What is the SQE?
Who is the SQE for?
Costs and fees
Case studies
Dates and locations
Assessment information
The assessment day
Results and resits
Due to inactivity, and for security reasons, you will be automatically logged out of your SQE account in 1 minute.
Press ’continue’ to stay logged in.
The monitoring and maximising diversity survey has been updated. Please return to the survey to reconfirm your answers and complete the new section at the end.
You must do this to remain eligible for the SQE. You will not be able to book your next assessment until you have updated your answers.
Diweddarwyd Ebrill 2024
Codwyd sawl cwestiwn am ddehongliad y Manylebau Asesu ac yn benodol, am fanylion yr Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK).
Nid yw amlinellu’r FLK mewn manylder mawr yn ddefnyddiol nac yn briodol. Gall wneud hynny godi cynifer o gwestiynau ac y mae’n eu hateb a gall arwain at greu gwybodaeth sy’n amhriodol helaeth ac sy’n anhylaw.
Fodd bynnag, dylai darllen y Fanyleb Asesu mewn ffordd gyfannol fod o gymorth i’r rhai hynny sy’n gofyn am fanylion ychwanegol. O fewn y Fanyleb Asesu ar gyfer SQE1, mae’r adrannau canlynol yn arbennig o ddefnyddiol: amcanion asesu ar gyfer pob maes cyfreithiol; trosolwg o Asesiadau SQE1; Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol; Cymhwyso Rheolau ac Egwyddorion Cyfreithiol; Awdurdodau Cyfreithiol, Maes Pwnc a moeseg ac ymddygiad proffesiynol.
Mae’n werth nodi’r canlynol yn benodol:
I sicrhau tegwch ac uniondeb yr SQE, caiff gwybodaeth am y Fanyleb Asesu ei rhyddhau i’r holl randdeiliaid ar yr un pryd. Bydd adolygiad blynyddol o’r FLK er mwyn:
Bydd unrhyw gwestiynau mae rhanddeiliaid yn eu codi yn cyfrannu at y broses adolygu flynyddol hon.
Sylwer: roedd ambell gamgymeriad teipograffig wedi ymddangos ym manyleb asesu SQE1 wrth ei symud i wefan SQE. Mae'r rhain bellach wedi'u cywiro.
Mae’r ddau asesiad Gwybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK) SQE1 yn cynnwys y meysydd pwnc canlynol:
Ym mhob un o’r asesiadau FLK uchod, gall cwestiynau dynnu ar unrhyw gyfuniad o feysydd pwnc y gellir dod ar eu traws wrth ymarfer.
Caiff Moeseg ac Ymarfer Proffesiynol eu harholi’n dreiddiol ar draws y ddau asesiad uchod.
Caiff egwyddorion trethiant eu harholi dim ond yng nghyd-destun y canlynol:
Mae’r meysydd pwnc isod wedi’u rhannu’n ddwy adran, gan roi manylion am bob un o’r ddau asesiad FLK. Ar gyfer pob maes, caiff amcanion asesu eu hamlinellu, sy’n cael eu dilyn gan wybodaeth am y gyfraith ac ymarfer mae disgwyl i ymgeiswyr allu eu cymhwyso er mwyn ateb y cwestiynau.
Dyfnder ac ehangder yr wybodaeth am gyfreithiau Cymru a Lloegr sy’n ofynnol gan ymgeiswyr yw gwybodaeth gyfreithiol weithredol. Golyga hyn fod yn rhaid i ymgeiswyr gymhwyso eu gwybodaeth am y gyfraith i ddangos y cymwyseddau gofynnol ar lefel cyfreithiwr sydd newydd gymhwyso yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r egwyddorion a’r rheolau cyfreithiol craidd y bydd gofyn i ymgeisydd eu cymhwyso wedi’u nodi yn y maes pwnc isod. Dylai fod yr ymgeisydd yn gallu defnyddio’r egwyddorion a’r rheolau cyfreithiol sylfaenol hyn yn briodol ac yn effeithiol ar y lefel sy’n ofynnol i gyfreithiwr medrus, newydd gymhwyso wrth ei waith ymarfer, yng nghyd-destun problemau a sefyllfaoedd realistig a moesegol sy’n seiliedig ar gleientiaid. Caiff pob cwestiwn ateb unigol gorau eu dilyn gan bum ateb posibl. Dylai ymgeiswyr nodi un ateb yn unig ar gyfer pob cwestiwn.
