Polisi Apeliadau

Dyddiad Cyhoeddi: Ebrill 2021

1

Cyflwyniad

1.1

Cwmpas a diben

Penodwyd Kaplan SQE Limited (Kaplan SQE) gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (“SRA”) fel unig ddarparwr yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (“yr Asesiad”) a’r Sefydliad Asesu Pwynt Terfyn (“EPAO”) ar gyfer Prentisiaid Cyfreithwyr. Mae Kaplan SQE yn delio ag apeliadau yn unol â’r Polisi hwn fel sy’n ofynnol gan yr SRA.

Mae’r Polisi hwn yn nodi’r gweithdrefnau sydd i’w dilyn mewn achosion lle mae ymgeisydd yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Asesu.

1.2

Tegwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y Polisi hwn yn deg ac yn dryloyw ac yn cael ei weithredu mewn ffordd sydd:

  • yn trin pob ymgeisydd yn gyfartal ac yn deg wrth ystyried eu hapeliadau
  • yn rhoi rhesymau dros y camau rydym wedi’u cymryd a’r penderfyniad rydym yn ei wneud
  • yn rhydd rhag rhagfarn
  • yn cynnwys terfynau amser rhesymol ar gyfer cyflwyniadau a’n hymateb iddynt.
1.3

Cyfrinachedd

Bydd gwybodaeth a ddarperir gan ymgeiswyr dan y gweithdrefnau hyn yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei rhannu ond â’r bobl hynny sy’n angenrheidiol i ystyried yr apeliadau.

1.4

Terfynau amser

Rydym o’r farn y bydd ymgeiswyr fel arfer yn gallu cwrdd â’r terfynau amser wrth gyfathrebu â ni. Lle bo amgylchiadau sy’n golygu na all ymgeisydd gwrdd yn rhesymol â’r cyfryw derfynau amser, rhaid iddo gyfleu hyn i ni cyn gynted ag y bo modd.

1.5

Ymgeiswyr sydd ag anabledd

Pan fydd ymgeisydd yn nodi bod ganddo anabledd, bydd gwybodaeth ar gael iddo mewn fformatau priodol a gwneir addasiadau rhesymol i’r achos er mwyn diwallu ei anghenion.

1.6

Adolygu’r Polisi hwn

Bydd y Polisi hwn yn cael ei fonitro gan Kaplan SQE a bydd unrhyw newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud a’u rhoi ar waith cyn gynted ag y bo modd. Fel isafswm, bydd Kaplan SQE yn adolygu’r polisi hwn a’r holl bolisïau cysylltiedig yn flynyddol fel rhan o’i weithdrefnau sicrhau ansawdd parhaus.

2

Diffiniadau

Amgylchiadau lliniarol:

a

Camgymeriad neu afreoleidd-dra wrth weinyddu neu gynnal yr asesiad; neu

b

Dystiolaeth o ragfarn wrth gynnal yr asesiad; neu

c

Yn amodol ar y Polisi Ffit i Sefyll a Rheoliadau Asesu SQE salwch ymgeisydd neu amgylchiadau personol eraill y tu hwnt i’w reolaeth resymol

sy’n effeithio’n sylweddol ac yn andwyol ar farciau neu berfformiad ymgeisydd yn yr asesiad.

3

Cais am eglurhad o’r canlyniad

3.1

Efallai y bydd ymgeisydd yn dymuno holi am benderfyniad y Bwrdd Asesu a chael eglurhad buan o’i ganlyniad. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai’r ymgeisydd godi’r mater yn gyntaf drwy anfon e-bost atom o fewn 7 diwrnod gwaith i gael gwybod am ganlyniad yr arholiad.

3.2

Os bydd yr ymgeisydd yn dal yn anfodlon a’i fod yn credu bod ganddo sail dros apelio, caiff gyflwyno apêl cam cyntaf o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad yr ymateb gan Kaplan SQE i’r eglurhad o’r canlyniad.

4

Cais am wiriad clercyddol

4.1

Gall ymgeisydd ofyn am wiriad clercyddol ar gyfer gwallau wrth gyfrifo neu gasglu marciau.

4.2

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar y Ffurflen Gais am Wiriad Clercyddol o fewn 15 diwrnod gwaith i’r hysbysiad o’r canlyniad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

4.3

Codir ffi o £100 am wiriad clercyddol. Bydd y ffi hon yn cael ei had-dalu os canfyddir gwall.

4.4

Os gwneir cais am wiriad clercyddol a bod yr ymgeisydd yn dal i fod yn anfodlon ac yn credu bod ganddo sail dros apelio, gall gyflwyno apêl cam cyntaf o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn canlyniad yr archwiliad clercyddol./p>

5

Apeliadau

5.1

Mae’r Polisi hwn yn darparu ar gyfer proses apelio ffurfiol gyda dau gam: apêl cam cyntaf ac apêl derfynol.

