Manyleb Asesu SQE2

Mae llawer o gwestiynau wedi’u codi ynghylch y dehongliad o’r Manylebau Asesu ac yn benodol manylion am y Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol.

Nid yw’n ddefnyddiol nac yn briodol pennu’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol mewn manylder. Byddai gwneud hynny’n codi cymaint o gwestiynau ac y byddai’n eu hateb a gallai arwain at greu swmp enfawr a diangen o wybodaeth anhylaw.

Fodd bynnag, mae’n bosib y byddai darllen y Fanyleb Asesu’n holistig o gymorth i’r rheini sy’n gofyn am fwy o fanylder. O fewn Manyleb Asesu SQE2, mae’r adrannau canlynol yn hynod o ddefnyddiol: Meysydd Ymarfer, Lefel y Manylder Cyfreithiol sy’n Ofynnol, Cymhwyso’r Gyfraith, Cymhwyso’r Gyfraith yn Gywir ac yn Gynhwysfawr, Deunyddiau Cyfreithiol, yn ogystal â’r wybodaeth (Trosolwg, Amcanion Asesu a’r Meini Prawf Asesu) am bob un o’r asesiadau.

Mae’n werth nodi’n benodol fod:

  • Y cwestiynau yn SQE2 wedi’u llunio i brofi sgiliau cyfreithiol yng nghyd-destun cymhwyso’r egwyddorion a’r rheolau cyfreithiol sylfaenol ar y lefel ofynnol i Gyfreithiwr sydd newydd gymhwyso. Nid ydynt wedi’u llunio i brofi arferion arbenigol na fyddai rhywun yn debygol o ddod ar eu traws ar eu diwrnod cyntaf fel Cyfreithiwr.
  • Mae’r cwestiynau’n profi’r meysydd hynny sy’n ganolog i’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol.

Er mwyn sicrhau tegwch ac integriti’r SQE, caiff gwybodaeth am y Manylebau Asesu eu rhyddhau i’r holl randdeiliaid ar yr un pryd. Cynhelir adolygiad blynyddol o’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol er mwyn

  • Eu diweddaru i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith ac mewn ymarfer.
  • Cynnig eglurhad lle bo angen yn dilyn adborth gan randdeiliaid gan drwy ystyried y wybodaeth uchod.
  • Gwneud unrhyw newidiadau hanfodol eraill.

Caiff unrhyw gwestiynau a godir gan randdeiliaid eu bwydo i’r broses adolygu flynyddol hon.

Trosolwg asesiad SQE2

Asesiadau Sgiliau Cyfreithiol

Dyma’r asesiadau sgiliau cyfreithiol yn SQE2:

  • cyfweliad gyda chleient a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol
  • eiriolaeth
  • dadansoddi’r achos a’r mater
  • ymchwil gyfreithiol
  • ysgrifennu cyfreithiol
  • drafftio cyfreithiol.

Mae rhagor o fanylion am bob un o’r asesiadau hyn ar gael yn Asesiadau yn SQE2.

Er nad oes asesiad ar wahân a elwir yn negodi, bydd pob achos o gyflwyno’r SQE2 yn cynnwys o leiaf un asesiad sy’n cynnwys negodi. Gellir asesu negodi naill ai mewn cyfweliad neu nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol a/neu ddadansoddi’r achos a’r mater a/neu ysgrifennu cyfreithiol.

Meysydd ymarfer

Y meysydd ymarfer y mae’r sgiliau cyfreithiol hyn yn cael eu hasesu ynddynt yw:

  • Cyfreitha Troseddol (gan gynnwys cynghori cleientiaid yng ngorsaf yr heddlu)
  • Datrys Anghydfod
  • Ymarfer yng nghyswllt Eiddo
  • Ewyllysiau ac Anewyllysedd, Gweinyddu ac Ymarfer Profiant
  • Sefydliadau, rheolau a gweithdrefnau busnes (gan gynnwys gwyngalchu arian a gwasanaethau ariannol).

Gall cwestiynau yn y meysydd ymarfer hyn ddefnyddio’r gyfraith llythrennau du sylfaenol yn yr Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK) fel a ganlyn:

  • Cyfreitha Troseddol: Atebolrwydd troseddol
  • Datrys Anghydfod: Cyfraith contract a chamwedd
  • Ymarfer yng nghyswllt Eiddo: Cyfraith tir
  • Ewyllysiau ac Anewyllysedd, Gweinyddu ac Ymarfer Profiant Ymddiriedolaethau
  • Sefydliadau, rheolau a gweithdrefnau busnes: Cyfraith contractau.

Bydd proffesiynoldeb a moeseg yn rhannau craidd o SQE2. Bydd cwestiynau ar foeseg yn codi’n aml drwy’r SQE2. Ni fyddir yn amlygu materion moesegol a bydd angen i ymgeiswyr nodi unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad moesegol a phroffesiynol ac arfer barn i’w datrys yn onest ac yn ddidwyll.

Gall cwestiynau sy’n ymwneud â threth godi mewn Ymarfer yng nghyswllt Eiddo; Ewyllysiau ac Anewyllysedd, Gweinyddu ac Ymarfer Profiant; a sefydliadau, rheolau a gweithdrefnau Busnes.

Ceir manylion am y cynnwys a all godi yn yr arholiad yn Atodiad 1. Mae Ymarfer Eiddo o dan y penawdau cyfraith ac ymarfer eiddo tirol rhydd-ddaliadol a lesddaliadol ac egwyddorion craidd cyfraith cynllunio. Mae Atodiad 1 yn is-set o'r FLK yn SQE1. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nid yw system gyfreithiol Cymru a Lloegr, cyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol a chyfraith yr UE, gwasanaethau cyfreithiol (ar wahân i wasanaethau ariannol a gwyngalchu arian) a chyfrifon cyfreithwyr yn codi yn SQE2. Mae modd i wyngalchu arian a gwasanaethau ariannol godi yn yr arholiad yng nghyd-destun sefydliadau, rheolau a gweithdrefnau busnes.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu harholi ar y gyfraith yn yr SQE fel ag y mae bedwar mis calendr cyn dyddiad yr asesiad cyntaf mewn ffenestr asesu. Caiff ymgeiswyr eu profi ar y gyfraith fel ag y mae ar y dyddiad hwnnw. Ni fyddant yn cael eu profi ar ddatblygiad y gyfraith.

Trefniadaeth a darpariaeth

At ddibenion ymarferol, rhennir SQE2 yn ddwy ran fel a ganlyn:

Asesiadau llafar SQE2

Dyma’r asesiadau llafar yn SQE2:

  • Cyfweliad a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol
  • Eiriolaeth.

Cynhelir asesiadau llafar SQE2 dros ddau hanner diwrnod. Mae’r tabl canlynol yn dangos yr asesiadau y bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â hwy ar bob un o’r diwrnodau. Bydd ymgeiswyr yn gwneud cyfanswm o bedwar asesiad sgiliau cyfreithiol llafar.

Diwrnod 1 Diwrnod 2
Eiriolaeth (Datrys Anghydfod)) Eiriolaeth (Ymgyfreitha Troseddol))
Cyfweliad a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol (Ymarfer yng nghyswllt Eiddo) Cyfweld a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol (Ewyllysiau a diffyg ewyllys, Gweinyddu Profiant ac Ymarfer)

Sylwch y gall gwahanol ymgeiswyr gwblhau’r asesiadau mewn gwahanol drefn. Felly gall ymgeiswyr ddechrau gyda’r cyfweliad a’r nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol neu’r eiriolaeth.

Mae rhagor o fanylion am yr asesiadau ar gael yn Asesiadau SQE2 fel a ganlyn: Cyfweld y Cleient a chwblhau nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol ac Eiriolaeth.

Asesiadau ysgrifenedig SQE2

Dyma’r asesiadau ysgrifenedig yn SQE2:

  • Dadansoddi’r achos a’r mater
  • Ymchwil gyfreithiol
  • Ysgrifennu cyfreithiol
  • Drafftio cyfreithiol

Cynhelir asesiadau ysgrifenedig SQE2 dros dri hanner diwrnod. Byddwch yn gwneud cyfanswm o 12 asesiad sgiliau cyfreithiol ysgrifenedig.

Diwrnod 1 Diwrnod 2 Diwrnod 3
Dadansoddi’r achos a’r mater Dadansoddi’r achos a’r mater Dadansoddi’r achos a’r mater
Drafftio cyfreithiol Drafftio cyfreithiol Drafftio cyfreithiol
Ymchwil gyfreithiol Ymchwil gyfreithiol Ymchwil gyfreithiol
Ysgrifennu cyfreithiol Ysgrifennu cyfreithiol Ysgrifennu cyfreithiol
Bydd dau o’r ymarferion hyn yng nghyd-destun Datrys Anghydfod a bydd dau yng nghyd-destun Cyfreitha Troseddol. Bydd dau o’r ymarferion hyn yng nghyd-destun Ymarfer yng nghyswllt Eiddo a bydd dau yng nghyd-destun Ewyllysiau ac Anewyllysedd, Gweinyddu ac Ymarfer Profiant. Bydd ymgeiswyr yn sefyll pob asesiad yng nghyd-destun Gweithdrefnau, Rheolau a Sefydliadau Busnes.

Gallwch gwblhau’r asesiadau mewn trefn wahanol i’r hyn a restrir.

Mae rhagor o fanylion am yr asesiadau ar gael yn Asesiadau yn SQE2 fel a ganlyn: Dadansoddi’r achos a’r mater, Ymchwil gyfreithiol, Ysgrifennu cyfreithiol a Drafftio cyfreithiol.

Marcio SQE2

Trosolwg

Bydd y cyfweliad yn cael ei farcio gan yr asesydd sy’n chwarae rôl y cleient a bydd yn cael ei farcio ar sgiliau yn unig. Bydd y nodyn presenoldeb a phob rhan arall yn cael eu marcio gan gyfreithwyr a fydd yn asesu’r ymgeisydd ar sail sgiliau a chymhwyso’r gyfraith

Mae’r meini prawf asesu y bydd ymgeiswyr yn cael eu barnu yn eu herbyn ym mhob un o’r chwe rhan sgiliau cyfreithiol ar gael ar y tudalennau canlynol. Bydd perfformiad ym mhob un o’r meini prawf hyn yn cael ei asesu ar raddfa o A i F gan aseswyr hyfforddedig sy’n gwneud dyfarniadau proffesiynol cyffredinol sy’n ymwneud â safon cymhwysedd yr asesiad1 fel a ganlyn:

  • Perfformiad eithriadol: llawer uwch na gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Yn amlwg yn foddhaol: yn bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad yn glir
  • Pasio o fymryn: at ei gilydd, bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad a dim mwy
  • Methu o fymryn: at ei gilydd, methu o ychydig â bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Yn amlwg yn anfoddhaol: mae’n glir nad yw’n bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Perfformiad gwael: llawer is na gofynion cymhwysedd yr asesiad

Yna, bydd y graddio’n cael ei drosi’n farciau rhifol fel bod A = 5 marc a F = 0 marc.

