SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 36

Mae cleient yn gwrthwynebu penderfyniad sydd wedi cael ei wneud i roi caniatâd cynllunio i adeiladu archfarchnad ar dir ger ei gartref. Mae’r cleient wedi darganfod bod cadeirydd y pwyllgor cynllunio a wnaeth y penderfyniad yn gyfarwyddwr anweithredol (non-executive) ar y gadwyn archfarchnadoedd dan sylw.

Pa un o’r canlynol yw’r disgrifiad gorau o statws y penderfyniad hwn?

A. Bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon dim ond pan fydd y ffeithiau’n awgrymu i’r llys fod gwrthdaro buddiannau (conflict of interest) mewn gwirionedd a bod y penderfyniad mewn gwirionedd yn dangos tuedd (bias).

B. Os gall y cleient brofi y byddai arsyllwr (observer) teg a gwybodus yn dod i’r casgliad yn naturiol bod gwrthdaro buddiannau (conflict of interest), bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried yn un sy’n dangos tuedd (bias) yn awtomatig ac felly ei fod yn anghyfreithlon.

C. Er mwyn i’r penderfyniad dorri’r rheol yn erbyn tuedd (bias) ac felly gael ei ystyried yn anghyfreithlon, rhaid i’r cleient brofi i’r llys yn ôl pwysau tebygolrwydd (balance of probabilities) fod y cadeirydd mewn gwirionedd yn dangos tuedd.

D. Bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon dim ond os bydd y ffeithiau’n awgrymu i’r llys y byddai arsyllwr (observer) teg a gwybodus yn dod i’r casgliad bod y penderfyniad yn dangos tuedd (bias).

E. Os bydd y ffeithiau’n awgrymu i’r llys y byddai arsyllwr (observer) teg a gwybodus yn dod i’r casgliad bod posibilrwydd gwirioneddol o duedd (bias), bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon.


E - Os bydd y ffeithiau’n awgrymu i’r llys y byddai arsyllwr (observer) teg a gwybodus yn dod i’r casgliad bod posibilrwydd gwirioneddol o duedd (bias), bydd y penderfyniad yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?