Polisi Marcio a Gosod Safonau SQE

Diweddarwyd ddiwethaf: Rhagfyr 2024

Yn berthnasol i asesiadau o fis Ionawr 2025 ymlaen

Penodwyd Kaplan SQE Limited (Kaplan SQE) gan Solicitors Regulation Authority Limited (“SRA”) fel unig ddarparwr yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ("yr Asesiad”) a’r Sefydliad Asesu Pwynt Terfyn (“EPAO”) ar gyfer Prentisiaid Cyfreithwyr.

Mae’r ddogfen hon yn pennu’r polisi ar gyfer marcio asesiadau SQE a phenderfynu ar y marc pasio.

1

SQE1

1.1

Mae SQE1 wedi’i ffurfio o ddau asesiad - FLK1 ac FLK2. Mae’n rhaid i ymgeiswyr basio FLK1 ac FLK2 er mwyn pasio SQE1. I basio FLK1 rhaid i sgôr yr ymgeisydd fod yn fwy na'r marc pasio ar gyfer FLK1, neu’n hafal iddo. I basio FLK2 rhaid i sgôr yr ymgeisydd fod yn fwy na'r marc pasio ar gyfer FLK2, neu'n hafal iddo.

1.2

Rhoddir un marc am bob ateb cywir. Ni chaiff marciau eu tynnu am atebion anghywir. Ni fydd mwy nag un ateb ar gyfer un cwestiwn yn cael eu cyfrif. Bydd cyfanswm y marciau’n rhoi sgôr i’r ymgeisydd ar gyfer yr asesiad perthnasol.

1.3

Bydd y Bwrdd Asesu (y Bwrdd) yn pennu’r sgôr pasio heb ei thalgrynnu1, a fynegir fel rhif heb ei dalgrynnu o gwestiynau a atebir yn gywir. Bydd y Bwrdd yn cyfeirio at y safon a bennir drwy ddull Angoff Addasedig (gweler 1.4) a dulliau gosod safonau cydnabyddedig eraill2, fel y bo'n briodol, yn ogystal â hafalu ystadegol (gweler 1.6).

1.4

Mae dull Addasedig Angoff yn cynnwys panel o gyfreithwyr cymwys sy'n gyfarwydd â chymhwysedd diwrnod un, sy’n ystyried, ar gyfer pob cwestiwn ar yr asesiad, sawl un o bob deg o gyfreithiwr Diwrnod Un digon cymwys a fyddai'n ateb y cwestiwn yn gywir. Wrth gyrraedd y dyfarniad hwn, bydd y panel yn ystyried lefel cymhwysedd cyfreithiwr Diwrnod Un fel y'i diffinnir yn y Safon Drothwy, fel y nodir ym Manyleb Asesu SQE1. Wedi iddynt roi eu dyfarniadau (sgoriau) cychwynnol ar gyfer pob cwestiwn, caiff aelodau'r panel gyfle i drafod ac, os bydd unrhyw aelod o'r panel yn ystyried ei bod hi’n briodol, addasu eu sgôr unigol. Cyn i'r panel ystyried y cwestiynau bydd hyfforddiant ar gyfer aelodau'r panel a thrafodaeth ar gymhwyso'r Safon Drothwy.

1.5

Mae'r broses o osod y safon (gan ddefnyddio dull Addasedig Angoff ac unrhyw ddulliau gosod safonau cydnabyddedig eraill2, fel y bo'n briodol) yn cael ei hailadrodd yn rheolaidd. Yn y cyfamser, cynhelir safon yr asesiadau gan ddefnyddio hafalu ystadegol.

1.6

Mae hafalu ystadegol yn ei gwneud hi’n bosib cymharu anhawster gwahanol asesiadau trwy ystyried sut mae ymgeiswyr yn perfformio mewn cwestiynau cyffredin. Mae graddnodi'r berthynas rhwng y cwestiynau cyffredin hyn a chwestiynau eraill ym mhob asesiad a thros amser, yn sicrhau bod safonau'n gyson ar draws asesiadau.

1.7

Ar ôl penderfynu ar y sgôr pasio heb ei thalgrynnu, ystyrir cywirdeb yr asesiad, fel y'i mesurir gan y Gwall Mesur Safonol (SEm). Bydd y Bwrdd yn penderfynu ar lefel unrhyw gywiro y dylid ei wneud wrth ystyried gwallau mesur er mwyn penderfynu ar farc pasio’r asesiad. Gwneir y cywiriad hwn er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n pasio’n haeddu pasio, ar y sail bod hyn yn rhoi sicrwydd digonol bod y rhai sy'n cyrraedd y marc pasio’n gymwys i ymarfer.