Mae’r meini prawf marcio ar gyfer pob rhan wedi’u rhannu’n farciau ar gyfer sgiliau a marciau ar gyfer cymhwyso’r gyfraith. Wrth gyrraedd marc terfynol ar gyfer yr ymgeisydd, mae’r holl asesiadau, sgiliau a’r defnydd o’r gyfraith yn cael eu pwysoli’n gyfartal. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i ansawdd y cyngor a ddarperir.

Lefel y manylder cyfreithiol sy’n ofynnol

Wrth ddangos eu bod wedi cyrraedd safon cymhwysedd Cyfreithiwr ar ei ddiwrnod cyntaf, bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu cymhwyso egwyddorion cyfreithiol sylfaenol yn y sefyllfaoedd sy’n seiliedig ar sgiliau sy’n cael sylw yn SQE2 mewn ffordd sy’n mynd i’r afael ag anghenion a phryderon y cleient. Bydd angen digon o wybodaeth arnynt i’w gwneud yn gymwys i ymarfer ar y sail y gallant chwilio am fanylion yn ddiweddarach. Ni fydd disgwyl i ymgeiswyr wybod na rhoi sylw i fanylion y byddai Cyfreithiwr ar ei ddiwrnod cyntaf yn chwilio amdanynt, oni bai eu bod wedi cael y manylion hynny fel rhan o’r deunyddiau asesu. Gweler hefyd yr adran ddeunyddiau cyfreithiol isod. Bydd cwestiynau enghreifftiol ac atebion dangosol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr SQE.

Cymhwyso’r gyfraith

Mae’r meini prawf asesu ar gyfer SQE2 yn cyfeirio at gymhwyso’r gyfraith yn gywir ac yn gynhwysfawr. Mae’r canlynol yn rhestr anghyflawn o’r hyn y gall hyn ei gynnwys:

  • Nodi egwyddorion cyfreithiol perthnasol
  • Cymhwyso egwyddorion cyfreithiol at faterion ffeithiol, er mwyn creu ateb sy’n mynd i’r afael orau ag anghenion cleient ac sy’n adlewyrchu amgylchiadau masnachol neu bersonol y cleient, gan gynnwys fel rhan o negodi
  • Dehongli, gwerthuso a defnyddio canlyniadau ymchwil
  • Sicrhau bod cyngor yn seiliedig ar ddadansoddiad cyfreithiol priodol a’i fod yn nodi canlyniadau gwahanol opsiynau
  • Drafftio dogfennau sy’n gyfreithiol effeithiol
  • Cymhwyso dealltwriaeth, meddwl beirniadol a dadansoddi i ddatrys problemau
  • Asesu gwybodaeth i nodi materion a risgiau allweddol
  • Adnabod anghysonderau a bylchau mewn gwybodaeth
  • Gwerthuso ansawdd a dibynadwyedd gwybodaeth
  • Defnyddio nifer o ffynonellau gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol
  • Gwneud penderfyniadau rhesymegol wedi'u hategu gan dystiolaeth berthnasol.

Cymhwyso’r gyfraith yn gywir ac yn gynhwysfawr

Mae’r meini prawf asesu ar gyfer cymhwyso’r gyfraith yn cyfeirio at fod yn gyfreithiol gywir ac yn gyfreithiol gynhwysfawr. Bydd sut y dehonglir pob un o’r rhain yn dibynnu ar farn academaidd am bob asesiad sy’n seiliedig ar y Datganiad Cymhwysedd Cyfreithwyr (Atodiad 3) a Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol ar gyfer SQE2 (Atodiad 1). Er enghraifft, mewn asesiad lle mae’n rhaid i’r ymgeisydd nodi’r materion cyfreithiol, mae’n bosib y rhoddir credyd am hyn o dan y gofyniad i fod yn gyfreithiol gynhwysfawr. Lle nodir y materion cyfreithiol yn glir yn y cwestiwn, gellid dyfarnu credyd o dan y gofyniad i fod yn gynhwysfawr yn gyfreithiol am roi dadansoddiad cynhwysfawr o’r materion hynny, nid dim ond er mwyn eu hadnabod.

Defnyddio iaith glir, fanwl, gryno a derbyniol

Mae’r meini prawf asesu ar gyfer y sgiliau ysgrifenedig yn cyfeirio at iaith glir, fanwl, gryno a derbyniol. Gall hyn gynnwys:

  • Defnyddio iaith glir, gryno a chywir ac osgoi termau technegol diangen lle nad ydynt yn briodol i'r derbynnydd
  • Defnyddio dull cyfathrebu derbyniol ar gyfer y sefyllfa a’r derbynnydd.

Pasio SQE2

Er mwyn pasio SQE2, rhaid i ymgeiswyr gael y marc pasio cyffredinol ar gyfer SQE2. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, nodwch os gwelwch yn dda nad oes marc pasio ar wahân ar gyfer asesiad llafar SQE2 ac asesiad ysgrifenedig SQE2. Mae un marc pasio ar gyfer SQE2 yn ei gyfanrwydd. I gael manylion ynghylch sut mae’r marc pasio’n cael ei osod, darllenwch y Polisi Marcio a Chymedroli (bydd hwn ar gael yn y dyfodol).

Deunyddiau cyfreithiol

Ar gyfer pob rhan ac eithrio ymchwil gyfreithiol, bydd ymgeiswyr yn cael deunyddiau y byddai Cyfreithiwr ar ei ddiwrnod cyntaf yn chwilio amdanynt fel rhan o’u deunyddiau asesu.

Bydd angen digon o wybodaeth ar ymgeiswyr i’w gwneud yn gymwys i ymarfer ar y sail y gallant chwilio am fanylion yn ddiweddarach. Ni fydd disgwyl i ymgeiswyr wybod na rhoi sylw i fanylion y byddai Cyfreithiwr ar ei ddiwrnod cyntaf yn chwilio amdanynt, oni bai eu bod wedi cael y manylion hynny fel rhan o’r deunyddiau asesu. Fodd bynnag, dim ond pan ystyrir y byddai angen i Gyfreithiwr ar ei ddiwrnod cyntaf gyfeirio at y deunyddiau hynny y bydd deunyddiau cyfreithiol yn cael eu darparu. Bydd cwestiynau enghreifftiol ac atebion dangosol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr SQE. Am fanylion am yr asesiad ymchwil cyfreithiol, gweler Ymchwil Gyfreithiol.

Ni ellir dod ag unrhyw ddeunyddiau eraill, megis llyfrau a nodiadau, i mewn i’r asesiadau na’u defnyddio yn ystod yr asesiadau

1. Cyfweld cleientiaid a chwblhau nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol

Cyfweld cleient

Trosolwg

Bydd yr ymgeiswyr yn cael e-bost gan bartner neu ysgrifennydd yn dweud pwy yw’r cleient ac yn rhoi syniad o’r hyn y mae’r cleient wedi dod i’w drafod. Mae’n bosib y bydd dogfennau’n dod gyda’r e-bost, ond nid o reidrwydd. Gall yr e-bost hefyd nodi materion cyfreithiol penodol y dylai ymgeiswyr roi sylw penodol iddynt yn y cyfweliad a’r nodyn presenoldeb/dadansoddiad achos dilynol.

Bydd gan ymgeiswyr 10 munud i ystyried yr e-bost a/neu’r dogfennau.

Yna bydd ganddynt 25 munud i gynnal y cyfweliad gyda’r cleient. Gall y cleient fod, ond ni fydd o reidrwydd, yn rhywun mewn amgylchiadau bregus.

Bydd asesydd a fydd yn chwarae rôl y cleient yn asesu sgiliau’r ymgeisydd yn unig (nid ar gymhwyso’r gyfraith).

Yn y cyfweliad, dylai ymgeiswyr anelu at ennill ymddiriedaeth a hyder y cleient. Dylent geisio cael yr holl wybodaeth berthnasol a dealltwriaeth mor llawn â phosibl o bryderon y cleient. Nid oes angen i ymgeiswyr roi cyngor manwl ar hyn o bryd. Gallant gynnal y cyfweliad ar y sail y byddant yn rhoi cyngor manwl i’r cleient yn ddiweddarach. Fodd bynnag, mae angen i ymgeiswyr roi digon o gyngor rhagarweiniol a mynd i’r afael â digon o bryderon y cleient i sefydlu ymddiriedaeth a hyder y cleient.

Amcan asesu

Gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu cynnal cyfweliad gyda chleient.

Meini Prawf Asesu

Bydd perfformiad ymgeiswyr yn y cyfweliad yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Sgiliau

  • Gwrando ar y cleient a defnyddio cwestiynau’n effeithiol i alluogi’r cleient i ddweud wrth y cyfreithiwr beth sy’n bwysig iddo.
  • Cyfathrebu ac esbonio mewn ffordd sy’n addas i’r cleient ddeall.
  • Ymddwyn yn broffesiynol a thrin y cleient yn barchus a chwrtais, gan gynnwys parchu amrywiaeth lle bo hynny’n berthnasol.
  • Dangos ffocws ar y cleient yn ei agwedd tuag at y cleient a’r materion (h.y. dangos dealltwriaeth o’r broblem o safbwynt y cleient a’r hyn y mae’r cleient eisiau ei gyflawni, nid dim ond o safbwynt cyfreithiol).
  • Sefydlu a chynnal perthynas effeithiol gyda’r cleient er mwyn meithrin ymddiriedaeth a hyder.

Nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol

Trosolwg

Bydd gan ymgeiswyr 25 munud i ysgrifennu, â llaw, nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol o’r cyfweliad y maent newydd ei gwblhau.