Mae asesiadau FLK SQE1 yn arholiadau llyfr caeedig. Cynllunnir y cwestiynau yn yr asesiadau i brofi’r gallu i gymhwyso egwyddorion cyfreithiol sylfaenol y gellir ei ddisgwyl gan gyfreithiwr newydd gymhwyso yng Nghymru a Lloegr heb gyfeirio at lyfrau na nodiadau. Ni chânt eu cynllunio i brofi materion manwl y byddai disgwyl i gyfreithiwr newydd gymhwyso ymchwilio ymhellach iddynt.
Yn SQE, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu harholi ynghylch y gyfraith sy’n ddilys hyd at bedwar mis calendr cyn dyddiad asesiad cyntaf y ffenestr asesu. Bydd ymgeiswyr yn cael eu profi ar y gyfraith fel y mae ar y dyddiad hwnnw. Ni fyddant yn cael eu profi ar ddatblygiad y gyfraith. Er mwyn osgoi amheuaeth, gallai arholiadau gynnwys newidiadau i’r gyfraith a ddaeth i rym ar ddyddiad calendr bedwar mis cyn yr asesiad SQE cyntaf mewn ffenestr asesu.
Mae’r berthynas rhwng Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr (SoSC) a’r egwyddorion a’r rheolau cyfreithiol y mae’n rhaid i ymgeiswyr eu gwybod a’u cymhwyso wedi’i nodi yn Atodiad 3. Yn yr asesiadau FLK, caiff ymgeiswyr eu profi ar lefel 3 y Safon Drothwy - h.y. ar gyfer cyfreithiwr sydd newydd gymhwyso – fel a amlinellir yn Atodiad 6.
Ni fwriedir i’r enghreifftiau canlynol o’r amrywiaeth o arddulliau cwestiwn a ddefnyddir i brofi’r FLK fod yn gwbl gynhwysfawr:
Bydd cwestiynau enghreifftiol a gyhoeddir yn darparu enghreifftiau o arddull cwestiynau y gellir eu defnyddio i brofi gallu’r ymgeisydd i gymhwyso egwyddorion a rheolau cyfreithiol sylfaenol a amlinellwyd yn y fanyleb asesu hon.
Er nad yw Cymru’n awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân (mae’n rhan o awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr), gall y cyfreithiau sy’n berthnasol yn Lloegr fod yn wahanol i’r cyfreithiau sy’n berthnasol yng Nghymru. Yng Nghymru, mae gan y Gymraeg statws swyddogol a gellir ei defnyddio mewn achosion yng Nghymru. Mae gan y ffactorau hyn effaith ar sut mae’r gyfraith yn gweithredu yng Nghymru.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y gallant gymhwyso eu gwybodaeth am ffynonellau deddfwriaeth gynradd ac eilaidd yng Nghymru a Lloegr a sut caiff y ddeddf ei chymhwyso.
Mae gan gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr yr hawl i ymarfer yng Nghymru ac yn Lloegr. Bydd angen i ymgeiswyr gymhwyso, ar lefel cyfreithiwr newydd gymhwyso, eu gwybodaeth bod y gyfraith yn wahanol yn y ddwy diriogaeth mewn perthynas â phynciau penodol.
Ambell waith ym maes ymarfer cyfreithiol, enw achos neu ddarpariaeth statudol, er enghraifft, yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer i ddisgrifio egwyddor gyfreithiol neu faes o’r gyfraith, neu reol neu gam gweithdrefnol (e.e. Rylands v Fletcher, CPR Rhan 36, hysbysiad Adran 25). Dan amgylchiadau o’r fath, mae’n ofynnol i ymgeiswyr wybod a gallu defnyddio enwau achosion, darpariaethau statudol o’r fath etc. Dan yr holl amgylchiadau eraill, nid yw’n ofynnol i ymgeiswyr gofio enwau achosion penodol, na dyfynu awdurdodau statudol neu reoleiddiol.
