SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 46

Mae cyfreithiwr yn cael ei gyflogi gan gwmni o gyfreithwyr sy’n cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) ac sy’n ‘gwmni proffesiynol eithriedig (excluded)’ at ddibenion gwasanaethau ariannol. Nid yw’r cwmni wedi’i awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae’r cyfreithiwr yn gweithredu ar ran menyw sy’n ystyried prynu un o ddwy lain (plot) gyfagos o dir fferm.

Hoffai’r fenyw gael cyngor ar ba un o’r ddwy lain y dylai ei phrynu ac mae’r cyfreithiwr yn cyfeirio’r fenyw at syrfëwr siartredig sydd ‘ynghlwm’ wrth asiant dir benodol. Mae’r fenyw yn dewis, ac yn penderfynu bwrw ymlaen â phrynu, un llain o dir ar sail y cyngor y mae hi’n ei gael gan y syrfëwr siartredig. Nid yw’r cyfreithiwr na’r cwmni o gyfreithwyr yn cael comisiwn na buddiant arall yn sgil cyfeirio’r fenyw at y syrfëwr. Mae’r cwmni a’r cyfreithiwr yn cydymffurfio bob amser â Rheolau Gwasanaethau Ariannol (Ymddygiad Busnes) SRA, a Rheolau Gwasanaethau Ariannol (Cwmpas) SRA.

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n disgrifio orau pam nad yw’r cyfreithiwr yn torri’r gwaharddiad cyffredinol o dan a.19 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000?

A. Nid yw’r llain o dir yn fuddsoddiad penodedig (specified).

B. Nid yw’r cyfreithiwr yn gweithredu yn unol â threfn arferol busnes.

C. Gall y cyfreithiwr fanteisio ar eithriad trydydd parti awdurdodedig.

D. Gall y cyfreithiwr fanteisio ar yr eithriad cyflwyno.

E. Mae cyngor y cyfreithiwr wedi’i esemptio (exempt) gan fod y cwmni yn cael ei reoleiddio gan SRA.


A - Nid yw’r llain o dir yn fuddsoddiad penodedig (specified).


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?