SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 34

Mae cwmni’n prynu drymiau o asid glanhau diwydiannol gan fenyw, ac yn eu storio yn ffatri’r cwmni. Nid yw’r drymiau’n addas ar gyfer storio’r asid, ac mae’r asid yn gollwng gan achosi difrod i lawr y ffatri.

Mae un o weithwyr y cwmni’n gweld bod hyn yn achosi difrod i’r llawr ond nid yw’n symud y drymiau. Gallai’r drymiau fod wedi cael eu symud heb gost i’r cwmni. Mae’r cwmni’n hawlio £5,000 sef cost trwsio’r llawr. Mae’r fenyw’n gwrthod talu’r swm hwnnw gan ddadlau y dylai’r iawndal (damages) sy’n daladwy fod yn is.

A fydd dadl y fenyw yn llwyddiannus?

A. Bydd, gan fod dyletswydd ar y cwmni i leihau ei golledion drwy symud y drymiau.

B. Bydd, gan fod y cwmni’n euog o esgeuluster cyfrannol (contributory negligence) drwy beidio â symud y drymiau.

C. Na fydd, gan fod yn rhaid i’r fenyw dalu iawndal i’r cwmni am yr holl golledion sy’n deillio o hyn.

D. Na fydd, gan fod yn rhaid i’r fenyw dalu iawndal i’r cwmni am yr holl golledion sydd o fewn ystyriaeth resymol (reasonable contemplation) y cwmni.

E. Bydd, gan fod toriad yn y gadwyn achosiaeth (chain of causation).


A - Bydd, gan fod dyletswydd ar y cwmni i leihau ei golledion drwy symud y drymiau.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?