SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 49

Er mwyn bwrw ymlaen ag achos gerbron y llys, mae angen dehongli adran mewn statud yn gywir ac mae’r barnwr yn ystyried ei opsiynau o dan reolau dehongli statudol (rules of statutory interpretation). Mae’n penderfynu defnyddio’r rheol drygau (mischief rule).

Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau sut y bydd y barnwr yn defnyddio’r rheol drygau wrth ddehongli’r statud?

A. Bydd yn ystyried y diffyg mewn cyfraith gyffredin a achosodd i’r Senedd berthnasol basio’r statud.

B. Bydd yn dewis dehongliad o’r statud sy’n mynd i’r afael ag unrhyw abswrdedd cychwynnol.

C. Bydd yn cyfeirio at y cofnod a gadwodd y drafftwyr seneddol a fu’n gweithio ar y statud.

D. Bydd yn defnyddio ystyr cyffredin a gramadegol y geiriau yn y statud.

E. Bydd yn defnyddio gwerslyfr academaidd fel cymorth allanol wrth ddehongli.


A - Bydd yn ystyried y diffyg mewn cyfraith gyffredin a achosodd i’r Senedd berthnasol basio’r statud.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?