Dylid cofnodi’r holl wybodaeth berthnasol a gafwyd yn ystod y cyfweliad yn y nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol. Dylai ymgeiswyr ddarparu dadansoddiad o unrhyw faterion cyfreithiol sy’n codi yn y mater a chofnodi eu cyngor cychwynnol i’r cleient. Dylai’r nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol hefyd nodi’r camau nesaf i’w cymryd gan y cyfreithiwr a, lle bo hynny’n berthnasol, y cleient, yn ogystal ag unrhyw faterion moesegol sy’n codi a sut y dylid delio â hwy. Gall hyn gynnwys (ond nid o reidrwydd) opsiynau a strategaethau ar gyfer negodi. Os yw’r e-bost gan y partner neu’r ysgrifennydd wedi gofyn i’r ymgeisydd ddelio ag unrhyw faterion neu gwestiynau penodol, dylid cynnwys cyngor ar y materion hyn hefyd.

Amcan asesu

Gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu cynhyrchu nodyn presenoldeb yn cofnodi cyfweliad cleient a dadansoddiad cyfreithiol cychwynnol.

Meini Prawf Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Sgiliau

1. Cofnodi’r holl wybodaeth berthnasol.

2. Nodi’r camau nesaf perthnasol.

3. Rhoi cyngor sy’n dangos ffocws ar y cleient (h.y. cyngor sy’n dangos dealltwriaeth o’r broblem o safbwynt y cleient a’r hyn y mae’r cleient eisiau ei gyflawni, nid dim ond o safbwynt cyfreithiol).

Cymhwyso’r gyfraith

4. Cymhwyso’r gyfraith yn gywir at sefyllfa’r cleient.

5. Cymhwyso’r gyfraith mewn modd cynhwysfawr at sefyllfa’r cleient, gan nodi unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad moesegol a phroffesiynol ac arfer barn i’w datrys yn onest ac yn ddidwyll.

Am ragor o wybodaeth am farcio gweler Marcio SQE2.

Mae Atodiad 3 yn nodi’r Datganiad Cymhwysedd Cyfreithwyr (SoSC).

Mae Atodiad 4 yn mapio’r cymwyseddau a asesir yn yr asesiadau yn SQE2 yn erbyn y SoSC.


2. Eiriolaeth

Trosolwg

Bydd ymgeiswyr yn cael astudiaeth achos y byddant yn ymgymryd ag eiriolaeth yn y llys ynglŷn â hi. Mae e-bost yn gofyn i’r ymgeisydd gynnal yr eiriolaeth ac yn dweud wrthynt ym mha lys y maent yn ymddangos. Lle bo hynny’n berthnasol, rhoddir ffeil o ddogfennau i ymgeiswyr hefyd. Efallai y gofynnir cwestiynau i ymgeiswyr yn ystod yr eiriolaeth. Mae ganddynt 45 munud i baratoi.

Bydd gan ymgeiswyr wedyn 15 munud i gyflwyno eu sylwadau i farnwr sy’n bresennol yn yr ystafell. Bydd cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr yn chwarae rhan y barnwr a bydd yn asesu’r ymgeisydd ar sail sgiliau a chymhwyso’r gyfraith.

Amcan asesu

Gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu ymgymryd ag eiriolaeth gerbron barnwr.

Meini Prawf Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Sgiliau

1. Defnyddio iaith ac ymddygiad priodol.

2. Mabwysiadu strwythur clir a rhesymegol.

3. Cyflwyno dadl argyhoeddiadol.

4. Cyfarch y llys/ymgysylltu â’r llys yn briodol.

5. Dylech gynnwys yr holl ffeithiau perthnasol allweddol.

Cymhwyso’r gyfraith

6. Cymhwyso’r gyfraith yn gywir at sefyllfa’r cleient.

7. Cymhwyso’r gyfraith mewn modd cynhwysfawr at sefyllfa’r cleient, gan nodi unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad moesegol a phroffesiynol ac arfer barn i’w datrys yn onest ac yn ddidwyll.

Am ragor o wybodaeth am farcio gweler Marcio SQE2.

Mae Atodiad 3 yn nodi’r SoSC.

Mae Atodiad 4 yn mapio’r cymwyseddau a asesir yn yr asesiadau yn SQE2 yn erbyn y SoSC.


3. Dadansoddi’r achos a’r mater

Trosolwg

Asesiad cyfrifiadurol yw hwn. Bydd ymgeiswyr yn cael astudiaeth achos gyda dogfennau y gofynnir iddynt eu defnyddio i lunio adroddiad ysgrifenedig i bartner yn rhoi dadansoddiad cyfreithiol o’r achos ac yn rhoi cyngor sy’n canolbwyntio ar y cleient. Gall hyn gynnwys (ond nid o reidrwydd) opsiynau a strategaethau ar gyfer negodi.

Bydd gan ymgeiswyr 60 munud i gwblhau’r dasg hon.

Amcan asesu

Bydd ymgeiswyr yn gallu dangos eu bod yn gallu llunio adroddiad ysgrifenedig i bartner yn rhoi dadansoddiad cyfreithiol o’r achos ac yn rhoi cyngor sy’n canolbwyntio ar y cleient.

Meini Prawf Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Sgiliau

1. Nodi ffeithiau perthnasol.

2. Rhoi cyngor sy’n dangos ffocws ar y cleient (h.y. cyngor sy’n dangos dealltwriaeth o’r broblem o safbwynt y cleient a’r hyn y mae’r cleient eisiau ei gyflawni, nid dim ond o safbwynt cyfreithiol).

3. Defnyddio iaith glir, fanwl, gryno a derbyniol.

Cymhwyso’r gyfraith

4. Cymhwyso’r gyfraith yn gywir at sefyllfa’r cleient.

5. Cymhwyso’r gyfraith mewn modd cynhwysfawr at sefyllfa’r cleient, gan nodi unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad moesegol a phroffesiynol ac arfer barn i’w datrys yn onest ac yn ddidwyll.

Am ragor o wybodaeth am farcio gweler Marcio SQE2.

Mae Atodiad 3 yn nodi’r SoSC.

Mae Atodiad 4 yn mapio’r cymwyseddau a asesir yn yr asesiadau yn SQE2 yn erbyn y SoSC.


4. Ymchwil gyfreithiol

Trosolwg

Asesiad cyfrifiadurol yw hwn. Bydd gofyn i ymgeiswyr ymchwilio i broblem ar gyfer cleient. Byddant yn cael e-bost gan bartner yn gofyn i’r ymgeisydd ymchwilio i fater neu faterion, er mwyn i’r partner allu adrodd yn ôl i’r cleient. Bydd rhaid i ymgeiswyr gynhyrchu nodyn ysgrifenedig yn egluro i’r partner eu rhesymeg gyfreithiol a’r ffynonellau allweddol y maent yn dibynnu arnynt, yn ogystal â’r cyngor y dylai’r partner ei roi i’r cleient. Ni fydd angen iddynt ddangos llwybr yr ymchwil.

Cofiwch, er y bydd pwnc yr ymchwil o fewn pennawd cyffredinol y maes ymarfer lle mae’r asesiad wedi’i osod, gall fod y tu allan i gwmpas yr Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol, sy’n galw felly am ymchwil.

Bydd ymgeiswyr yn cael ffynonellau ar gyfer yr ymarferion ymchwil cyfreithiol. Gall y rhain gynnwys ffynonellau cynradd ac eilaidd. Efallai na fydd rhai o’r ffynonellau a ddarperir yn berthnasol.

Bydd gan ymgeiswyr 60 munud i gwblhau’r dasg.

Amcan asesu

Gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu ymgymryd ag ymchwil gyfreithiol o amrywiaeth o ffynonellau a ddarperir a llunio adroddiad ysgrifenedig.

Meini Prawf Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Sgiliau

1. Canfod a defnyddio ffynonellau a gwybodaeth berthnasol.

2. Darparu cyngor sy’n canolbwyntio ar y cleient ac sy’n mynd i’r afael â phroblem y cleient.

3. Defnyddio iaith glir, fanwl, gryno a derbyniol.

Cymhwyso’r gyfraith

4. Cymhwyso’r gyfraith yn gywir at sefyllfa’r cleient.

5. Cymhwyso’r gyfraith mewn modd cynhwysfawr at sefyllfa’r cleient, gan nodi unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad moesegol a phroffesiynol ac arfer barn i’w datrys yn onest ac yn ddidwyll.

Am ragor o wybodaeth am farcio gweler Marcio SQE2.

Mae Atodiad 3 yn nodi’r SoSC.

Mae Atodiad 4 yn mapio’r cymwyseddau a asesir yn yr asesiadau yn SQE2 yn erbyn y SoSC.


5. Ysgrifennu cyfreithiol

Trosolwg

Asesiad cyfrifiadurol yw hwn. Gofynnir i ymgeiswyr ysgrifennu llythyr neu e-bost fel y cyfreithiwr sy’n gweithredu mewn mater, sy’n cymhwyso’r gyfraith yn glir ac yn gywir i bryderon y cleient ac sy’n briodol i’r derbynnydd. Gall hyn fod yng nghyd-destun negodi, ond nid o reidrwydd. Bydd yr ymgeiswyr yn cael e-bost gan bartner yn esbonio beth sydd ei angen. Efallai y bydd dogfennau electronig yn canlyn yr e-bost. Mae'r canlynol yn rhestr anghyflawn o'r derbynwyr posibl: cleient, trydydd parti, yr ochr arall mewn achos o ymgyfreitha neu drafodion cleient, neu bartner yn ei sefydliad.

Bydd gan ymgeiswyr 30 munud i gwblhau’r ymarferiad hwn.

Amcan asesu

Gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu llunio llythyr neu e-bost fel y cyfreithiwr sy’n gweithredu mewn mater.

Meini Prawf Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Sgiliau

1. Cynnwys ffeithiau perthnasol.

2. Defnyddio strwythur rhesymegol.

3. Mae’r cyngor/cynnwys yn canolbwyntio ar y cleient a’r derbynnydd.

4. Defnyddio iaith glir, fanwl, gryno a derbyniol sy’n briodol i’r derbynnydd.

Cymhwyso’r gyfraith

5. Cymhwyso’r gyfraith yn gywir at sefyllfa’r cleient.

6. Cymhwyso’r gyfraith mewn modd cynhwysfawr at sefyllfa’r cleient, gan nodi unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad moesegol a phroffesiynol ac arfer barn i’w datrys yn onest ac yn ddidwyll.

Am ragor o wybodaeth am farcio gweler Marcio SQE2.

Mae Atodiad 3 yn nodi’r SoSC.

Mae Atodiad 4 yn mapio’r cymwyseddau a asesir yn yr asesiadau yn SQE2 yn erbyn y SoSC.


