SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 61

Mae cwsmer yn prynu teledu mewn siop ar 24 Rhagfyr. Anrheg yw hon i’w ferch. Wrth brynu’r teledu, nid yw’n dweud mai anrheg i rywun arall ydyw.

Pan mae ei ferch yn agor y bocs mae hi’n darganfod bod y teledu yn ddiffygiol. Mae hi’n teithio i’r siop ar 26 Rhagfyr ac yn gofyn am deledu arall neu ad-daliad. Mae’r siop yn gwrthod.

Pa gyngor y dylid ei roi i’r ferch?

A. Mae gan y ferch hawliau o dan y contract gan ei bod hi wedi dioddef anfantais am ei fod wedi teithio i’r siop.

B. Mae gan y ferch hawliau o dan y contract oherwydd, yn sgil prawf gwrthrychol (objective test), roedd y teledu yn debygol o fod wedi cael ei brynu fel anrheg i drydydd parti.

C. Mae gan y ferch hawl o dan y contract i gael teledu newydd, yn lle’r llall, yn unig.

D. Nid oes gan y ferch unrhyw hawliau o dan y contract gan nad oedd hi’n barti iddo.

E. Nid oes gan y ferch unrhyw hawliau o dan y contract gan mai cytundeb domestig yw hwn rhwng aelodau o deulu.


D - Nid oes gan y ferch unrhyw hawliau o dan y contract gan nad oedd hi’n barti iddo.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?