Bydd asesiadau FLK ar gyfer SQE1 yn samplu o’r cynnwys a amlinellwyd yn y fanyleb asesu hon. Darperir glasbrint yn Atodiad 3.
Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu gallu i weithredu’n onest ac yn ddidwyll, ac yn unol â Rheoliadau a Safonau SRA fel a ganlyn:
Gyda’i gilydd, cyfeirir at hyn fel y Cod Ymddygiad.
Gweler SoSC (A1) yn Atodiad 1.
Caiff moeseg ac ymddygiad proffesiynol eu harholi’n dreiddiol ar draws yr holl feysydd pwnc.
Amcanion asesu
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gymhwyso egwyddorion a rheolau cyfreithiol craidd perthnasol yn briodol ac yn effeithiol, ar lefel cyfreithiwr medrus newydd gymhwyso wrth ei waith, i broblemau a sefyllfaoedd moesegol ac sy’n realistig i gleientiaid yn y meysydd canlynol:
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu gallu i weithredu mewn ffordd onest a didwyll ac yn unol â’r SoSC, Egwyddorion SRA a’r Cod Ymddygiad.
Disgwylir i ymgeiswyr dynnu ar wybodaeth am y meysydd cyfreithiol ac ymarfer a’i defnyddio, fel a amlinellir isod.
Gall cwestiynau dynnu ar unrhyw gyfuniad o’r meysydd pwnc yn asesiad FLK 1 y gellir dod ar eu traws yn ymarferol.
Disgwylir i ymgeiswyr dynnu ar wybodaeth am y meysydd a’r ymarfer cyfreithiol a amlinellir isod a defnyddio’r wybodaeth honno.
Gall cwestiynau dynnu ar unrhyw gyfuniad o’r meysydd pwnc yn yr asesiad FLK 1 hwn y gellir dod ar eu traws wrth ymarfer.
Rhaid i ymgeiswyr gymhwyso’r egwyddorion a’r rheolau cyfreithiol craidd perthnasol yn briodol ac yn effeithiol, ar lefel cyfreithiwr medrus newydd gymhwyso wrth ei waith, i broblemau a sefyllfaoedd moesegol ac sy’n realistig i gleientiaid yn y meysydd canlynol:
Sefydliadau, rheolau a gweithdrefnau busnes
(Ac eithrio Rhestru, Prosbectws, Canllawiau Datgelu a Rheolau Tryloywder ac unrhyw reolau neu godau marchnad eraill yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a Chyfnewidfa Stoc Llundain).
Nodweddion busnesau a sefydliadol (unig fasnachwr/partneriaeth/LLP/cwmnïau preifat a chyhoeddus heb eu rhestru).
Personoliaeth gyfreithiol ac atebolrwydd cyfyngedig.