6. Drafftio cyfreithiol

Trosolwg

Asesiad cyfrifiadurol yw hwn. Gofynnir i ymgeiswyr ddrafftio dogfen gyfreithiol neu rannau o ddogfen gyfreithiol. Gall hyn fod ar ffurf drafftio o gynsail neu ddiwygio dogfen sydd eisoes wedi’i drafftio ond gall hefyd olygu drafftio heb y naill neu’r llall o’r rhain.

Bydd gan ymgeiswyr 45 munud i gwblhau’r dasg.

Amcan asesu

Gall ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu drafftio dogfen gyfreithiol neu rannau o ddogfen gyfreithiol ar gyfer cleient.

Meini Prawf Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

Sgiliau

1. Defnyddio iaith glir, fanwl, gryno a derbyniol.

2. Strwythuro’r ddogfen yn briodol ac yn rhesymegol.

Cymhwyso’r gyfraith

3. Drafftio dogfen sy’n gyfreithiol gywir.

4. Drafftio dogfen sy’n gynhwysfawr yn gyfreithiol, gan nodi unrhyw faterion sy’n ymwneud ag ymddygiad moesegol a phroffesiynol ac arfer barn i’w datrys yn onest ac yn ddidwyll.

Am ragor o wybodaeth am farcio gweler Marcio SQE2.

Mae Atodiad 3 yn nodi’r SoSC.

Mae Atodiad 4 yn mapio’r cymwyseddau a asesir yn yr asesiadau yn SQE2 yn erbyn y SoSC.

Egwyddorion craidd atebolrwydd troseddol

Caiff yr egwyddorion craidd atebolrwydd troseddol sy’n ymwneud â’r troseddau penodedig eu rhestru isod:

Troseddau penodedig:

  • troseddau yn erbyn y person:
    • ymosod a churo
    • a. 47 Deddf Troseddau Corfforol 1861
    • a. 20 Deddf Troseddau Corfforol 1861
    • a. 18 Deddf Troseddau Corfforol 1861
  • troseddau dwyn:
    • a. 1 Deddf Dwyn 1968
    • a. 8 Deddf Dwyn 1968
    • a. 9 Deddf Dwyn 1968
    • a. 10 Deddf Dwyn 1968
  • difrod troseddol:
    • difrod troseddol syml
    • difrod troseddol gwaethygedig
    • llosgi bwriadol
  • lladd:
    • llofruddiaeth
    • dynladdiad gwirfoddol
    • dynladdiad anwirfoddol (dynladdiad anghyfreithlon, dynladdiad drwy esgeuluster difrifol)
  • twyll:
    • drwy wneud datganiad anwir
    • drwy gamddefnyddio safle
    • drwy beidio â datgelu.

Diffiniad o’r drosedd:

  • actus reus
  • mens rea.

Amddiffyniadau cyffredinol:

  • meddwdod
  • hunanamddiffyn/amddiffyn rhywun arall.

Amddiffynfeydd rhannol:

  • colli rheolaeth
  • llai o gyfrifoldeb.

Partïon:

  • prif droseddwr
  • cyd-droseddwyr
  • menter ar y cyd

Troseddau anghyflawn:

  • Ceisio cyflawni trosedd.

Cynghori cleientiaid, gan gynnwys cleientiaid agored i niwed, am y drefn a’r prosesau yng ngorsaf yr heddlu

Hawliau unigolyn dan amheuaeth sy’n cael ei gadw gan yr heddlu i’w holi:

  • hawl i gael cyngor cyfreithiol
  • yr hawl i roi gwybod i rywun ei fod wedi’i arestio
  • adolygiadau a therfynau amser cadw dan PACE 1984, Cod C.

Gweithdrefnau adnabod:

  • pa bryd y mae'n rhaid cynnal gweithdrefn adnabod
  • gwahanol fathau o weithdrefnau adnabod
  • gweithdrefn ar gyfer cynnal gweithdrefn adnabod PACE 1984, Cod D.

Rhoi cyngor i gleient, gan gynnwys cleientiaid agored i niwed, p’un ai i ateb cwestiynau’r heddlu:

  • hawl i dewi
  • casgliadau anffafriol.

Y drefn ar gyfer cyfweld unigolyn a amheuir dan PACE 1984:

  • rôl ac ymddygiad priodol gan gyfreithiwr/cynrychiolydd cyfreithiol yr amddiffyniad gan gynnwys cynrychioli cleient agored i niwed
  • rôl oedolyn priodol a pwy sy’n gallu bod yn oedolyn priodol.

Y gweithdrefnau a’r prosesau sy’n gysylltiedig ag ymgyfreitha troseddol

Ceisiadau am fechnïaeth:

  • yr hawl i fechnïaeth ac eithriadau
  • mechnïaeth amodol
  • y drefn ar gyfer gwneud cais am fechnïaeth
  • ceisiadau pellach am fechnïaeth
  • apeliadau yn erbyn penderfyniadau ar fechnïaeth
  • dianc a thorri mechnïaeth.

Gwrandawiadau cyntaf gerbron y llys ynadon:

  • dosbarthiad troseddau
  • gwneud cais am orchymyn cynrychiolaeth
  • trosolwg o’r drefn – beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
  • rôl cyfreithiwr yr amddiffyniad yn y gwrandawiad.

Ple cyn y Lleoliad:

  • y drefn pan fydd y diffynnydd yn pledio
  • cynghori’r cleient ar leoliad y treial.

Dyrannu busnes rhwng llys ynadon a Llys y Goron:

  • gweithdrefn a. 19–20 ac a. 22A Deddf Llysoedd Ynadon 1980
  • anfon heb ddyraniad a. 50A Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

Rheoli achosion a gwrandawiadau cyn-treial:

  • Cyfarwyddiadau rheoli achos y llys ynadon
  • Gwrandawiad Paratoi ar gyfer Treial a Phledio
  • datgelu – yr erlyniad, yr amddiffyniad a deunydd heb ei ddefnyddio.

Egwyddorion a gweithdrefnau ar gyfer derbyn ac eithrio tystiolaeth:

  • baich a safon y prawf
  • tystiolaeth adnabod gweledol ac arweiniad Turnbull
  • casgliadau ar sail tawelwch a. 34, 35, 36, 37, 38 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994
  • tystiolaeth achlust:
    • diffiniad
    • seiliau dros dderbyn tystiolaeth achlust
  • tystiolaeth o gyffes:
    • diffiniad
    • derbynioldeb
    • herio derbynioldeb a. 76 a 78 PACE 1984
  • tystiolaeth o gymeriad:
    • diffiniad o gymeriad drwg
    • y 7 mynedfa a. 101(1) Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003
    • y drefn ar gyfer derbyn tystiolaeth o gymeriad drwg
    • pwerau’r llys i wahardd tystiolaeth o gymeriad drwg
  • gwahardd tystiolaeth:
    • cwmpas a chymhwyso a. 78 PACE a’r hawl i dreial teg.

Trefn treialon yn y llys ynadon a Llys y Goron:

  • baich a safon y prawf
  • camau mewn treial troseddol, gan gynnwys cyflwyno dim achos i’w ateb
  • dulliau cyfarch a moesau yn ystafell y Llys
  • gwahaniaeth rhwng cwestiynau arweiniol a chwestiynau nad ydynt yn rhai arweiniol
  • cymhwysedd a natur orfodol
  • mesurau arbennig
  • dyletswydd cyfreithiwr i’r llys.

Dedfrydu:

  • rôl canllawiau dedfrydu
  • pennu difrifoldeb (y ffeithiau gwaethygol a lliniarol)
  • dedfrydau cydredol ac olynol
  • lliniaru
  • mathau o ddedfryd:
    • dedfrydau o garchar
    • dedfrydau gohiriedig
    • gorchmynion cymunedol
  • gwrandawiadau Newton

Y drefn apelio:

  • apeliadau o’r llys ynadon:
    • y drefn ar gyfer apelio yn erbyn euogfarn a/neu ddedfryd
    • pwerau Llys y Goron
    • apelio i’r Uchel Lys am ei farn ar bwynt cyfreithiol
  • apeliadau o Lys y Goron:
    • sail yr apêl
      • y weithdrefn ar gyfer gwneud yr apêl
      • pwerau'r Llys Apêl.

Trefn y llys ieuenctid:

  • awdurdodaeth a throseddau difrifol
  • dyrannu
    • pobl ifanc sy’n cael eu cyhuddo ar y cyd ag oedolyn
  • dedfrydu:
    • rôl y Gwasanaeth Dedfrydu – Plant a Phobl Ifanc – canllawiau diffiniol
    • gorchmynion atgyfeirio
    • gorchmynion cadw dan glo a hyfforddi
    • gorchmynion ailsefydlu pobl ifanc.

Yr egwyddorion, y gweithdrefnau a’r prosesau sy’n gysylltiedig â datrys anghydfod

Gwahanol opsiynau ar gyfer datrys anghydfod:

  • Nodweddion cyflafareddu, cyfryngu ac ymgyfreitha sy’n eu gwneud yn fecanwaith priodol i ddatrys anghydfod.

Datrys anghydfod drwy hawliad sifil:

  • ystyriaethau rhagarweiniol: cyfyngiadau, protocolau cyn-gweithredu:
  • partïon ac achosion gweithredu
  • cyfrifo cyfnodau cyfyngu ar gyfer hawliadau mewn contract a chamwedd
  • Cyfarwyddyd Ymarfer – Ymddygiad cyn-achos
  • egwyddorion a phwrpas protocolau cyn-gweithredu sy’n rheoli hawliadau penodol a chanlyniadau methu â dilyn eu telerau
  • cyfraith berthnasol: mecanweithiau i benderfynu pa wlad sy’n berthnasol i hawliad contract neu gamweddol a gyflwynir yn llysoedd Cymru a Lloegr
  • awdurdodaeth: mecanweithiau i bennu awdurdodaeth dros hawliad contract neu gamweddol rhyngwladol.

Lle i gychwyn achos:

  • dyrannu busnes rhwng yr Uchel Lys a’r Llys Sirol
  • awdurdodaeth y llysoedd arbenigol.

Cychwyn a chyflwyno achosion:

  • cyhoeddi ffurflen hawlio
  • ychwanegu, dileu neu amnewid partïon
  • cyflwyno ffurflen hawlio o fewn yr awdurdodaeth
  • y drefn ar gyfer cyflwyno ffurflen hawlio y tu allan i’r awdurdodaeth (gyda chaniatâd y llys neu hebddo) a mecanweithiau ar gyfer sicrhau gwasanaeth dilys mewn awdurdodaeth arall
  • dyddiadau cyflwyno tybiedig a’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno achos
  • drwy ddull arall.

