hir o gasglu tystiolaeth.

Gan gydnabod yr effaith ar feddianwyr adeiladau o’r math yma, pasiodd Senedd y Deyrnas Unedig ddeddfwriaeth i greu cynllun digolledu (compensation) a fyddai’n galluogi’r bobl hynny sydd wedi cael eu heffeithio i hawlio costau a cholledion tra bo’r adeiladau hynny o dan reolaeth y llywodraeth.

Er gwaethaf y ddeddfwriaeth newydd hon, mae’r llywodraeth yn parhau i ddefnyddio’r pwerau uchelfreiniol er mwyn osgoi talu digollediad o’r fath o dan y cynllun statudol.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n rhoi’r crynodeb gorau o’r sefyllfa gyfreithiol?

A. Pan fo gorgyffwrdd rhwng pŵer uchelfreiniol a statud, nid yw’r naill yn drech na’r llall (neither prevails); mae’r llysoedd yn troi at y gyfraith gyffredin am arweiniad.

B. Pan fo gorgyffwrdd rhwng pŵer uchelfreiniol a statud, y statud sydd drechaf (prevails).

C. Pan fo gorgyffwrdd rhwng pŵer uchelfreiniol a statud, y pŵer uchelfreiniol sydd drechaf (prevails).

D. Pan fo gorgyffwrdd rhwng pŵer uchelfreiniol a statud, gall y barnwr sy’n delio â’r mater droi at drafodaethau yn Senedd y Deyrnas Unedig i gael arweiniad.

E. Pan fo gorgyffwrdd rhwng pŵer uchelfreiniol a statud, gall y barnwr sy’n delio â’r mater droi at lys uwch i gael arweiniad.


B - Pan fo gorgyffwrdd rhwng pŵer uchelfreiniol a statud, y statud sydd drechaf (prevails).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?