Polisi Addasiadau Rhesymol

1

Cyflwyniad

1.1

Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth ac i wneud yn siŵr bod ein dull gweithredu ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr yn gynhwysol. Mae’r polisi hwn yn ymdrin â’n hagwedd at addasiadau rhesymol gan gynnwys sut rydym yn cyfathrebu ag ymgeiswyr a’r trefniadau y gallwn eu gwneud ar gyfer ein dulliau asesu.

1.2

Mae’r Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr a’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol a nodir ym Manyleb Asesu SQE1 a Manyleb Asesu SQE2 yn nodi’r cymwyseddau a’r wybodaeth y mae’n rhaid i bob ymgeisydd feddu arnynt i ddangos eu gallu i ymarfer. Mae’r Safon Trothwy yn nodi’r safon y mae’n rhaid ei chyrraedd er mwyn cymhwyso fel Cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Rhaid i bob ymgeisydd gael ei asesu yn erbyn y Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr a’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol a rhaid iddo gyrraedd y Safon Trothwy er mwyn bod yn gymwys. Er mwyn rhoi cyfle teg i bob ymgeisydd ddangos ei gymhwysedd i’r safon ofynnol, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni wneud trefniadau i ddarparu addasiadau rhesymol.

1.3

Ein dull o ddatblygu asesiadau yw rhagweld ceisiadau ymgeiswyr am addasiadau rhesymol a, lle bo modd, gwneud trefniadau asesu sy’n lleihau’r angen i wneud addasiadau.

1.4

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw ymgeisydd dan anfantais oherwydd anabledd wrth ddangos ei allu a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i ddulliau asesu ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd (o fewn ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010) er mwyn cyflawni hyn. Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau rhesymol i ddarparu ar gyfer ymgeiswyr sydd â chyflwr/cyflyrau eraill sy’n effeithio ar allu ymgeisydd i ymgymryd â’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Bydd pob cais am addasiadau o’r fath yn cael ei ystyried yn ôl disgresiwn rhesymol Kaplan ac fesul achos.

1.5

Byddwn yn monitro’r polisi hwn a’r arferion cysylltiedig gan gynnwys y Cwestiynau a’r Atebion a'r wybodaeth ar gyfer aseswyr anabledd yn flynyddol fel rhan o’n gweithdrefnau sicrhau ansawdd parhaus.

2

Gwneud cais am addasiadau rhesymol

2.1

Rhaid i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am unrhyw addasiadau y cyfeirir atynt yn 1.4 uchod gofrestru ar gyfer cyfrif Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ar-lein a llenwi ffurflen gais am addasiadau rhesymol sydd ar gael ar Gyfrif Ymgeisydd yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Dylid llenwi’r ffurflen a’i chyflwyno ar Gyfrif Ymgeisydd yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr cyn gynted ag y bo modd cyn yr asesiad. Mae’n rhaid i ymgeiswyr wneud cais ar wahân am addasiadau ar gyfer SQE1 a SQE2.

2.2

Dylid cyflwyno dogfennau ategol priodol gyda’r ffurflen gais am addasiadau rhesymol. Os nad yw’r dogfennau ategol ar gael adeg cyflwyno’r ffurflen, dylid cyflwyno’r dogfennau cyn gynted ag y bo modd. Gall rhai trefniadau mwy cymhleth sy’n cael eu profi gan ddogfennau ategol gymryd cryn amser i’w trafod ac yna eu rhoi ar waith. Mae canllawiau ar y math o ddogfennau ategol sy’n briodol ar gael yn ein gwybodaeth ar gyfer aseswyr anabledd a’r cwestiynau ac atebion.

2.3

Ni fyddwn yn gallu cytuno ar addasiadau ymgeisydd nes y derbynnir dogfennau ategol priodol. Mae hyn yn golygu, os na wneir cais am addasiadau a/neu os na dderbynnir dogfennau ategol erbyn y dyddiad cau ar gyfer archebu’r asesiad perthnasol, efallai na fydd yn bosibl rhoi’r addasiadau yn eu lle mewn pryd ar gyfer sefyll yr arholiad nesaf.

2.4

Er mwyn sicrhau ein bod yn darparu’r addasiadau priodol yn unol ag anabledd neu gyflwr penodol pob ymgeisydd, rhaid i ddogfennau ategol gynnwys gwybodaeth berthnasol sy’n ddigon manwl i nodi:

2.4.1

natur yr anabledd neu’r cyflwr; ac

2.4.2

effaith yr anabledd neu’r cyflwr ar allu’r ymgeisydd i berfformio yn yr asesiad; a

2.4.3

addasiadau rhesymol ar gyfer yr ymgeisydd y gofynnwyd amdanynt a sut y bydd yr addasiadau hyn yn mynd i'r afael ag anghenion yr ymgeisydd.

