SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 62

Yn ystod ymweliad â’i hewythr, mae menyw’n cael ei brathu gan ei gi ef. Mae ei bys wedi ei dorri i ffwrdd yn y digwyddiad ac mae angen llawdriniaeth arni i ailgysylltu ei bys. Mae meddyg yn ei chynghori na fydd hi’n bosibl gwybod a yw’r llawdriniaeth wedi bod yn llwyddiannus am chwe mis a’i bod hi’n bosibl y bydd angen llawdriniaeth bellach. Bydd angen ffisiotherapi arni hefyd.

Mae’r fenyw’n ystyried yn ofalus am hawlio digollediad (compensation) gan ei hewythr. Mae hi’n dod i’r casgliad y bydd hi’n cyflwyno hawliad.

Mae’r ewythr yn dymuno osgoi costau ac oedi’r achos llys a byddai’n well ganddo fod yr hawliad yn cael ei ddatrys nawr trwy ddull amgen o ddatrys anghydfod (alternative dispute resolution). Mae’r ewythr yn cyflwyno ffrind agos sydd â chymwysterau addas i gynnal proses gyfryngu (mediation). Mae’r ewythr yn dweud bod gan ei ffrind gymwysterau rhagorol ac na fyddant yn gallu cael hyd i neb i fynegi barn well. Mae’r fenyw yn anghyfforddus ynglŷn â’r penodiad arfaethedig ac mae hi’n poeni na fydd hi’n cael digollediad llawn os na fydd hi’n cyflwyno achos llys ffurfiol. Mae’r fenyw yn penderfynu nad yw proses gyfryngu yn briodol ac mae hi’n dymuno cyfarwyddo cyfreithiwr i gyflwyno achos (issue proceedings).

Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n egluro orau pam y dylai’r fenyw wrthod cymryd rhan mewn dull amgen o ddatrys anghydfod, fel mae ei hewythr yn ei gynnig?

A. Ni fydd y cyfryngwr yn wirioneddol annibynnol gan ei fod yn ffrind i’r ewythr ac wedi cael ei ddewis ganddo.

B. Bydd yn rhaid i’r fenyw fod heb gynrychiolaeth yn y broses gyfryngu ac felly ni fydd ganddi’r fantais o arbenigedd cyfreithiol wrth gyflwyno ei hachos.

C. Mae awdurdod gan y cyfryngwr i osod setliad ar y fenyw ac mae hi’n poeni na fydd hi’n derbyn digollediad llawn.

D. Bydd gofyn i’r fenyw dalu ei chostau cyfryngu ei hun, ond bydd hi’n gallu adennill ei chostau i gyd os bydd hi’n llwyddiannus mewn achos llys.

E. Mae costau’r broses gyfryngu yn debygol o fod yn anghymesur (disproportionate) o uchel o’u cymharu â chost datrys ei hawliad drwy’r llys.


A - Ni fydd y cyfryngwr yn wirioneddol annibynnol gan ei fod yn ffrind i’r ewythr ac wedi cael ei ddewis ganddo.


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?