SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 25

Mae tri chleient yn penderfynu dechrau busnes gyda’i gilydd. Mae pob un ohonynt yn buddsoddi symiau cyfalaf cyfartal yn y busnes, ac yn cytuno i rannu’r elw’n gyfartal. Ar ôl dwy flynedd, mae’r busnes wedi gwneud colled ac nid yw’r cleientiaid yn teimlo bellach bod y busnes yn hyfyw (viable).

A yw’r tri chleient wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’i gilydd?

A. Do, gan eu bod wedi dechrau busnes gyda’i gilydd ac wedi bwriadu gwneud elw er eu bod wedi gwneud colled.

B. Do, gan eu bod wedi cytuno i fuddsoddi’r un faint o gyfalaf yn y busnes.

C. Naddo, gan nad ydynt wedi ymrwymo i gytundeb partneriaeth ysgrifenedig.

D. Naddo, gan nad ydynt wedi cofrestru fel partneriaeth.

E. Naddo, gan eu bod wedi cytuno i rannu’r elw’n gyfartal ond ni wnaethant gytuno sut i rannu colledion rhyngddynt.


A - Do, gan eu bod wedi dechrau busnes gyda’i gilydd ac wedi bwriadu gwneud elw er eu bod wedi gwneud colled.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?