SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 59

Mae paragyfreithiwr wedi ei gyflogi ers 18 mis mewn cwmni o gyfreithwyr. Ymddangosodd fel tyst mewn hawliad llwyddiannus a wnaethpwyd gan un o’i chydweithiwr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (‘y Ddeddf’) yn erbyn y cwmni yn y Tribiwnlys Cyflogaeth. Mae’r paragyfreithiwr a’r cydweithiwr yn parhau i weithio i’r cwmni ar ôl i’r hawliad ddod i ben.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, mae’r cwmni’n talu bonws disgresiynol i staff yn eu cyflog i ddiolch iddynt am eu gwaith caled y flwyddyn ariannol honno. Nid yw’r paragyfreithiwr na’r cydweithiwr yn derbyn bonws, yn wahanol i’r holl staff eraill. Nhw yw’r unig weithwyr sydd wedi bod yn rhan o achos y Tribiwnlys Cyflogaeth yn erbyn y cwmni. Mae’r paragyfreithiwr yn codi’r mater gyda’i rheolwr llinell ond heb lwyddiant, sy’n gwneud iddi deimlo ei bod hi’n cael ei bychanu.

Mae’r paragyfreithiwr yn gofyn am gyngor ynghylch a all ddwyn hawliad o dan y Ddeddf am y methiant i dalu’r bonws disgresiynol iddi.

A yw’r cwmni’n debygol o fod wedi torri ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf drwy beidio â thalu’r bonws disgresiynol i’r paragyfreithiwr?

A. Nac ydy, gan fod y bonws yn ôl disgresiwn y cwmni yn unig ac nid yw’n un o’r telerau cytundebol.

B. Ydy. Mae hawliad tebygol o wahaniaethu (discrimination) uniongyrchol.

C. Ydy. Mae hawliad tebygol o erledigaeth (victimisation).

D. Ydy. Mae hawliad tebygol o aflonyddu (harassment).

E. Nac ydy, gan nad yw’r paragyfreithiwr wedi gweithio yn y cwmni ers dwy flynedd.


C - Ydy. Mae hawliad tebygol o erledigaeth (victimisation).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?