5.2

Pan fydd ymgeisydd yn cyflwyno apêl sydd hefyd yn cynnwys cwyn, byddwn yn gohirio’r broses o ystyried yr apêl nes bydd y gŵyn wedi cael ei hymchwilio yn unol â Pholisi Cwynion yr SQE. Bydd y broses apelio’n parhau ar ôl i’r broses gwyno ddod i ben.

5.3

Mae safon y prawf mewn apêl ar sail tebygolrwydd.

6

Apêl cam cyntaf

6.1

At ddibenion y Polisi hwn, mae apêl cam cyntaf yn golygu cais am adolygiad o benderfyniad y Bwrdd Asesu i fethu ymgeisydd mewn unrhyw asesiad sy’n cynnwys SQE1 a/neu SQE2 yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) neu ganfyddiad o gamymarfer.

6.2

Gellir gwneud apêl cam cyntaf ar un neu ragor o’r seiliau canlynol yn unig:

6.2.1

os oes amgylchiadau lliniarol na ellid bod wedi eu rhoi gerbron y Bwrdd Asesu cyn iddo wneud ei benderfyniad; neu

6.2.2

bod penderfyniad y Bwrdd Asesu, neu'r modd y gwnaed y penderfyniad hwnnw, yn cynnwys afreoleidd-dra o bwys a/neu ei fod yn amlwg yn afresymol a/neu'n afresymegol; neu

6.2.3

bod yr ymgeisydd yn amau canfyddiad y Bwrdd Asesu o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol.

6.3

At ddibenion 6.2.1 nid yw’r ffaith nad oedd yr ymgeisydd yn ymwybodol o’i ganlyniadau eto yn rheswm pam na ellid bod wedi cyflwyno amgylchiadau lliniarol i’r Bwrdd Asesu. Os oes pryder bod gwall gweinyddol yn y canlyniadau, dylid mynd i’r afael â hyn drwy ofyn am wiriad clerigol.

6.4

Ni fydd unrhyw apêl yn cael ei hystyried ar y sail bod ymgeisydd:

6.4.1

yn dymuno herio dyfarniad academaidd yr asesydd neu’r meini prawf a ddefnyddir i asesu gwaith yr ymgeisydd;

6.4.2

yn anghytuno â chanlyniad ei hawliad am amgylchiadau lliniarol; neu

6.4.3

nad oedd yn deall nac yn ymwybodol o’r Rheoliadau Asesu SQE.

6.5

Yn amodol ar 3.2 a 4.4 uchod, rhaid i ymgeisydd sy’n dymuno apelio ar un neu fwy o’r seiliau yn 6.2 gyflwyno ei apêl o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad penderfyniad y Bwrdd Asesu y gwneir yr apêl mewn perthynas ag ef. Lle na ellir darparu tystiolaeth o fewn y 10 diwrnod gwaith, dylid cyflwyno’r apêl cam cyntaf o fewn y terfyn amser gyda thystiolaeth i ddilyn.

6.6

Rhaid cyflwyno’r apêl cam cyntaf ar Ffurflen Apêl Cam Cyntaf yr SQE a geir yng Nghyfrif yr Ymgeisydd, a rhaid cynnwys manylion llawn yr apêl yn cynnwys copïau o’r holl ddogfennau a thystiolaeth berthnasol sy’n cefnogi’r seiliau dros apelio. Bydd apêl cam cyntaf yn cael ei derbyn pan fydd yr apêl, ynghyd â’r holl dystiolaeth a dogfennau cysylltiedig, wedi’i derbyn a’r ffi dan 6.7 wedi’i thalu’n llawn. Cydnabyddir derbyn yr apêl o fewn 5 diwrnod gwaith.

6.7

Codir ffi o £350 am apêl cam cyntaf. Bydd hwn yn cael ei ad-dalu os caiff yr apêl ei gadarnhau.

7

Y weithdrefn ar gyfer ystyried apêl cam cyntaf

7.1

Bydd y Pennaeth Cydraddoldeb ac Ansawdd (neu ei enwebai) yn cadeirio panel apeliadau cam cyntaf (y Panel Apêl Cyntaf) o fewn 25 diwrnod gwaith i’r dyddiad terfyn pan fydd yn rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu hapêl cam cyntaf.