2.5

Bydd aelod o’r Tîm Cydraddoldeb ac Ansawdd yn ystyried yr addasiad(au) y gofynnir amdanynt yng ngoleuni’r anabledd neu’r cyflwr, natur yr asesiad a’n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gellir gwneud cais/ceisiadau pellach am ddogfennau ategol neu wybodaeth gan yr ymgeisydd. Bydd y penderfyniad ynghylch pa addasiad/newidiadau, os o gwbl, y gellir eu cynnig yn cael ei gyfleu drwy borth yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr.

2.6

Gall ymgeisydd nad yw’n fodlon â’r penderfyniad a wnaed ar ei gais am addasiadau rhesymol apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Rhaid i’r apêl nodi esboniad yr ymgeisydd o pam nad yw’n fodlon a rhaid ei hanfon, ynghyd â chopïau o’r holl ddogfennau perthnasol a thystiolaeth ategol at y Cyfarwyddwr Academaidd Kaplan SQE drwy e-bost (neu ddull cyfathrebu eraill y cytunwyd arno).

2.6.1

Wrth ystyried yr apêl, gall y Cyfarwyddwr Academaidd ofyn am ragor o wybodaeth a chymryd cyngor fel y bo’n briodol.

2.6.2

Bydd y Cyfarwyddwr Academaidd, gan ystyried yr holl ffactorau perthnasol, yn penderfynu a oedd unrhyw un neu bob un o’r canlynol:

2.6.2.1

yr addasiad a gynigiwyd i’r ymgeisydd; a/neu

2.6.2.2

sut y gwnaed y penderfyniad i gynnig yr addasiad hwnnw; a/neu

2.6.2.3

y penderfyniad i beidio â chynnig addasiad;

yn ymwneud ag afreoleidd-dra materol a/neu’n amlwg yn afresymol a/neu’n afresymegol

2.6.3

Gall y Cyfarwyddwr Academaidd:

2.6.3.1

gadarnhau’r apêl; neu

2.6.3.2

wrthod yr apêl.

2.6.4

Os bydd y Cyfarwyddwr Academaidd yn cadarnhau’r apêl gall argymell camau gweithredu pellach. Fel arfer, bydd ymgeiswyr y mae eu hapêl yn cael ei chadarnhau yn cael cynnig wedi’i newid o addasiadau rhesymol a bennir mewn trafodaeth gyda’r Pennaeth Cydraddoldeb ac Ansawdd ac unrhyw gyngor perthnasol arall. Os bydd y Cyfarwyddwr Academaidd yn gwrthod yr apêl, bydd y cynnig gwreiddiol o addasiadau rhesymol yn sefyll.

2.6.5

Bydd penderfyniad y Cyfarwyddwr Academaidd yn cael ei gyfleu i’r ymgeisydd a’r Pennaeth Cydraddoldeb ac Ansawdd o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn yr apêl yn llawn. Lle bo’r Cyfarwyddwr Academaidd yn cadarnhau apêl yr ymgeisydd, bydd penderfyniad newydd ar gais yr ymgeisydd am addasiadau rhesymol yn cael ei gyfleu i’r ymgeisydd drwy gyfrif SQE yr ymgeisydd o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl penderfyniad y Cyfarwyddwr Academaidd.

2.7

Pan na fydd ymgeisydd yn gallu defnyddio’r cyfrif ymgeisydd SQE/ proses gofrestru ac archebu ar-lein (gan gynnwys gwneud cais am addasiadau rhesymol a chyflwyno tystiolaeth ategol), gallwn gynnig dulliau gwahanol o gyfathrebu a darparu gwybodaeth mewn gwahanol fformatau. Dylai ymgeiswyr y mae angen rhagor o gymorth arnynt gysylltu â ni yn enquiries@sqe.sra.org.uk neu 020 3486 3080, a bydd aelodau ein tîm yn gweithio gydag ymgeiswyr i ddod o hyd i’r ffordd orau o helpu.

3

Cyfrinachedd

Byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarperir i ni yn gyfrinachol ac yn unol â gofynion Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016 a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd manylion y trefniadau unigol yn cael eu rhannu â’r bobl hynny y mae’n angenrheidiol iddynt er mwyn cytuno a/neu weithredu’r addasiad rhesymol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Cwestiynau ac Atebion.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?