Polisi Cyfrinachedd Ymgeiswyr

Adolygwyd ddiwethaf: Rhagfyr 2024

  • Mae Polisi Cyfrinachedd Ymgeiswyr ar waith ar gyfer yr holl asesiadau SQE. Bydd angen i bob ymgeisydd sy'n sefyll asesiad SQE lofnodi Cytundeb Cyfrinachedd cyn dechrau'r asesiad.
  • Mae'r Cytundeb Cyfrinachedd yn berthnasol i holl asesiadau SQE. Mae angen i bob ymgeisydd lofnodi datganiad neu gadarnhau'n electronig ei fod wedi darllen a deall darpariaethau Polisi Cyfrinachedd Ymgeiswyr SQE ac yn cytuno i gydymffurfio â nhw; ei fod yn cytuno na fydd yn mynd ag unrhyw ddeunyddiau o'r ganolfan brofi; na fydd yn copïo unrhyw ddeunyddiau o'r asesiad; ei fod yn deall bod cynnwys yr asesiad hwn yn gyfrinachol; ac na fydd yn datgelu nac yn trafod unrhyw ran o'r cynnwys ag unrhyw barti arall. Mae'r cytundeb hwn wedi'i atgynhyrchu isod.
  • Ni chaniateir i ymgeiswyr ddechrau’r asesiad oni bai eu bod wedi llofnodi Cytundeb Cyfrinachedd.
  • Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei fod yn cydymffurfio â thelerau'r Cytundeb Cyfrinachedd a lofnodwyd cyn, yn ystod ac yn dilyn yr asesiad.
  • Bydd peidio â chydymffurfio â'r Cytundeb Cyfrinachedd yn torri'r Rheoliadau Asesu. Gallai unrhyw weithgaredd a wneir gan ymgeisydd (boed hynny'n fwriadol neu'n anfwriadol) a allai arwain at yr ymgeisydd neu gyd-ymgeisydd yn cael mantais annheg a/neu amhriodol mewn perthynas ag SQE fod yn groes i Reoliad Asesu 13. Mae manylion llawn ar gael yn adran 13 o Reoliadau Asesu SQE; Camymarfer ac Ymddygiad Amhriodol.

Datganiad Cyfrinachedd

Dyddiad yr Asesiad

Rwyf yn cadarnhau fy mod:

  • Wedi darllen a deall Polisi Cyfrinachedd Ymgeiswyr SQE ac yn cytuno i gydymffurfio â'i ddarpariaethau;
  • Ni fyddaf yn cymryd unrhyw ddeunyddiau o'r ganolfan brofi nac yn atgynhyrchu unrhyw ddeunyddiau o'r asesiad;
  • Rwy'n cydnabod bod cynnwys yr asesiad hwn yn gyfrinachol; ac
  • Ni fyddaf yn datgelu unrhyw ran o'i gynnwys i unrhyw barti arall nac yn ei drafod ag unrhyw barti arall.

Rwyf yn deall na chaniateir i ymgeiswyr adael neu ddatgysylltu o unrhyw sesiwn asesu nes y rhoddir caniatâd iddynt wneud gan Weinyddwr y Ganolfan Brofi/proctor.

Ydw, rwyf yn derbyn telerau'r Cytundeb Cyfrinachedd.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?