SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 44

Mae gyrrwr yn gyrru’n esgeulus (negligently) ac o ganlyniad mae’n cael damwain. Mae teithiwr yn ei gar yn cael anaf yn y ddamwain. Roedd eisoes gan y teithiwr gyflwr difrifol i’w gefn, ac roedd y gyrrwr yn ymwybodol o hynny. Mae’r cyflwr hwnnw’n gwaethygu o ganlyniad i’r ddamwain ac mae’r teithiwr yn cael ei barlysu.

Pa un o’r datganiadau canlynol yw’r disgrifiad gorau o’r sefyllfa o allu’r teithiwr i hawlio iawndal (damages) gan y gyrrwr am ei fod wedi ei barlysu?

A. Gall y teithiwr hawlio iawndal gan y gyrrwr am ei fod wedi ei barlysu, gan fod parlys o fewn ystyriaeth y partïon fel posibilrwydd ar adeg y ddamwain.

B. Gall y teithiwr hawlio iawndal gan y gyrrwr am ei fod wedi ei barlysu, gan fod yn rhaid i’r gyrrwr gymryd y teithiwr fel y mae ef ar y pryd.

C. Ni all y teithiwr hawlio iawndal gan y gyrrwr am ei fod wedi ei barlysu, gan na ellid yn rhesymol ragweld y byddai’n cael ei barlysu o ganlyniad i’r ddamwain.

D. Ni all y teithiwr hawlio iawndal gan y gyrrwr am ei fod wedi ei barlysu gan na ddeilliodd y parlys o’r ddamwain yn nhrefn arferol pethau (in the normal course of events).

E. Ni all y teithiwr hawlio iawndal gan y gyrrwr am ei fod wedi ei barlysu gan fod y teithiwr yn rhannol gyfrifol am y parlys oherwydd bod y cyflwr arno’n barod.


B - Gall y teithiwr hawlio iawndal gan y gyrrwr am ei fod wedi ei barlysu, gan fod yn rhaid i’r gyrrwr gymryd y teithiwr fel y mae ef ar y pryd.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?