SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 17

Mae cyfreithiwr yn delio ag achos o esgeuluster (negligence) ar ran cleient. Ar y dechrau, rhoddodd y cyfreithiwr amcangyfrif ysgrifenedig o gyfanswm tebygol y costau, sef £15,000 gan gynnwys ffioedd y bargyfreithiwr ac alldaliadau (disbursements) eraill. Rai wythnosau’n ddiweddarach, mae’r cyfreithiwr yn penderfynu bod angen tystiolaeth arbenigol hefyd a bydd hyn yn costio £3,000 yn ychwanegol.

Pa un o’r canlynol sy’n egluro orau’r hyn y dylai’r cyfreithiwr ei wneud nesaf?

A. Does dim angen i’r cyfreithiwr wneud dim gan fod y cleient wedi cael gwybod mai dim ond amcangyfrif a gafodd ar y dechrau.

B. Does dim angen i’r cyfreithiwr wneud dim gan fod costau arbenigwyr yn cael eu dyfarnu gan y llys.

C. Does dim angen i’r cyfreithiwr wneud dim gan nad oes yn rhaid iddo ddweud wrth y cleient am gostau trydydd parti.

D. Dylai’r cyfreithiwr ysgrifennu at y cleient i roi gwybod iddo am gostau’r arbenigwr a gofyn am gyfarwyddyd gan fod yn rhaid i gyfreithiwr gael caniatâd ymlaen llaw ar gyfer pob eitem o wariant.

E. Dylai’r cyfreithiwr ysgrifennu at y cleient i roi gwybod iddo am gostau’r arbenigwr a gofyn am gyfarwyddyd gan nad yw’r amcangyfrif gwreiddiol yn gywir mwyach.


E - Dylai’r cyfreithiwr ysgrifennu at y cleient i roi gwybod iddo am gostau’r arbenigwr a gofyn am gyfarwyddyd gan nad yw’r amcangyfrif gwreiddiol yn gywir mwyach.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?