SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 50

Wrth yrru ei char ar hyd ffordd, mae menyw’n gweld bod golau rhybuddio (warning light) yn nodi bod olew’r injan yn isel. Mae’r fenyw yn stopio’r car wrth ochr y ffordd ac yn cynnau goleuadau rhybudd (hazard lights) y car.

Mae gyrrwr sy’n pasio (‘y Modurwr’) yn gweld car y fenyw ac yn stopio i gynnig ei gymorth. Mae gan y Modurwr olew injan sbâr ac mae’r fenyw yn cytuno y dylai arllwys rhywfaint ohono i injan car y fenyw.

Mae’r golau rhybuddio olew yn diffodd ac mae’r fenyw yn tybio felly bod y car wedi’i drwsio. Mae’n dechrau gyrru eto ond o fewn 20 munud mae injan ei char yn mynd yn sownd, gan achosi difrod sylweddol i’r car.

Mae garej yn trwsio car y fenyw. Dywed wrthi fod y Modurwr wedi defnyddio’r math anghywir o olew injan ac mae hyn wedi achosi’r difrod i’r injan.

Mae’r fenyw yn dymuno dwyn hawliad mewn esgeuluster (claim in negligence) yn erbyn y Modurwr. Mae hi’n gofyn am gyngor gan gyfreithiwr sy’n credu nad oes cynseiliau tebyg nac achosion tebyg i sefydlu a oes dyletswydd gofal ar y Modurwr tuag at y fenyw. Mae cyngor cyfreithiol y cyfreithiwr ynglŷn â’r hyn y bydd y llys yn ei ystyried yn seiliedig ar y gred hon.

Pa gyngor cyfreithiol y bydd y cyfreithiwr yn ei roi ynglŷn â’r hyn y bydd y llys yn ei ystyried wrth benderfynu a oes dyletswydd gofal ar y Modurwr mewn esgeuluster tuag at y fenyw?

A. Dim ond gallu’r Modurwr i fod wedi rhagweld yn rhesymol y byddai difrod yn cael ei achosi i eiddo’r fenyw.

B. Dim ond p’un a oes gan y Modurwr berthynas o agosrwydd (relationship of proximity) â’r fenyw, a ph’un a yw’n deg, cyfiawn a rhesymol gosod dyletswydd arno.

C. Dim ond gallu’r Modurwr i fod wedi rhagweld yn rhesymol y byddai difrod yn cael ei achosi i eiddo’r fenyw ac a oes ganddo berthynas o agosrwydd (relationship of proximity) â hi.

D. Gallu’r Modurwr i fod wedi rhagweld yn rhesymol y byddai difrod yn cael ei achosi i eiddo’r fenyw, p’un oes ganddo berthynas o agosrwydd (relationship of proximity) â hi, a ph’un a yw’n deg, cyfiawn a rhesymol gosod dyletswydd arno.

E. Dim ond p’un a yw’n deg, cyfiawn a rhesymol gosod dyletswydd ar y Modurwr tuag at y fenyw.


D - Gallu’r Modurwr i fod wedi rhagweld yn rhesymol y byddai difrod yn cael ei achosi i eiddo’r fenyw, p’un oes ganddo berthynas o agosrwydd (relationship of proximity) â hi, a ph’un a yw’n deg, cyfiawn a rhesymol gosod dyletswydd arno.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?