7.2

Bydd tri aelod ar y Panel Apêl Cyntaf. Ni fydd yr un o aelodau’r panel wedi bod yn aelodau o’r Bwrdd Asesu a oedd yn ystyried canlyniad yr ymgeisydd neu a wnaeth ganfyddiad o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol. Bydd o leiaf un o’r aelodau yn Dwrneiod Cymru a Lloegr (yn ymarfer neu ddim yn ymarfer).

7.3

Bydd y Panel Apêl Cyntaf yn penderfynu a yw’r apêl:

7.3.1

yn cael ei wneud ar un neu ragor o'r seiliau a nodir yn 6.2; a

7.3.2

yn cael ei brofi gan y dystiolaeth a ddarparwyd.

7.4

Caiff y Panel Apêl Cyntaf ymgynghori â Chadeirydd y Bwrdd Asesu, aelodau’r Bwrdd Asesu ac unrhyw bersonau perthnasol eraill i gael tystiolaeth a gwybodaeth.

8

Penderfyniad y Panel Apêl Cyntaf

8.1

Gall y Panel Apêl Cyntaf wneud un o’r penderfyniadau canlynol:

8.1.1

cadarnhau’r apêl

8.1.2

gwrthod yr apêl

8.2

Os bydd y Panel Apêl Cyntaf yn cadarnhau’r apêl, gall argymell camau pellach. Ac eithrio yn achos apêl lwyddiannus yn erbyn canfyddiad o gamymarfer neu ymddygiad amhriodol (os felly, bydd marc yr ymgeisydd yn yr asesiad yn sefyll), bydd ymgeiswyr y mae eu hapeliadau’n llwyddiannus fel arfer yn cael cyfle i ail-sefyll yr asesiad a bydd eu cais gwreiddiol yn cael ei ddiystyru. Gall y Panel Apêl Cyntaf hefyd argymell hepgor neu ad-dalu’r ffi yn llawn neu ran o’r ffi asesu. Ni fydd marciau ymgeisydd y mae ei apêl yn llwyddiannus yn cael eu haddasu os yw’r cais yn ymwneud â salwch neu amgylchiadau personol y tu hwnt i’w reolaeth resymol.

8.3

Bydd Cadeirydd y Panel Apêl Cyntaf yn hysbysu’r ymgeisydd o’r penderfyniad o fewn 35 diwrnod gwaith i’r dyddiad cau y bydd yn rhaid i ymgeiswyr gyflwyno eu hapêl cam cyntaf, gan roi rhesymau.

8.4

Bydd y Bwrdd Asesu yn gweithredu canfyddiadau’r Panel Apêl Cyntaf, naill ai drwy benderfyniad Cadeirydd y Bwrdd Asesu (yn gweithredu o dan awdurdod y Bwrdd yn ei gyfanrwydd) neu drwy benderfyniad mewn cyfarfod eithriadol o’r Bwrdd.

8.5

Bydd canlyniad yr apêl yn cael ei gofnodi ar y Gofrestr Apeliadau a archwilir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA).

9

Yr apêl derfynol

9.1

At ddibenion y Polisi hwn, mae apêl derfynol yn golygu cais am adolygiad o benderfyniad y Panel Apêl Cyntaf.

9.2

Gellir gwneud apêl derfynol ar un neu ragor o’r seiliau canlynol yn unig:

9.2.1

Bod penderfyniad y Panel Apêl Cyntaf, neu'r modd y gwnaed y penderfyniad hwnnw, yn cynnwys afreoleidd-dra o bwys a/neu ei fod yn amlwg yn afresymol a/neu'n afresymegol; neu

9.3

Rhaid i’r apêl gael ei chyflwyno ar Ffurflen Apêl Derfynol yr SQE, a geir yng Nghyfrif yr Ymgeisydd o fewn 10 diwrnod gwaith i’r dyddiad y cafodd yr ymgeisydd wybod am benderfyniad y Panel Apêl Cyntaf. Rhaid iddo gynnwys manylion llawn yr apêl a chynnwys copïau o’r holl ddogfennau perthnasol a thystiolaeth sy’n cefnogi’r sail dros apelio. Lle na ellir darparu tystiolaeth o fewn y 10 diwrnod gwaith, dylid cyflwyno’r apêl derfynol o fewn y terfyn amser gyda thystiolaeth i ddilyn.

9.4

Codir ffi o £850 am yr apêl derfynol. Bydd hwn yn cael ei ad-dalu os caiff yr apêl ei gadarnhau.