Gweithdrefnau a dogfennaeth sy’n ofynnol er mwyn ymgorffori cwmni/creu partneriaeth/LLP a chamau eraill sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth cwmnïau a phartneriaethau i alluogi’r endid i ddechrau gweithredu:
Cyllid:
Llywodraethiant a chydymffurfiaeth gorfforaethol:
Gwneud penderfyniadau partneriaeth, ac awdurdod partneriaid:
Ansolfedd (corfforaethol a phersonol):
Trethiant - busnes
Treth Incwm:
Treth Enillion Cyfalaf:
Treth Gorfforaeth:
Treth ar Werth:
Treth Etifeddiant:
Egwyddorion, gweithdrefnau a phrosesau sy’n gysylltiedig â datrys anghydfod
Gwahanol opsiynau ar gyfer datrys anghydfod:
Datrys anghydfod drwy hawliad sifil:
Lle i gychwyn achos:
Cychwyn a chyflwyno achosion:
Ymateb i hawliad:
Datganiadau o achos
Ceisiadau interim
Rheoli achosion:
Tystiolaeth:
Datgelu ac archwilio:
Treial:
Costau:
Apeliadau:
Gorfodi dyfarniadau arian:
Egwyddorion craidd cyfraith contractau
Llunio:
Partïon:
Telerau contract:
Ffactorau dirymol:
Terfynu:
Rhwymedïau:
Achosiaeth a phellenigrwydd
Egwyddorion craidd camwedd
Esgeuluster:
Amddiffyniadau:
Egwyddorion atebolrwydd dirprwyol
Cyfrifoldeb Meddianwyr:
Atebolrwydd am gynnyrch:
Niwsans:
System Gyfreithiol Cymru a Lloegr a Ffynonellau cyfraith
Y llysoedd:
Datblygu achos cyfraith: athrawiaeth cynseiliau
Deddfwriaeth sylfaenol:
Dehongliad statudol:
Cymhwyso deddfwriaeth a grëir gan Senedd Cymru a San Steffan i Gymru a Lloegr
Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol a chyfraith yr UE
Sefydliadau craidd y wladwriaeth a sut maent yn cydberthyn:
Cyfreithustra, ymwahaniad pwerau a rheolaeth cyfraith:
Deddf Hawliau Dynol 1998 a Chonfensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol:
Lle cyfraith yr UE yng nghonfensiwn y DU.
Gwasanaethau Cyfreithiol
Rôl rheoleiddio SRA:
Opsiynau cyllido ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol:
Gall cwestiynau dynnu ar unrhyw gyfuniad o’r meysydd pwnc yn yr asesiad FLK 2 hwn y gellir dod ar eu traws wrth ymarfer.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu gallu i weithredu mewn ffordd onest a didwyll ac yn unol â’r SoSC, Egwyddorion SRA a’r Cod Ymddygiad. Ni fydd angen i ymgeiswyr ddangos gwybodaeth sy’n gysylltiedig â chyfraith dramor, asedau tramor na threthi tramor.
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gymhwyso egwyddorion a rheolau cadw cyfrifon dwbl a Rheolau Cyfrifon SRA yn briodol ac yn effeithiol, ar lefel cyfreithiwr medrus newydd gymhwyso wrth ei waith, i broblemau a sefyllfaoedd moesegol ac sy’n realistig i gleientiaid yn y meysydd canlynol:
Ni fydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos gwybodaeth sy’n gysylltiedig ag asedau tramor, cyfraith dramor na threthi tramor.
Yng nghyd-destun troseddau penodol, mae gofyn i ymgeiswyr gymhwyso’r egwyddorion a rheolau cyfreithiol craidd perthnasol yn briodol ac yn effeithiol, ar lefel cyfreithiwr medrus newydd gymhwyso wrth ei waith, i broblemau a sefyllfaoedd moesegol ac sy’n realistig i gleientiaid yn y meysydd canlynol:
Meysydd gwybodaeth graidd cyfraith ac ymarfer ym maes eiddo tirol rhydd-ddaliadol
Ymchwilio i deitl rhydd-ddaliad cofrestredig a heb ei gofrestru:
Ymholiadau a chwiliadau cyn contract:
Protocol Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith
Gweithredu ar ran benthyciwr:
Paratoi contractau a’u cyfnewid:
Cyn cwblhau:
Cwblhau ac ar ôl cwblhau:
Rhwymedïau yn sgil oedi cyn cwblhau:
Meysydd gwybodaeth graidd cyfraith ac ymarfer ym maes eiddo tirol lesddaliadol