1.8

Unwaith i unrhyw gywiriad gael ei wneud i'r sgôr pasio heb ei thalgrynnu, y sgôr pasio wedi’i thalgrynnu fydd y marc pasio heb ei dalgrynnu, a fydd yn cael ei dalgrynnu i'r cyfanrif agosaf er mwyn darparu'r marc pasio3. Y marc pasio fydd nifer y cwestiynau a atebwyd yn gywir sydd eu hangen i basio'r asesiad.

1.9

Pan fydd sgoriau ymgeiswyr a'r marc pasio wedi'u cadarnhau, rhoddir y rhain ar raddfa rhwng 0 a 500. Mae'r marc pasio bob amser yn cael ei osod ar 300 ar y raddfa, gyda sgoriau ymgeiswyr sy’n uwch ac yn is na’r marc pasio yn cael eu graddio o'u cymharu â'r marc pasio hwnnw. Yna mae sgôr wedi’i graddio'r ymgeisydd yn cael ei thalgrynnu i'r cyfanrif agosaf3. Nid yw'r broses hon yn newid canlyniad cyffredinol unrhyw ymgeisydd ar gyfer yr asesiad. Os bydd nifer y cwestiynau y mae’r ymgeisydd wedi’u hateb yn gywir yn fwy na'r marc pasio neu’n hafal iddo, bydd yn pasio.

2

SQE2

2.1

Un arholiad yw SQE2 sydd wedi’i rannu’n 16 safle4.

2.2

Bydd arholwr sydd wedi'i hyfforddi i chwarae rôl y cleient yn asesu perfformiad ymgeiswyr yn y cyfweliad â chleient. Bydd y cyfweliad â chleient yn cael ei asesu yn ôl sgiliau yn unig, nid ar gymhwyso'r gyfraith. Bydd y nodyn cyfarfod a phob ymarfer arall yn cael eu marcio gan arholwyr sy’n gyfreithwyr ar sail sgiliau a chymhwyso’r gyfraith. Bydd pob arholwr wedi cael ei hyfforddi a bydd ei waith marcio’n cael ei safoni. Sicrheir cysondeb trwy gydol y broses farcio trwy gymedroli'r arholwyr.

2.3

Mae'r marcio'n seiliedig ar grebwyll proffesiynol yn hytrach nag ar ddull ‘ticio blychau’ neu restr wirio. Y man cychwyn ar gyfer y crebwyll proffesiynol hwn yw safon cymhwysedd yr asesiad fel y nodir ym Manyleb Asesu SQE2, sef safon cyfreithiwr Diwrnod Un digon cymwys (Safon Drothwy). Caiff yr arholwyr eu hyfforddi i fod yn hyblyg o ran y dull y mae’r ymgeisydd yn ei ddefnyddio tra'n parhau i lynu wrth y safon cymhwysedd ddisgwyliedig.

2.4

Mae gan bob math o safle4 feini prawf asesu fel y nodir ym Manyleb Asesu SQE2.

2.5

Mae’r marcio’n seiliedig ar berfformiad yn erbyn pob un o'r meini prawf asesu, ar raddfa o A i F fel a ganlyn:

  • Perfformiad eithriadol: llawer uwch na gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Yn amlwg yn foddhaol: yn bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad yn glir
  • Pasio o fymryn: at ei gilydd, yn bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad a dim mwy
  • Methu o fymryn: at ei gilydd, yn methu o ychydig â bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Yn amlwg yn anfoddhaol: mae’n glir nad yw’n bodloni gofynion cymhwysedd yr asesiad
  • Perfformiad gwael: llawer is na gofynion cymhwysedd yr asesiad

Rhoddir marciau ar gyfer pob un o'r meini prawf asesu ar raddfa rifol fel bod A = 5 marc ac F = 0 marc.

2.6

Mae gan bob ymgeisydd sgôr ar ffurf canran a gaiff ei chyfrifo ar gyfer pob safle4 allan o'r marciau a ddyfernir ar gyfer cymhwyso'r gyfraith, ac ar gyfer sgiliau, sy'n cael eu cyfuno â phwysoliad cyfartal i roi cyfanswm sgôr ar gyfer pob safle. Cyfanswm sgôr canran yr ymgeisydd yw cyfartaledd y sgôr canran ar draws yr 16 safle.

2.7

I gyfrifo'r sgôr ar gyfer y Cyfweliad â Chleient a Nodyn Cyfarfod/Dadansoddiad Cyfreithiol, cyfrifir y marc sgiliau allan o'r marc sgiliau ar gyfer y cyfweliad (sydd wedi'i farcio yn ôl sgiliau'n unig) a'r marc sgiliau ar gyfer y nodyn cyfarfod, wedi'u pwysoli'n gyfartal. Daw'r marc ar gyfer cymhwyso’r gyfraith o’r nodyn cyfarfod/dadansoddiad cyfreithiol yn unig. I gyfrifo cyfanswm sgôr y safle, mae sgiliau a chymhwyso'r gyfraith wedyn yn cael eu pwysoli'n gyfartal.

