SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 51

Mae cwmni cyfyngedig (‘yr Hawlydd’) yn cyflenwi stondinau beiciau sy’n costio £15,000 gan gynnwys TAW i unig fasnachwr (sole trader) (‘y Diffynnydd’) sy’n gwerthu beiciau trydan. Mae’r Diffynnydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW. Mae’r Diffynnydd yn methu talu’r swm sy’n ddyledus.

Mae’r Hawlydd yn cyfarwyddo cyfreithiwr sy’n cael dyfarniad ariannol yn y Llys Sirol am y swm llawn, a llog (interest). Nid yw’r Diffynnydd yn talu’r ddyled o fewn 14 diwrnod fel y mae’r llys yn ei orchymyn.

Mae’r Hawlydd yn hysbysu’r cyfreithiwr yn gywir bod y Diffynnydd yn rhentu fflat drud iawn, mae ei busnes yn gwneud yn dda ac mae hi hefyd yn lesio uned ddiwydiannol lle mae’n gwerthu ac yn storio ei stoc i gyd. Mae hi hefyd yn talu arian bob mis i gyfrif banc sydd yn ei henw hi ac enw ei phriod (spouse) sydd â balans cyfredol o £30,000.

Beth yw’r ffordd orau o orfodi’r dyfarniad i adennill rhywfaint o ddyled y dyfarniad neu’r ddyled i gyd?

A. Gwarant rheolaeth (warrant of control).

B. Gorchymyn atafaelu enillion (attachment of earnings order).

C. Gorchymyn arwystlo (charging order) dros y fflat.

D. Gorchymyn dyled trydydd parti.

E. Gwrit rheolaeth (writ of control).


E - Gwrit rheolaeth (writ of control).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?