Ymateb i hawliad:

  • addef yr hawliad
  • cydnabod cyflwyno a ffeilio amddiffyniad a/neu gwrth-hawliad
  • gwrthwynebu awdurdodaeth y llys
  • cofnodi dyfarniad drwy ddiffyg a’i roi o’r neilltu
  • dirwyn i ben a setlo
  • terfynau amser ar gyfer ymateb i hawliad.

Datganiadau o achos:

  • pwrpas, strwythur a chynnwys ffurflen hawlio, manylion hawliad, neu amddiffyniad yn ymwneud â hawliad mewn contract neu gamwedd
  • pwrpas, strwythur a chynnwys ateb, hawliad Rhan 20, neu amddiffyniad i hawliad Rhan 20
  • ceisiadau am ragor o wybodaeth am ddatganiadau achos
  • diwygiadau.

Ceisiadau interim

  • y drefn ar gyfer gwneud cais
  • pwrpas, gweithdrefn a thystiolaeth sy’n ofynnol ar gyfer ceisiadau penodol:
    • dyfarniad diannod
    • taliadau interim
    • gwaharddebau interim.

Rheoli Achosion:

  • yr amcan cyffredinol
  • dyrannu trac
  • cyfarwyddiadau rheoli achos ar gyfer achosion sy’n mynd ymlaen ar y trac cyflym neu sy’n aml-drac
  • diffyg cydymffurfio â gorchmynion, sancsiynau a rhyddhad
  • cynadleddau rheoli achos a chostau.

Tystiolaeth:

  • perthnasedd, achlust a derbynioldeb
  • baich a safon y prawf
  • tystiolaeth arbenigol -
    • tystiolaeth barn
    • dyletswyddau arbenigwyr
    • arbenigwyr unigol ar y cyd
    • trafodaeth rhwng arbenigwyr
  • tystiolaeth tystion -
    • datganiadau tyst
    • affidafid.

Datgelu ac archwilio:

  • datgeliad safonol
  • gorchmynion i ddatgelu
  • datgeliad penodol
  • datgeliad cyn-achos a heb fod yn gan y parti
  • datgelu electronig
  • cyfathrebiadau braint a heb ragfarn
  • hepgor braint.

Treial:

  • gwysio tystion
  • paratoi ar gyfer treial -
    • pwrpas rhestrau gwirio a gwrandawiadau cyn treial
    • pwrpas bwndeli treial.
  • trefn y treial
  • natur ac effaith y dyfarniad.

Costau:

  • rheoli costau a chyllidebu
  • gorchmynion costau rhwng partïon (interim a therfynol)
  • costau nad ydynt yn gostau parti
  • symud costau un ffordd cymwysedig
  • Rhan 36 a chynigion eraill
  • sicrwydd ar gyfer costau
  • costau penodol a chostau a aseswyd.

Apeliadau:

  • caniatâd
  • cyrchfan apeliadau
  • rhesymau dros apelio.

Gorfodi dyfarniadau arian:

  • holi ar lafar
  • dulliau gorfodi
  • gweithdrefnau a mecanweithiau ar gyfer gorfodi dilys mewn awdurdodaeth arall.

Egwyddorion craidd cyfraith contractau

Llunio:

  • cynnig a derbyn
  • ystyriaeth
  • bwriad i greu cysylltiadau cyfreithiol
  • sicrwydd
  • galluedd.

Partïon:

  • preifatrwydd contract
  • hawliau trydydd parti.

Telerau contract:

  • telerau datganedig
  • ymgorffori telerau
  • telerau yn deillio o gyfraith gwlad a statud
  • cymalau eithrio
  • dehongli telerau contract (amodau, gwarantau a thelerau gwahardd)
  • amrywio.

Ffactorau annilysu:

  • camliwio
  • camgymeriad
  • elerau contract annheg
  • gorfodaeth a dylanwad gormodol
  • anghyfreithlondeb.

Terfynu:

  • dod i ben neu ddigwyddiad penodedig arall
  • tor-amod
  • rhwystredigaeth
  • egwyddorion sylfaenol adfer a chyfoethogi anghyfiawn yng nghyd-destun terfynu contract.

Rhwymedïau:

  • iawndal
  • symiau penodedig a chosbau
  • perfformiad penodol
  • gwaharddebau
  • dyletswydd i liniaru
  • indemniadau
  • gwarantau.

Achosiaeth a phellter

Egwyddorion craidd camwedd

Esgeulustod:

  • dyletswydd gofal (safonol (cyffredinol a phroffesiynol)) a thoramod
  • achosiaeth (sengl a lluosog)
  • bod yn bell a cholled
  • egwyddorion rhwymedïau ar gyfer anafiadau personol a hawliadau am farwolaeth
  • hawliadau am golled economaidd pur sy’n deillio o weithred esgeulus neu gamddatganiad
  • hawliadau am niwed seiciatri
  • prif atebolrwydd cyflogwyr (gweithrediad ac effaith egwyddorion cyfraith gyffredin).

Amddiffyniadau:

  • caniatâd
  • esgeulustod cyfrannol
  • anghyfreithlondeb
  • anghenraid.

Egwyddorion atebolrwydd driprwyol

Atebolrwydd Deiliaid

  • gofynion cyfreithiol ar gyfer hawliad dan Ddeddf Atebolrwydd Deiliaid 1957 (mewn perthynas ag ymwelwyr) a Deddf Atebolrwydd Deiliaid 1984 (mewn perthynas â phobl nad ydynt yn ymwelwyr)
  • amddiffyniadau
  • eithrio atebolrwydd.

Atebolrwydd am gynnyrch:

  • egwyddorion yn achos esgeulustod
  • egwyddorion Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987.

Niwsans:

  • niwsans cyhoeddus a phreifat
  • y rheol yn Rylands v Fletcher
  • rhwymedïau (difrod a gwaharddebau) ac amddiffyniadau.

Meysydd gwybodaeth craidd o gyfraith ac ymarfer eiddo tirol rhydd-ddaliadol

Ymchwilio i deitl rhydd-ddaliad cofrestredig a heb ei gofrestru:

  • elfennau allweddol a strwythur trafodion eiddo rhydd-ddaliadol
  • y broses o ddadansoddi cofnodion copi swyddogol y Gofrestrfa Dir
  • y broses o ddadansoddi talfyriad o deitl a dod i gasgliad ynglŷn â pherchnogaeth
  • materion a allai godi o ymchwiliad i deitl a'r camau pellach sy'n ofynnol
  • pwrpas a phroses adrodd i’r cleient.

Ymholiadau a chwiliadau cyn-contract:

  • ystod a phwrpas gwneud chwiliadau a chodi ymholiadau
  • pwy fyddai’n gwneud y chwiliadau ac yn holi
  • canlyniadau chwiliadau ac ymholiadau.

Protocol Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith

Cyllid:

  • ffynonellau cyllid ar gyfer trafodiad eiddo
  • mathau o forgais.

Gweithredu ar ran benthyciwr:

  • gofynion y benthyciwr
  • pwrpas tystysgrif teitl.

Paratoi ar gyfer contractau a’u cyfnewid:

  • amodau allweddol sydd wedi’u cynnwys yn yr:
    • Amodau Gwerthu Safonol
    • Amodau Eiddo Masnachol Safonol.
  • pwrpas amodau arbennig, a’r materion y mae amodau arbennig yn ymdrin â hwy
  • dulliau o ddal blaendal:
    • rhanddeiliaid
    • asiant.
  • yswiriant a risg
  • hanfodion TAW mewn contract
  • amseriad rhoi tystysgrif teitl i fenthyciwr
  • yr arfer, y dull a’r awdurdod i gyfnewid
  • canlyniadau cyfnewid.

Cyn cwblhau:

  • ffurf y weithred drosglwyddo a’r trefniadau ffurfiol ar gyfer gweithredu
  • chwiliadau cyn cwblhau
  • camau cyn cwblhau.

Cwblhau ac ar ôl cwblhau:

  • dulliau ac effaith cwblhau
  • camau ar ôl cwblhau.

Rhwymedïau am oedi cyn cwblhau:

  • iawndal cyfraith gwlad
  • iawndal contractiol
  • rhybudd i gwblhau
  • diddymiad.

Meysydd gwybodaeth craidd o gyfraith ac ymarfer eiddo tirol rhydd-ddaliadol

Strwythur a chynnwys prydles:

  • atgyweirio
  • yswiriant
  • newidiadau
  • defnyddwyr a chynllunio
  • adolygiad rhent a rhent
  • dieithrio
  • opsiynau ar gyfer cyfnod les
  • Cod ar gyfer Prydlesu Eiddo Busnes.

Camau gweithdrefnol ar gyfer rhoi les neu danles:

  • drafftio’r les
  • pwrpas cytundeb ar gyfer les
  • didynnu teitl
  • ymholiadau a chwiliadau cyn-contract
  • camau ffurfiol cyn cwblhau
  • camau cwblhau ac ar ôl cwblhau.

Camau gweithdrefnol ar gyfer rhoi les:

  • didynnu teitl
  • ymholiadau a chwiliadau cyn-contract
  • cydsyniad y landlord
  • gweithred aseinio a chyfamodau ar gyfer teitl
  • camau ffurfiol cyn cwblhau
  • cytundeb gwarant awdurdodedig
  • camau cwblhau ac ar ôl cwblhau.

Trwydded i aseinio a thrwydded i danosod:

  • pwrpas y drafft a phwy sy’n ei baratoi
  • cyfreithlondeb y contract a sut mae'r drwydded yn delio â hyn
  • darpariaethau allweddol yn y drwydded.

Cyfamodau mewn prydlesi:

  • rhwymedigaeth ar gyfamodau mewn prydlesi –
    • prydlesi a roddwyd cyn 1 Ionawr 1996
    • prydlesi a roddwyd ar 1 Ionawr 1996 neu ar ôl hynny.

Rhwymedïau am dorri cyfamod lesddaliad:

  • gweithredu yn achos dyled
  • fforffedu
  • Adfer Ôl-ddyledion Rhent Masnachol
  • mynd ar drywydd gwarantwyr a/neu flaendal rhent
  • perfformiad penodol
  • iawndal
  • cymal hunan-gymorth/Jervis v Harris.

