Polisi Mynediad Teg

Diweddarwyd ddiwethaf: Mawrth 2025

1

Cyflwyniad

1.1

Penodwyd Kaplan SQE Limited (Kaplan SQE) gan Solicitors Regulation Authority Limited (“SRA”) fel unig ddarparwr yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (yr “Asesiad”) a’r Sefydliad Asesu Pwynt Terfyn (“EPAO”) ar gyfer Prentisiaid Cyfreithwyr.

1.2

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau mynediad teg i bob ymgeisydd, i'r gwasanaethau a ddarparwn wrth gynnal yr Asesiad, ac i ddarparu addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr ag anghenion unigol.

1.3

Mae Kaplan SQE yn aelod o grŵp cwmnïau Kaplan ac mae'r polisi hwn wedi'i ategu gan werthoedd craidd y grŵp gan gynnwys ein hymrwymiad i'r safonau moesegol uchaf ym mhopeth a wnawn.

1.4

Mae'r polisi hwn yn amlinellu'r egwyddorion y byddwn yn glynu wrthynt a'r camau y byddwn yn eu cymryd i sicrhau mynediad teg. I gael gwybodaeth ychwanegol am fynediad i'r wefan, darllenwch Ddatganiad Hygyrchedd SQE.

1.5

Mae’r polisi hefyd wedi’i ategu gan y canlynol:

1.5.1

Rheoliadau Asesu SQE

1.5.2

Polisi Amgylchiadau Esgusodol SQE

1.5.3

Polisi Addasiadau Rhesymol SQE

1.5.4

Polisi Gwrthdaro Buddiannau a Chyfrinachedd SQE

1.5.5

Polisi Cwynion SQE

1.5.6

Polisi Apeliadau SQE

1.6

Mae wedi’i ategu ymhellach gan y prosesau canlynol:

1.6.1

Bydd Kaplan yn ymgymryd â hyfforddiant ac arweiniad priodol ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pob unigolyn sy'n ymwneud â chynnal, ysgrifennu, archwilio neu farcio'r Asesiad neu a gyflogir gennym i wneud hynny.

1.6.2

Bydd Kaplan yn monitro perfformiad ymgeiswyr, gan gynnwys Prentisiaid Cyfreithwyr, yn ôl grwpiau gwarchodedig ac yn cyhoeddi'r data hyn.

1.6.3

Trwy ein prosesau sicrhau ansawdd byddwn yn adolygu arferion a pherfformiad unrhyw drydydd partïon rydym yn cydweithio â nhw wrth gyflawni neu hwyluso'r Asesiad er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni ein gofynion mynediad teg ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth cydraddoldeb.

1.7

Er mwyn sicrhau bod egwyddorion y polisi hwn yn cael eu bodloni, byddwn yn ei gwneud hi’n ofynnol bod pob unigolyn sy'n ymwneud â chynnal a/neu hwyluso'r Asesiad, neu a gyflogir gennym i wneud hynny, yn gwbl ymwybodol o gynnwys y polisi hwn ac unrhyw bolisïau a phrosesau cysylltiedig.

1.8

Byddwn yn adolygu hyn a'r holl bolisïau cysylltiedig bob blwyddyn fel rhan o'n gweithdrefnau sicrhau ansawdd parhaus.

2

Cwmpas

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i bob ymgeisydd, gan gynnwys Prentisiaid Cyfreithiwyr, sydd wedi cofrestru i sefyll yr Asesiad.

3

Rheoli Mynediad Teg

3.1

Mae'r Datganiad Cymhwysedd Cyfreithwyr a'r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK) yn pennu'r cymwyseddau a'r wybodaeth y mae'n rhaid i bob ymgeisydd eu cyflawni i ddangos eu gallu i ymarfer. Mae’r Safon Drothwy yn pennu'r safon y mae’n rhaid ei chyrraedd er mwyn cymhwyso fel Cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Rhaid asesu pob ymgeisydd yn erbyn y Datganiad Cymhwysedd Cyfreithwyr a'r FLK a rhaid iddynt gyrraedd y Safon Drothwy i gymhwyso, ond gwneir addasiadau rhesymol i’r dulliau asesu er mwyn sicrhau nad yw ymgeiswyr ag anghenion unigol dan anfantais.

3.2

Wrth ddatblygu'r Asesiad, byddwn yn mynd ati i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn cael mantais annheg neu’n cael ei roi dan anfantais yn sgil bod yn aelod o grŵp gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

3.3

Mae Polisi Addasiadau Rhesymol SQE yn nodi'r egwyddorion a'r gweithdrefnau a ddilynir pan fydd ymgeiswyr yn gofyn am addasiadau rhesymol i ddiwallu angen unigol.

3.4

Cynhelir yr Asesiad mewn lleoliadau sy'n cydymffurfio â gofynion mynediad ar gyfer pobl anabl yn y ddeddfwriaeth gydraddoldeb berthnasol. Byddwn yn darparu ar gyfer ystod o drefniadau amgen ar gyfer ymgeiswyr y mae angen addasiadau rhesymol arnynt.

3.5

Mae trefniadau archebu yn cynnwys cyfleuster i ofyn am addasiadau rhesymol i sicrhau bod anghenion ymgeisydd yn cael eu nodi a'u cytuno yn amodol ar ddarparu tystiolaeth briodol. Byddwn yn darparu hyfforddiant ac arweiniad i sicrhau bod ceisiadau'n cael eu hadolygu'n deg a bod addasiadau rhesymol yn cael eu gweithredu'n briodol yn ystod yr Asesiad.

3.6

Mae Polisi Amgylchiadau Esgusodol SQE yn darparu bod ymgeisydd y mae amgylchiadau esgusodol yn effeithio ar ei berfformiad yn ystod yr asesiad yn gallu gwneud cais i'r Bwrdd Asesu. Mae'r polisi yn diffinio amgylchiadau esgusodol fel:

a

camgymeriad neu afreoleidd-dra wrth weinyddu neu gynnal yr asesiad; neu

b

dystiolaeth o ragfarn wrth gynnal yr asesiad; neu

c

yn amodol ar Bolisi Ffit i Sefyll a Rheoliadau Asesu SQE, salwch ymgeisydd neu amgylchiadau personol eraill y tu hwnt i'w reolaeth resymol

sy’n cael, neu sy'n debygol o gael, effaith sylweddol ac andwyol ar farciau neu berfformiad ymgeisydd yn yr asesiad.

3.7

Mae gan ymgeiswyr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau'r Bwrdd Asesu o dan Bolisi Apeliadau SQE.

3.8

Nod Polisi Gwrthdaro Buddiannau a Chyfrinachedd SQE yw sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn cael mantais annheg neu’n cael ei roi dan anfantais o ganlyniad i wrthdaro buddiannau sy'n ymwneud ag unigolyn neu sefydliad wrth ddarparu'r Asesiad.

3.9

Gall ymgeiswyr sydd am gwyno ynghylch mynediad teg wneud hynny’n ffurfiol trwy ddefnyddio Polisi Cwynion SQE.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?