SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 63

Mae cyngor lleol yn cyflwyno gwaharddiad ar blant oed ysgol rhag mynd i mewn i gaffis, canolfannau siopa a sinemâu rhwng 8am a 6pm ar ddiwrnodau ysgol. Nod y penderfyniad hwn yw lleihau lefelau uchel o driwantiaeth mewn ysgolion canol-y-ddinas. Fe’i gwneir o dan ddeddfwriaeth sy’n rhoi pwerau disgresiynol llawn i awdurdodau lleol gyflwyno mesurau sydd â’r nod o wella cyrhaeddiad addysgol ac fe’i cyflwynir heb ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r penderfyniad hwn yn peri gofid i fusnesau lleol ac maen nhw’n gofyn am gyngor cyfreithiol. Mae llawer ohonynt yn dibynnu ar fasnach gan blant ysgol lleol, a chan fod gwersi ysgol yn dod i ben erbyn 3.30pm ni allant weld sut y gellir cyfiawnhau’r gwaharddiad tan 6pm. Nid oes unrhyw faterion hawliau dynol yn y fantol.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n rhoi’r crynodeb gorau ar gyfer y sail y gellid ei defnyddio i herio’r penderfyniad hwn trwy adolygiad barnwrol (judicial review)?

A. Os nad yw’r penderfyniad yn rhoi digon o bwys i fuddiannau’r busnesau lleol.

B. Os nad yw’r penderfyniad yn arwain at welliant amlwg mewn cyrhaeddiad addysgol y plant ysgol lleol.

C. Os nad y penderfyniad hwn yw’r un mwyaf cost-effeithiol dan yr amgylchiadau.

D. Os yw’r penderfyniad yn mynd yn sylweddol y tu hwnt i’r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud mewn mannau eraill i fynd i’r afael â’r un mater.

E. Os yw’r penderfyniad mor warthus yn yr ystyr ei fod yn mynd yn groes i resymeg fel na allai unrhyw berson synhwyrol fod wedi ei wneud.


E - Os yw’r penderfyniad mor warthus yn yr ystyr ei fod yn mynd yn groes i resymeg fel na allai unrhyw berson synhwyrol fod wedi ei wneud.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?