Terfynu les:

  • treigl amser
  • rhybudd i ymadael
  • ildio
  • uno.

Sicrwydd deiliadaeth o dan les busnes:

  • Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1954 (Rhan II) -
    • cymhwyso Deddf 1954
    • y tenant yn adnewyddu’r brydles
    • y landlord yn terfynu
    • seiliau gwrthwynebu'r landlord
    • telerau’r les newydd
    • a oes iawndal ar gael ai peidio.

Egwyddorion craidd cyfraith gynllunio

Diffiniad statudol o “Ddatblygu”

Materion nad ydynt yn gyfystyr â “Datblygu”

Materion nad oes angen caniatâd cynllunio penodol ar eu cyfer

Rheoli rheoliadau adeiladu

Gorfodi: terfynau amser ac ystod pwerau gorfodi awdurdod cynllunio lleol.

Trethu - eiddo

Treth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Trafodiadau Tir:

  • sail y taliad yng Nghymru a Lloegr am:
    • eiddo preswyl
    • eiddo rhydd-ddaliadol amhreswyl.

Treth ar Werth:

  • sail y taliad:
    • beth yw cyflenwad trethadwy
    • gwahaniaethau rhwng cyflenwadau safonol, wedi’u heithrio a chyflenwadau ar gyfradd sero
  • rhesymau pam y byddai cleient yn dewis trethu a’r effaith a gaiff hynny.

Treth Enillion Cyfalaf:

  • sail y taliad:
  • prif eithriad tŷ annedd preifat.

Egwyddorion craidd cyfraith gynllunio

Natur y Tir:

  • gwahaniaeth rhwng eiddo tirol ac eiddo personol
  • sut i gaffael a throsglwyddo ystadau cyfreithlon ac ecwitïol
  • sut i gaffael a gwaredu buddiannau cyfreithiol a ecwitïol mewn tir
  • dulliau o ddiogelu a gorfodi buddiannau trydydd parti
  • y gwahanol ffyrdd o ddal tir
  • ffurfioldeb cyfreithiol sy’n ofynnol i greu a throsglwyddo buddiannau ac ystadau mewn tir.

Teitl y Tir:

  • cofrestru teitl tir:
    • ystadau y gellir eu cofrestru’n sylweddol
    • sut i ddiogelu buddiannau
    • buddiannau sy’n drech na chofrestru a buddiannau y mae angen eu gwarchod ar y gofrestr.
  • egwyddorion craidd teitl anghofrestredig i dir:
    • rôl gweithredoedd teitl
    • Pridiannau Tir
  • rôl barhaus yr athrawiaeth hysbysu.

Cyd-berchnogaeth ac Ymddiriedolaethau:

  • gwahaniaethau rhwng tenantiaid ar y cyd a thenantiaid cyffredin yn y gyfraith ac mewn ecwiti
  • rheol goroesi
  • gwahanu tenantiaethau ar y cyd
  • datrys anghytundebau rhwng cydberchnogion drwy gyfeirio at adrannau 14 a 15 Deddf Ymddiriedolaethau Tir a Phenodi Ymddiriedolwyr 1996.

Hawliau Perchenogaeth:

  • enodweddion hanfodol hawddfreintiau
  • dulliau o greu hawddfreintiau
  • rheolau ar gyfer pasio budd a baich cyfamodau rhydd - ddaliad
  • morgeisi, gan gynnwys gorfodi telerau, blaenoriaeth morgeisi, pwerau a dyletswyddau benthyciwr, a diogelu morgeiswyr a thrydydd partïon eraill sydd â buddiant yn y tir.

Prydlesi:

  • y berthynas rhwng landlord a thenant mewn les
  • nodweddion hanfodol les gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng les a thrwydded
  • cyfreithlondeb y contract a phroffesiynoldeb yr ystâd
  • rheolau ar gyfer pasio budd a baich cyfamodau rhydd - ddaliad a’r gallu i orfodi
  • pwrpas ac effaith cyfamod dieithrwch
  • rhwymedïau am dorri cyfamodau lesddaliadol (gan gynnwys fforffedu)
  • ffyrdd gwahanol y gellir terfynu les.

Ewyllysiau ac Anewyllysedd

Dilysrwydd ewyllysiau a chodisiliau:

  • galluedd ewyllysiol
  • gorfodaeth a dylanwad gormodol
  • gofynion ffurfiol.

Cynrychiolwyr Personol:

  • penodi ysgutorion
  • ymwrthod a chadw pŵer.

Newidiadau a diwygiadau i ewyllysiau:

  • effaith newidiadau a wnaed i ewyllysiau cyn ac ar ôl gweithredu
  • defnyddio codisilau.

Diddymu ewyllysiau:

  • dulliau diddymu
  • effaith priodas ac ysgariad ewyllysiwr.

Dehongli ewyllysiau:

  • effaith gwahanol fathau o roddion
  • rhoddion yn methu.

Rheolau diewyllysedd:

  • Adran 46 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1925
  • yr ymddiriedolaethau statudol.

Eiddo sy’n pasio y tu allan i’r ystâd:

  • cyd-eiddo
  • polisïau bywyd
  • buddion cynllun pensiwn
  • eiddo ymddiriedolaeth.

Arferion Profiant a Gweinyddu

Grantiau cynrychiolaeth:

  • angen am grant
  • darpariaethau perthnasol y Rheolau Profiant Diwrthwynebiad
  • trefn gwneud cais
  • cyfrifo gwerth asedau a rhwymedigaethau.
  • ystadau eithriedig
  • dulliau o ariannu'r broses gychwynnol o dalu Treth Etifeddu
  • baich a nifer yr achosion o Dreth Etifeddu.

Gweinyddu ystadau:

  • dyletswyddau cynrychiolwyr personol
  • rhwymedigaethau cynrychiolwyr personol a'u hamddiffyn
  • gwerthu asedau i godi arian i dalu treuliau angladd, treth, dyledion a chymynroddion
  • rhannu’r ystâd

Hawliadau yn erbyn ystadau dan Ddeddf Etifeddu (Darpariaeth i Deulu a Dibynyddion) 1975:

  • terfynau amser
  • ymgeiswyr
  • rheswm.

Trethu - ewyllysiau a gweinyddu ystadau

Treth etifeddu:

  • trosglwyddiadau yr ystod oes yr ymadawedig y mae taliadau i’w gwneud arnynt yn syth a’r rhai a allai fod wedi’u heithrio
  • trosglwyddiadau ar farwolaeth
  • esemptiad a rhyddhad
  • cwmpas y darpariaethau gwrth-osgoi.

Treth Incwm ac Enillion Cyfalaf mewn perthynas â chyfnod gweinyddu ystad:

  • atebolrwydd y cynrychiolwyr personol o ran Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf
  • rhwymedigaeth y buddiolwyr o ran Treth Enillion Cyfalaf ar asedau a etifeddwyd.

Egwyddorion craidd cyfraith ymddiriedolaethau

Creu ymddiriedolaethau penodol a’u gofynion:

  • tri sicrwydd bwriad, pwnc a gwrthrychau:
    • ymddiriedolaethau llog sefydlog
    • ymddiriedolaethau dewisol
  • camau ffurfiol i greu ymddiriedolaethau inter vivos penodol
  • cyfansoddiad ymddiriedolaethau inter vivos penodol ac eithriadau i’r rheol na fydd ecwiti o gymorth i wirfoddolwr.

Hawl buddiannol:

  • buddiannau sefydlog, dewisol, breiniol, digwyddiadol
  • y rheol yn Saunders v Vautier.

Y gwahaniaeth rhwng ymddiriedolaethau elusennol ac ymddiriedolaethau i ddiben anelusenno

Ymddiriedolaethau dilynol:

  • sut maent yn codi a phryd maent (neu nad ydynt) yn cael eu rhagdybio.

Ymddiriedolaethau cartref y teulu:

  • sefydlu ymddiriedolaeth adeiladol bwriad cyffredin:
    • teitl cyfreithiol yn enw’r ddau barti/unig barti
    • datganiad neu gytundeb penodol ynghylch perchnogaeth ecwitïol
    • cyfraniadau uniongyrchol ac anuniongyrchol
  • gofynion i sefydlu estopel perchnogol.

Atebolrwydd pobl ddieithr i’r ymddiriedolaeth:

  • sefydlu atebolrwydd derbynnydd
  • sefydlu atebolrwydd ategol.

Y berthynas ymddiriedol a’i rhwymedigaethau:

  • dyletswydd i beidio ag elwa o safle ymddiriedol
  • ymddiriedolwyr i beidio â phrynu eiddo ymddiriedolaeth
  • ymddiriedolwyr i beidio â’u rhoi eu hunain mewn sefyllfa lle mae eu buddiannau a’u dyletswydd yn gwrthdaro.

Ymddiriedolwyr:

  • pwy all fod yn ymddiriedolwr; penodi, diswyddo ac ymddeoliad ymddiriedolwyr
  • dyletswydd gofal yr ymddiriedolwyr
  • dyletswydd ymddiriedolwyr i fuddsoddi (a phwerau mewn perthynas â buddsoddi)
  • pwerau cynnal a datblygu statudol ymddiriedolwyr.

Atebolrwydd ymddiriedolwyr:

  • torri ymddiriedaeth
  • mesur atebolrwydd
  • gwarchod ymddiriedolwyr
  • cyfnod cyfyngu.

Natur atebion teg a’r gallu i olrhain mewn ecwiti.

Sefydliadau, rheolau a gweithdrefnau busnes:

(Heb gynnwys Rhestru, Prosbectws, y Canllawiau Datgelu a’r Rheolau Tryloywder ac unrhyw godau neu reolau FCA, Cyfnewidfa Stoc Llundain, eraill)

Nodweddion busnes a sefydliadol (unig fasnachwr/partneriaeth/LLP/cwmnïau preifat a chyhoeddus heb eu rhestru).

Personoliaeth gyfreithiol ac atebolrwydd cyfyngedig.

Y gweithdrefnau a’r dogfennau sydd eu hangen i ymgorffori cwmni/ffurfio partneriaeth/LLP a’r camau eraill sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth cwmnïau a phartneriaethau i alluogi’r endid i ddechrau gweithredu:

  • dogfennau cyfansoddiadol
  • Gofynion ffeilio Tŷ’r Cwmnïau.

Cyllid:

  • opsiynau cyllido: dyled ac ecwiti
  • mathau o warannau
  • dosbarthu elw ac enillion
  • cofnodion ariannol, gwybodaeth a gofynion cyfrifyddu.