9.5

Bydd apêl derfynol yn cael ei derbyn pan fydd yr apêl, ynghyd â’r holl dystiolaeth a dogfennau cysylltiedig, wedi’i derbyn a’r ffi dan 9.4 wedi’i thalu’n llawn. Bydd y Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) yn penderfynu, gan gymryd cyngor fel y bo’n briodol, o fewn 10 diwrnod gwaith i’w dderbyn, a yw’r apêl yn wacsaw neu’n flinderus. Gall y Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) yn ôl ei ddisgresiwn, wrthod apêl y mae’n rhesymol ystyried ei bod yn wacsaw neu flinderus. Bydd y Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) yn hysbysu’r ymgeisydd o’i benderfyniad, gan roi rhesymau.

9.6

Bydd y Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai), oni bai fod yr apêl yn ymddangos yn wacsaw neu flinderus, yn cynnull panel penodol i ystyried yr apêl (y Panel Apêl Terfynol).

10

Y weithdrefn ar gyfer ystyried yr apêl derfynol

10.1

Bydd y Panel Apêl Terfynol yn cyfarfod o fewn 30 diwrnod gwaith i benderfyniad y Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) o dan 9.5 uchod.

10.2

Bydd tri aelod ar y Panel Apêl Terfynol. Ni fydd yr un o aelodau’r panel wedi bod yn aelodau o’r Bwrdd Asesu a oedd yn ystyried apêl neu ganlyniad yr ymgeisydd nac yn aelod o’r Panel Apêl Cam Cyntaf a ystyriodd yr achos. Bydd o leiaf dau o’r aelodau yn Dwrneiod Cymru a Lloegr (yn ymarfer neu ddim yn ymarfer). Bydd un o’r aelodau sy’n gyfreithwyr yn cael ei benodi’n Gadeirydd y Panel.

10.3

Gall yr ymgeisydd ddewis gwrandawiad llafar neu benderfyniad ar bapur. Os bydd yr ymgeisydd yn dewis gwrandawiad apêl llafar, mae ganddo ef neu hi hawl i gael ffrind neu berthynas gyda ef/hi. Darperir canllawiau ar y drefn gan y Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai).

10.4

Bydd y Cyfarwyddwr Cymwysterau Kaplan (neu ei enwebai) yn sicrhau bod yr ymgeisydd a’r Panel Apêl Terfynol yn cael yr holl wybodaeth briodol o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn cyfarfod y Panel Apêl Terfynol i ystyried yr apêl. Dim ond gyda chaniatâd yr ymgeisydd a Chadeirydd y Panel y gellir dosbarthu tystiolaeth hwyr.

10.5

Os bydd yr ymgeisydd, ar ôl dewis gwrandawiad apêl llafar, yn methu â bod yn bresennol, bydd y gwrandawiad yn mynd rhagddo gyda’r ymgeisydd “yn absennol” ac ar sail yr wybodaeth a roddwyd eisoes. Os bydd yr ymgeisydd yn rhoi rheswm derbyniol wedi’i gofnodi dros ei absenoldeb, gellir aildrefnu dyddiad y gwrandawiad.

10.6

Caiff y Panel Apêl Terfynol fynnu presenoldeb rhywun arall yn unig i’r diben o ddarparu cyngor priodol. Ni chaiff yr unigolyn hwnnw gymryd rhan yn nhrafodaethau’r Panel Apêl Terfynol ac nid oes ganddo hawl ychwaith i bleidleisio mewn unrhyw benderfyniad.

11

Penderfyniad y Panel Apêl Terfynol

11.1

Gall y Panel Apêl Terfynol wneud un o’r penderfyniadau canlynol:

11.1.1

Gwrthod penderfyniad y Panel Apêl Cyntaf

11.1.2

Cadarnhau penderfyniad y Panel Apêl Cyntaf

11.2

Pan fydd y Panel Apêl Terfynol yn gwrthod penderfyniad y Panel Apêl Cyntaf, caiff y Panel Apêl Terfynol wneud rhagor o argymhellion.

11.3

Bydd y Panel Apêl Terfynol yn hysbysu’r Cyfarwyddwr Cymwysterau, Kaplan (neu ei enwebai) a’r ymgeisydd o benderfyniad y Panel Apêl Terfynol o fewn 15 diwrnod gwaith i’r gwrandawiad neu’r penderfyniad ar sail papur, gan roi rhesymau.

11.4

Bydd y Bwrdd Asesu yn gweithredu canfyddiadau’r Panel Apêl Terfynol, naill ai drwy benderfyniad Cadeirydd y Bwrdd Asesu (yn gweithredu o dan awdurdod y Bwrdd yn ei gyfanrwydd) neu drwy benderfyniad mewn cyfarfod eithriadol o’r Bwrdd.

11.5

Mae penderfyniad y Panel Apêl Terfynol yn derfynol.

11.6

Bydd canlyniad yr apêl derfynol yn cael ei gofnodi ar y Gofrestr Apeliadau a archwilir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA).

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more