Strwythur a chynnwys les:
Camau gweithdrefnol ar gyfer rhoi les neu is-les:
Camau gweithdrefnol ar gyfer aseinio les:
Trwydded i aseinio a thrwydded i is-osod:
Cyfamodau mewn lesddaliadau:
Rhwymedïau am dorri cyfamod lesddaliad:
Terfynu les:
Diogelwch deiliadaeth o dan les busnes:
Egwyddorion craidd y gyfraith gynllunio yng Nghymru a Lloegr
Diffiniad statudol “Datblygu”
Materion sydd yn “Ddatblygiad” ac nad ydynt yn “Ddatblygiad”
Materion nad oes angen caniatâd cynllunio datganedig ar eu cyfer
Rheoli rheoliadau adeiladu
Gorfodi: terfynau amser ac ystod pwerau gorfodi awdurdod cynllunio lleol
Trethiant – eiddo
Treth Dir y Dreth Stamp yn Lloegr a’r Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru:
Ewyllysiau a Diewyllysedd
Dilysrwydd ewyllysiau a chodisiliau:
Cynrychiolwyr Personol:
Addasiadau a newidiadau i ewyllysiau:
Diddymu ewyllysiau:
Dehongli ewyllysiau:
Rheolau diewyllysedd:
Eiddo sy’n pasio i tu allan i'r ystad:
Profiant ac Ymarfer Gweinyddu
Grantiau cynrychiolaeth:
Gweinyddu ystadau:
Hawliadau yn erbyn ystadau o dan Ddeddf Etifeddiant (Darpariaeth Teulu a Dibynnyddion) 1975:
Trethiant – ewyllysiau a gweinyddu ystadau
Treth Incwm ac Enillion Cyfalaf mewn perthynas â chyfnod gweinyddu ystad:
Cyfrifon Cyfreithwyr
Arian cleient:
Cyfrif cleient:
Gofyniad i gadw arian cleient ar wahân i arian sy’n eiddo’r corff awdurdodedig
Llog:
Torri Rheolau Cyfrifon SRA:
Gofyniad i gadw a chynnal cofnodion cywir mewn cyfriflyrau cleientiaid, gan gynnwys y gofyniad i gynnal proses gymodi cyfrifon cleientiaid a chadw cofnod o filiau, gan gynnwys:
Gweithredu cyd-gyfrif, gweithredu cyfrif personol cleient
Cyfrifon a reolir gan drydydd parti
Cael a dosbarthu adroddiadau cyfrifwyr, storio a dargadw cofnodion cyfrifyddu
Egwyddorion craidd cyfraith tir
Natur Tir:
Teitl i Dir:
Cydberchnogaeth ac Ymddiriedolaethau:
Hawliau Perchenogol:
Lesoedd:
Egwyddorion craidd y gyfraith ymddiriedolaeth
Creu ymddiriedolaethau datganedig a’u gofynion:
Hawl lesiannol:
Y gwahaniaeth rhwng ymddiriedolaethau elusennol ac ymddiriedolaethau at ddiben nad yw’n elusennol
Ymddiriedolaethau sy’n dychwel:
Ymddiriedolaethau’r cartref teuluol:
Atebolrwydd dieithriaid i’r ymddiriedolaeth:
Y berthynas ymddiredol a’i rhwymedigaethau:
Ymddiriedolwyr:
Atebolrwydd ymddiriedolwyr:
Natur rhwymedïau ecwitïol ac argaeledd olrhain ym maes ecwiti.
Egwyddorion craidd atebolrwydd troseddol
Egwyddorion craidd atebolrwydd troseddol sy’n ymwneud â’r troseddau penodedig a restrir isod.
Troseddau penodedig:
Diffiniad o’r drosedd:
Amddiffyniadau cyffredinol:
Amddiffyniadau rhannol:
Troseddau cychwynnol:
Rhoi cyngor i gleientiaid, gan gynnwys cleientiaid sy’n agored i niwed, am y weithdrefn a’r prosesau yn yr orsaf heddlu
Hawliau'r sawl a ddrwgdybir sy’n cael ei gadw gan yr heddlu i’w holi:
Gweithdrefnau adnabod:
Rhoi cyngor i gleient, gan gynnwys cleientiaid agored i niwed, p’un ai i ateb cwestiynau’r heddlu ai peidio:
Y drefn ar gyfer cyfweld ag unigolyn a amheuir o dan PACE 1984:
Y gweithdrefnau a’r prosesau sy’n gysylltiedig ag ymgyfreitha troseddol
Ceisiadau am fechnïaeth:
Gwrandawiadau cyntaf gerbron y llys ynadon:
Ple cyn y Lleoliad:
Dyrannu busnes rhwng llys ynadon a Llys y Goron:
Rheoli achosion a gwrandawiadau cyn treial:
Egwyddorion a gweithdrefnau ar gyfer derbyn ac eithrio tystiolaeth:
Trefn treialon yn y llys ynadon a Llys y Goron:
Dedfrydu:
Y drefn apelio:
Trefn y llys ieuenctid:
Ystyriaethau rhagarweiniol ar gyfer y defnydd o’r Gymraeg mewn achosion troseddol.