Llywodraethu corfforaethol a chydymffurfiaeth:

  • hawliau, dyletswyddau a phwerau cyfarwyddwyr a chyfranddalwyr cwmnïau
  • gwneud penderfyniadau a chyfarfodydd y cwmni: gofynion gweithdrefnol, datgelu a chymeradwyo
  • gofynion dogfennol, cadw cofnodion, ffeilio statudol a datgelu
  • penodi a diswyddo cyfarwyddwyr
  • diogelu cyfranddalwyr lleiafrifol.

Gwneud penderfyniadau partneriaeth ac awdurdod partneriaid:

  • gweithdrefnau ac awdurdod o dan Ddeddf Partneriaeth 1890
  • darpariaethau cyffredin mewn cytundebau partneriaeth.

Ansolfedd (corfforaethol a phersonol):

  • opsiynau a gweithdrefnau – CVA/IVA, methdaliad, gweinyddu, derbyn asedau sefydlog, diddymiad gwirfoddol a gorfodol
  • adfachu asedau ar gyfer credydwyr – blaenoriaethau, trafodion ar sail tanwerth, masnachu twyllodrus a anghyfiawn, gosod ffi hyblyg o’r neilltu
  • trefn blaenoriaeth ar gyfer dosbarthu i gredydwyr.

Treth - busnes

Treth Incwm:

  • personau/endidau trethadwy (cyflogeion, unig fasnachwyr, partneriaid, cyfranddalwyr, benthycwyr a deiliaid dyled)
  • sail y taliad (mathau o incwm/prif ostyngiadau ac eithriadau)
  • y dreth i’w thalu: cyfrifo a chasglu
  • cwmpas y darpariaethau gwrth-osgoi.

Treth Enillion Cyfalaf:

  • personau/cynrychiolaethau trethadwy (unig fasnachwyr, partneriaid a chyfranddalwyr)
  • sail y cyhuddiad (cyfrifo enillion/didyniadau a ganiateir/prif ostyngiadau ac eithriadau)
  • y dreth i’w thalu: cyfrifo a chasglu
  • cwmpas y darpariaethau gwrth-osgoi.

Treth Gorfforaeth:

  • sail y taliad
  • cyfrifo, talu a chasglu treth
  • ymdrin â threth yng nghyswllt dosraniadau neu ddosraniadau tybiedig cwmni i gyfranddalwyr
  • amlinelliad o ddeddfwriaeth yn erbyn osgoi trethi.

Treth ar Werth:

  • egwyddorion allweddol sy’n ymwneud â chwmpas, cyflenwad, mewnbwn ac allbwn treth
  • gofynion cofrestru a chyhoeddi anfonebau TAW
  • ffurflenni/talu TAW a chadw cofnodion.

Treth etifeddu:

  • rhyddhad eiddo busnes.

Gwyngalchu arian a gwasanaethau ariannol

Gwyngalchu arian

  • pwrpas a chwmpas deddfwriaeth atal gwyngalchu arian, gan gynnwys y cyd-destun rhyngwladol
  • amgylchiadau y deuir ar eu traws yn ystod yr ymarfer lle dylid rhoi gwybod am amheuaeth o wyngalchu arian yn unol â'r ddeddfwriaeth
  • y person neu’r corff priodol y dylid rhoi gwybod am amheuon wrtho, yr amser priodol ar gyfer gwneud adroddiadau o’r fath a’r weithdrefn briodol i’w dilyn
  • troseddau lle mae ymwneud uniongyrchol a throseddau lle nad oes ymwneud yn uniongyrchol, ac amddiffyniadau i’r troseddau hynny dan Ddeddf Elw Troseddau 2002
  • gofynion astudrwydd dyladwy.

Gwasanaethau ariannol

  • fframwaith rheoleiddio gwasanaethau ariannol gan gynnwys awdurdodi, a sut mae’n berthnasol i gwmnïau cyfreithwyr
  • cydnabod materion gwasanaethau ariannol perthnasol, gan gynnwys nodi buddsoddiadau penodedig, gweithgareddau penodedig ac eithriadau perthnasol
  • cymhwyso Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig at waith cyfreithiwr
  • ffynonellau gwybodaeth priodol am wasanaethau ariannol.

Moeseg ac ymddygiad proffesiynol

Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu gallu i weithredu’n onest ac yn ddidwyll, ac yn unol â Rheoliadau a Safonau SRA fel a ganlyn:

  • Pwrpas, cwmpas a chynnwys Egwyddorion yr SRA
  • Pwrpas, cwmpas a chynnwys y canlynol:
    • Cod Ymddygiad SRA ar gyfer Cyfreithwyr, RELs a RFLs
    • Cod Ymddygiad SRA ar gyfer Cwmnïau mewn perthynas â:
      • Rheolwyr mewn cwmnïau awdurdodedig
      • Swyddogion Cydymffurfio.

Gyda’i gilydd, cyfeirir at hyn fel y Cod Ymddygiad.

Gweler SoSC (A1) yn Atodiad 3.

Mae Lefel 3 y Safon Trothwy ar gyfer y Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr (SSC) yn disgrifio ar ba lefel y dylid cyflawni cymwyseddau’r SoSC ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr.

Gwybodaeth gyfreithiol weithredol Safon y gwaith Awtonomi Cymhlethdod Canfyddiad o gyd-destun Arloesedd a gwreiddioldeb
Nodi’r egwyddorion cyfreithiol sy’n berthnasol i’r maes ymarfer a’u cymhwyso’n briodol ac yn effeithiol at achosion unigol. Cyflawnwyd safon dderbyniol fel mater o drefn ar gyfer tasgau syml. Gall tasgau cymhleth fod yn brin o gywreinrwydd. Cyflawni’r rhan fwyaf o dasgau a gallu bwrw ymlaen â materion cyfreithiol gan ddefnyddio eich crebwyll eich hun, gan gydnabod pan fydd angen cymorth. Gallu delio â thrafodion syml, gan gynnwys tasgau achlysurol, anghyfarwydd sy'n cyflwyno amrywiaeth o broblemau a dewisiadau. Deall arwyddocâd camau gweithredu unigol yng nghyd-destun amcanion y trafodiad/strategaeth ar gyfer yr achos. Defnyddio profiad i wirio’r wybodaeth a ddarperir ac i ffurfio barn am y camau gweithredu posibl a’r ffyrdd ymlaen.

Mae’r datganiad hwn yn rhoi diffiniad eang o gymhwysedd fel “y gallu i gyflawni’r rolau a’r tasgau sy’n ofynnol gan swydd rhywun i’r safon ddisgwyliedig” (Eraut a du Boulay, 2001).

Mantais y diffiniad hwn yw ei fod yn cydnabod bod gofynion a disgwyliadau yn newid yn dibynnu ar rôl a chyd-destun y swydd. Mae hefyd yn cydnabod bod cymhwysedd yn datblygu, ac y gall unigolyn weithio’n ‘gymwys’ ar sawl lefel wahanol, naill ai ar wahanol gamau yn ei yrfa, neu’n wir o un diwrnod i’r llall yn dibynnu ar natur ei waith.

Dylid darllen y datganiad cymhwysedd yn gyfannol. Er enghraifft, mae’r gofyniad yn A1e i barchu amrywiaeth a gweithredu’n deg ac yn gynhwysol yn treiddio i bob maes gwaith ac yn sail i’r holl gymwyseddau yn y datganiad.

Dylai cyfreithwyr allu:

A. Moeseg, proffesiynoldeb a barn

A1. Gweithredu’n onest ac yn ddidwyll, yn unol â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol a Rheoliadau a Safonau SRA, gan gynnwys:

  • Cydnabod materion moesegol a defnyddio crebwyll effeithiol wrth fynd i’r afael â nhw.
  • Deall a chymhwyso’r cysyniadau moesegol sy’n llywodraethu ei rôl a’i ymddygiad fel cyfreithiwr.
  • Nodi egwyddorion a rheolau ymddygiad proffesiynol perthnasol yr SRA a’u dilyn.
  • Gwrthsefyll pwysau i gymeradwyo, anwybyddu neu gyflawni ymddygiad anfoesegol.
  • Parchu amrywiaeth a gweithredu’n deg ac yn gynhwysol.

A2. Cynnal y lefel o gymhwysedd a'r wybodaeth gyfreithiol sydd ei hangen i ymarfer yn effeithiol, gan ystyried newidiadau yn y rôl a/neu yn y cyd-destun ymarfer a datblygiadau yn y gyfraith, gan gynnwys:

  • Cymryd cyfrifoldeb dros ddysgu a datblygu personol.
  • Myfyrio ar ymarfer a dysgu gwersi ar sail hynny a dysgu oddi wrth bobl eraill.
  • Gwerthuso’n gywir eu cryfderau a’u cyfyngiadau yng nghyswllt gofynion eu gwaith.
  • Cynnal dealltwriaeth ddigonol a chyfoes o'r gyfraith, y polisïau a'r arferion perthnasol.
  • Addasu arferion i fynd i’r afael â datblygiadau o ran darparu gwasanaethau cyfreithiol.

A3. Gweithio o fewn terfynau eu cymhwysedd a’r oruchwyliaeth sydd ei hangen arnynt, gan gynnwys:

  • Datgelu pan fo gwaith y tu hwnt i’w gallu personol.
  • Cydnabod eu bod wedi gwneud camgymeriadau neu eu bod yn cael anawsterau a chymryd camau priodol.
  • Ceisio a defnyddio adborth, arweiniad a chefnogaeth yn effeithiol lle bo angen.
  • Gwybod pryd i geisio cyngor arbenigol.

A4. Defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl ddigonol o’u maes/meysydd gwaith a’u rôl er mwyn ymarfer yn effeithiol, gan gynnwys:

  • Nodi egwyddorion cyfreithiol perthnasol.
  • Cymhwyso egwyddorion cyfreithiol at faterion ffeithiol, er mwyn creu ateb sy’n mynd i’r afael orau ag anghenion cleient ac sy’n adlewyrchu amgylchiadau masnachol neu bersonol y cleient.
  • Canfod materion sydd y tu hwnt i’w harbenigedd a chymryd camau priodol, gan ddefnyddio ymwybyddiaeth o sylfaen eang o wybodaeth gyfreithiol (i’r graddau sy’n berthnasol i’w maes ymarfer) a gwybodaeth fanwl am eu maes ymarfer.