2.8

Wrth gyfrifo sgôr derfynol ymgeisydd, bydd cyfanswm sgôr yr ymgeisydd ar ffurf canran yn cael ei thalgrynnu i'r cyfanrif agosaf3.

2.9

Bydd y sgôr pasio heb ei thalgrynnu1 ar gyfer SQE2 yn cael ei osod gan y Bwrdd gan gyfeirio at y dull atchweliad ffiniol a ategir gan ddulliau cydnabyddedig eraill fel y bo'n briodol2.

2.10

Yn y dull atchweliad ffiniol, caiff pob safle4 ei farcio fel yr amlinellir uchod. Mae pob arholwr hefyd yn darparu gradd "gosod y safon" gyffredinol ar gyfer pasio, pasio o fymryn, methu o fymryn neu fethu. Nid yw'r radd gosod y safon hon yn cyfrif fel rhan o farc yr ymgeisydd ond fe'i defnyddir i osod y sgôr pasio ar gyfer y safle. Rhoddir sgoriau’r ymgeiswyr trwy’r dull atchweliad ffiniol, yn erbyn y graddau gosod y safon er mwyn penderfynu ar sgôr pasio ar gyfer pob safle. Yna mae sgoriau pasio’r safleoedd yn cael eu cyfartalogi i gyrraedd y sgôr pasio1 ar gyfer yr asesiad.

Marking Policy Image

2.11

Ar ôl canfod sgôr pasio, ystyrir cywirdeb yr asesiad fel y'i mesurir gan y Gwall Mesur Safonol (SEm). Bydd y Bwrdd yn penderfynu ar lefel unrhyw gywiro y dylid ei wneud wrth ystyried gwallau mesur i benderfynu ar farc pasio’r asesiad. Gwneir y cywiriad hwn i sicrhau bod y rhai sy'n pasio yn haeddu pasio, ar y sail ei fod yn rhoi sicrwydd digonol bod y rhai sy'n cyrraedd y marc pasio’n gymwys i ymarfer.

2.12

Yn dilyn hyn, bydd y marc pasio ar ffurf canran yn cael ei dalgrynnu i'r cyfanrif agosaf3.

2.13

Pan fydd sgoriau ymgeiswyr a'r marc pasio wedi'u cadarnhau, rhoddir y rhain ar raddfa rhwng 0 a 500. Mae'r marc pasio bob amser yn cael ei osod ar 300 ar y raddfa, gyda sgoriau ymgeiswyr sy’n uwch ac yn is na’r marc pasio yn cael eu graddio o'u cymharu â'r marc pasio hwnnw. Yna mae sgôr wedi’i graddio'r ymgeisydd yn cael ei thalgrynnu i'r cyfanrif agosaf3. Nid yw'r broses hon yn newid canlyniad cyffredinol unrhyw ymgeisydd ar gyfer yr asesiad. Os bydd sgôr yr ymgeisydd ar ffurf canran yn fwy na'r marc pasio neu’n hafal iddo, bydd yn pasio.

1Y sgôr pasio yw’r sgôr isaf bosibl i basio'r asesiad. Mae'r sgôr pasio fel arfer yn cael ei chyfrifo heb gyfeirio at wallau mesur, sy’n cael eu hystyried ar ôl pennu’r sgôr pasio (gweler paragraff 1.3) er mwyn penderfynu ar y marc pasio
2Er enghraifft, gweler Hofstee, W.K.B. (1983). The case for compromise in educational selection and grading. Yn S. B. Anderson & J. S. Helmick (Eds.), On educational testing (tt. 109–127). San Francisco, CA: Jossey-Bass
3Os ceir XX.499 a llai mae’r marc yn mynd i lawr i'r cyfanrif agosaf; os ceir XX .500 ac uwch mae'n mynd i fyny i'r cyfanrif agosaf
4Cyfeirir at yr 16 o ymarferion gwahanol y mae ymgeiswyr yn eu gwneud yn SQE2 yn safleoedd, neu ‘stations’ yn Saesneg. Mae yna chwe math o safle - cyfweliad â chleient a nodyn cyfarfod/dadansoddiad cyfreithiol, eiriolaeth, dadansoddi’r achos a’r mater, ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu cyfreithiol, drafftio cyfreithiol.

Polisi Marcio a Gosod Safonau SQE (fersiwn sy'n berthnasol hyd at fis Rhagfyr 2024) (PDF 265KB)

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?