Mae’r ddogfen hon yn rhoi diffiniad eang o gymhwysedd fel "the ability to perform the roles and tasks required by one's job to the expected standard" (Eraut a du Boulay, 2001).
Mantais y diffiniad hwn yw ei fod yn cydnabod bod gofynion a disgwyliadau yn newid gan ddibynnu ar rôl a chyd-destun y swydd. Mae hefyd yn cydnabod bod cymhwysedd yn datblygu, ac y gall unigolyn weithio’n ‘gymwys’ ar sawl lefel wahanol, naill ai ar wahanol gamau yn ei yrfa, neu’n wir o un diwrnod i’r llall gan ddibynnu ar natur ei waith.
Dylid darllen y datganiad cymhwysedd yn gyfannol. Er enghraifft, mae’r gofyniad yn A1e i barchu amrywiaeth a gweithredu’n deg ac yn gynhwysol yn treiddio i bob maes gwaith ac mae’n sail i’r holl gymwyseddau yn y datganiad.
Dylai cyfreithiwr allu:
Mae’r model SQE yn defnyddio pyramid Miller* i ddarparu fframwaith ar gyfer asesu cymhwysedd cyfreithiwr. Caiff pyramid Miller ei ddefnyddio’n helaeth i asesu cymhwysedd proffesiynol, gan gynnwys fel rhan o hyfforddiant meddygol a deintyddol.
Mae SQE1 yn asesu cymhwysiad yr Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol (FLK) sy’n ofynnol ar gyfer ymarfer effeithiol – sef rhan ‘gwybod sut’ pyramid Miller.
*Miller, G.E., 1990. The assessment of clinical skills/competence/performance. Academic Medicine 65(9); 563-567
Mae’r galluoedd mae’n rhaid i ymgeiswyr eu dangos wrth gymhwyso eu gwybodaeth am y gyfraith wedi’u nodi isod, gan groesgyfeirio at y Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr.
Mae’r atodiad hwn yn nodi glasbrint yr Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol ar gyfer SQE1. Y dull categoreiddio a ddefnyddir ar gyfer y glasbrint hwn yw “Categoreiddio Gorau Unigol”. Golyga hyn fod eitem wedi’i neilltuo i’r categori yr ystyrir ei fod yn brif ffocws y cwestiwn hwnnw. Nid yw hyn yn awgrymu bod cwestiynau’n hollol annibynnol ar ei gilydd ac yn cwympo’n daclus i bob categori oherwydd, er enghraifft, gallai fod angen gwybodaeth am ‘ddatrys anghydfod’ a ‘chontract’ ar eitem er mwyn i ymgeisydd ei ateb yn gywir. O ganlyniad, gallai glasbrint ddisgrifio asesiad mewn ffordd sy’n dweud ei fod yn cynnwys 20% o gwestiynau ar gategori penodol, ond byddai angen yr wybodaeth a gymhwysir yn y categori hwnnw er mwyn ateb mwy na 20% o’r cwestiynau sydd wedi’u cynnwys yn y papur.
Mae Lefel 3 y Safon Drothwy ar gyfer y Datganiad Cymhwysedd Cyfreithwyr (“SoSC”) yn disgrifio ar ba lefel y dylid cyflawni cymwyseddau’r SoSC ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr.
Mae cwestiynau enghreifftiol yn rhoi syniad i chi o arddull y cwestiynau y gellir eu defnyddio i brofi eich gallu i gymhwyso egwyddorion a rheolau cyfreithiol sylfaenol.
Dysgu rhagor: Cwestiynau enghreifftiol SQE1
Create your personal SQE account and book your assessments.
Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.