A5. Cymhwyso dealltwriaeth, meddwl beirniadol a dadansoddi i ddatrys problemau, yn cynnwys:

  • Asesu gwybodaeth i nodi materion a risgiau allweddol.
  • Adnabod anghysonderau a bylchau mewn gwybodaeth.
  • Gwerthuso ansawdd a dibynadwyedd gwybodaeth.
  • Defnyddio nifer o ffynonellau gwybodaeth i wneud penderfyniadau effeithiol.
  • Gwneud penderfyniadau rhesymegol wedi'u hategu gan dystiolaeth berthnasol.

B. Ymarfer cyfreithiol technegol

B1. Dod o hyd i ffeithiau perthnasol, gan gynnwys:

  • Cael gafael ar wybodaeth berthnasol drwy ddefnyddio technegau holi a gwrando gweithredol yn effeithiol.
  • Canfod, dadansoddi ac asesu dogfennau er mwyn cael gwybodaeth berthnasol.
  • Cydnabod pryd mae angen gwybodaeth ychwanegol.
  • Dehongli a gwerthuso gwybodaeth a gafwyd.
  • Cofnodi a chyflwyno gwybodaeth yn gywir ac yn glir.

B2. Cynnal ymchwil gyfreithiol, gan gynnwys:

  • Cydnabod pryd mae angen ymchwil gyfreithiol.
  • Defnyddio dulliau ac adnoddau priodol i wneud yr ymchwil.
  • Nodi, canfod ac asesu perthnasedd ffynonellau cyfreithiol.
  • Dehongli, gwerthuso a defnyddio canlyniadau’r ymchwil.
  • Cofnodi a chyflwyno’r canfyddiadau yn gywir ac yn glir.

B3. Datblygu a chynghori ar opsiynau, strategaethau ac atebion perthnasol, gan gynnwys:

  • Deall ac asesu amgylchiadau masnachol a phersonol cleient, ei anghenion, ei amcanion, ei flaenoriaethau a’i gyfyngiadau.
  • Sicrhau bod cyngor yn seiliedig ar ddadansoddiad cyfreithiol a ffeithiol priodol a’i fod yn nodi canlyniadau gwahanol opsiynau

B4. Drafftio dogfennau sy’n gyfreithiol effeithiol ac sy’n adlewyrchu cyfarwyddiadau’r cleient yn gywir, gan gynnwys:

  • Gallu drafftio dogfennau o’r dechrau yn ogystal â gwneud defnydd priodol o gynseiliau.
  • Rhoi sylw i’r holl faterion cyfreithiol a ffeithiol perthnasol.
  • Cydymffurfio ag ymrwymiadau ffurfiol priodol.
  • Defnyddio iaith glir, gywir a chryno.

B5. Darparu eiriolaeth lafar ac ysgrifenedig effeithiol, gan gynnwys:

  • Paratoi’n effeithiol drwy nodi a meistroli ffeithiau ac egwyddorion cyfreithiol perthnasol.
  • Trefnu ffeithiau i gefnogi’r ddadl neu’r safbwynt.
  • Cyflwyno dadl resymegol mewn ffordd glir, resymegol, gryno a darbwyllol.
  • Cyfeirio’n briodol at awdurdod cyfreithiol.
  • Cydymffurfio â gofynion ffurfiol.
  • Delio â thystion yn briodol.
  • Ymateb yn effeithiol i gwestiynau neu wrthwynebu dadleuon.
  • Nodi cryfderau a gwendidau o safbwyntiau gwahanol bartïon.

B6. Trafod atebion i faterion cleientiaid, gan gynnwys:

  • Nodi diddordebau, amcanion a therfynau pob parti.
  • Datblygu a llunio’r opsiynau gorau ar gyfer cyflawni amcanion y partïon.
  • Cyflwyno opsiynau ar gyfer cyfaddawdu mewn modd perswadiol.
  • Ymateb i opsiynau a gyflwynir gan yr ochr arall.
  • Datblygu cyfaddawd rhwng opsiynau neu bartïon.

B7. Cynllunio, rheoli a bwrw ymlaen ag achosion a thrafodion cyfreithiol, gan gynnwys:

  • Defnyddio prosesau a gweithdrefnau perthnasol i fwrw ymlaen â’r mater yn effeithiol.
  • Asesu, cyfathrebu a rheoli risg.
  • Dod â’r trafodiad neu’r achos i ben.

C. Gweithio gyda phobl eraill

C1. Cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol, ar lafar ac ar bapur, gan gynnwys:

  • Sicrhau bod cyfathrebu’n cyflawni ei amcan arfaethedig.
  • Ymateb i nodweddion unigol a rhoi sylw iddynt yn effeithiol ac yn sensitif.
  • Defnyddio’r dull a’r arddull gyfathrebu fwyaf priodol ar gyfer y sefyllfa a’r derbynnydd/derbynwyr.
  • Defnyddio iaith glir, gryno a chywir gan osgoi termau technegol diangen.
  • Defnyddio elfennau ffurfiol sy’n briodol i gyd-destun a phwrpas y cyfathrebu.
  • Cynnal cyfrinachedd a diogelwch cyfathrebu.
  • Cyflwyno unrhyw newyddion anodd neu annymunol yn glir ac yn sensitif.

C2. Sefydlu a chynnal cysylltiadau effeithiol a phroffesiynol gyda chleientiaid, gan gynnwys:

  • Trin cleientiaid â chwrteisi a pharch.
  • Darparu gwybodaeth mewn ffordd y gall cleientiaid ei deall, gan ystyried eu hamgylchiadau personol ac unrhyw fregusrwydd penodol.
  • Deall ac ymateb yn effeithiol i anghenion, amcanion, blaenoriaethau a chyfyngiadau penodol cleientiaid.
  • Nodi a chymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion penodol pob cleient o ran gwasanaeth, gan gynnwys y rheini sydd mewn amgylchiadau bregus.
  • Nodi camau gweithredu posibl a’u canlyniadau a chynorthwyo cleientiaid i ddod i benderfyniad.
  • Rheoli disgwyliadau cleientiaid o ran opsiynau, yr ystod o ganlyniadau posibl, risg ac amserlenni.
  • Cytuno ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu a sail glir ar gyfer codi tâl.
  • Esbonio’r fframwaith moesegol y mae’r cyfreithiwr yn gweithio oddi mewn iddo.
  • Hysbysu cleientiaid mewn ffordd amserol o ffeithiau a materion allweddol gan gynnwys risgiau, cynnydd tuag at amcanion, a chostau.
  • Ymateb yn briodol i bryderon a chwynion cleientiaid.

C3. Sefydlu a chynnal cysylltiadau effeithiol a phroffesiynol gyda phobl eraill, gan gynnwys:

  • Trin pobl eraill â chwrteisi a pharch.
  • Dirprwyo tasgau pan fo’n briodol i wneud hynny.
  • Goruchwylio gwaith pobl eraill yn effeithiol.
  • Rhoi gwybod i gydweithwyr am gynnydd y gwaith, gan gynnwys unrhyw risgiau neu broblemau.
  • Cydnabod ac ymgysylltu ag arbenigedd pobl eraill pan fo hynny’n briodol.
  • Cefnogi cydweithwyr a chynnig cyngor a chymorth pan fo angen.
  • Bod yn glir ynghylch disgwyliadau.
  • Nodi, dewis a, lle bo’n briodol, rheoli ymgynghorwyr neu arbenigwyr allanol.

D. Eu rheoli eu hunain a’u gwaith eu hunain

D1. Cychwyn, cynllunio, blaenoriaethu a rheoli gweithgareddau a phrosiectau gwaith i sicrhau eu bod yn cael eu cwblhau’n effeithlon, yn brydlon ac i safon briodol, mewn perthynas â’u gwaith eu hunain a’r gwaith y maent yn ei arwain neu’n ei oruchwylio, gan gynnwys:

  • Egluro cyfarwyddiadau er mwyn cytuno ar gwmpas ac amcanion y gwaith.
  • Ystyried yr adnoddau sydd ar gael i gychwyn gweithgareddau gwaith.
  • Cwrdd ag amserlenni, gofynion adnoddau a chyllidebau.
  • Monitro cynnydd a rhoi gwybod i bobl eraill am y cynnydd.
  • Delio’n effeithiol ag amgylchiadau annisgwyl.
  • Talu sylw priodol i fanylion.

D2. Cadw, defnyddio a chynnal cofnodion cywir, cyflawn a chlir, gan gynnwys:

  • Gwneud defnydd effeithiol o systemau rheoli gwybodaeth (boed yn electronig neu ar ffurf copi caled), gan gynnwys storio ac adalw gwybodaeth.
  • Cydymffurfio â gofynion cyfrinachedd, diogelwch, diogelu data a chadw a dinistrio ffeiliau.

D3. Rhoi arferion busnes da ar waith, gan gynnwys:

  • Dangos dealltwriaeth ddigonol o’r cyd-destun masnachol, sefydliadol ac ariannol y maent yn gweithio ynddo a’u rôl ynddo.
  • Deall y sail gontractiol ar gyfer darparu gwasanaethau cyfreithiol, gan gynnwys, lle bo hynny’n briodol, sut i gyfrifo a rheoli costau a bilio cleientiaid.
  • Cymhwyso rheolau ymddygiad proffesiynol at gyfrifyddu a materion ariannol.
  • Rheoli’r adnoddau sydd ar gael a’u defnyddio’n effeithlon.
SoSC Cyfweliad gyda chleient a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol Eiriolaeth Dadansoddi’r achos a’r mater Ysgrifennu cyfreithiol Ymchwil gyfreithiol Drafftio cyfreithiol
A. Moeseg
A1 x x x x x x
A2 x x x x x x
A3 x x x x x x
A4 x x x x x x
A5 x x x x x x
B. Arferion cyfreithiol technegol
B1 x x x x x x
B2 x
B3 x x x x
B4 x
B5 x
B6 x x x
B7 x x x
C. Gweithio gyda phobl eraill
C1 x x x x x x
C2 x x x
C3 x x
D. Eu rheoli eu hunain a’u gwaith eu hunain
D1 x x x x x x
D2 x
D3 x

Cwestiynau enghreifftiol

Mae cwestiynau enghreifftiol yn rhoi syniad i chi o arddull y cwestiynau y gellid eu defnyddio i brofi eich gallu i gymhwyso rheolau ac egwyddorion cyfreithiol sylfaenol.

Dysgu mwy: Cwestiynau enghreifftiol SQE2

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?