Polisi Ffit i Sefyll

Dyddiad Cyhoeddi: Mawrth 2021

  • Mae Polisi “Ffit i Sefyll” ar waith ar gyfer pob asesiad SQE. Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn sefyll yr asesiad dim ond os ydynt yn ffit i wneud hynny. Mae bod yn “Ffit i Sefyll” yn golygu nad yw’r ymgeisydd yn gwybod am unrhyw reswm pam y byddai effaith andwyol ar ei berfformiad yn ystod yr asesiad neu pam y gallai wedyn gyflwyno hawliad am amgylchiadau lliniarol. Dyma enghreifftiau o’r sefyllfaoedd y byddai hyn yn berthnasol iddynt:
    • salwch ymgeisydd
    • salwch perthynas agos
    • profedigaeth
  • Mae’r gofyniad o ran bod yn ffit i sefyll wedi’i gynnwys yn Rheoliadau Asesu’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr ac mae’n berthnasol i holl asesiadau’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Mae’n ofynnol i bob ymgeisydd lofnodi datganiad neu gadarnhau’n electronig eu bod yn ffit i sefyll yr asesiad. Mae’r datganiad hwn wedi’i atgynhyrchu isod. Ni chaniateir i ymgeiswyr ddechrau’r asesiad oni bai eu bod wedi llofnodi Datganiad eu bod yn Ffit i Sefyll.
  • Os yw ymgeisydd yn credu nad yw’n ffit i sefyll asesiad ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr a’i fod am dynnu’n ôl cyn dechrau’r asesiad, dylai gyfeirio at Delerau ac Amodau Asesu’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Gellir darparu ad-daliad yn amodol ar gyflwyno tystiolaeth briodol o fewn yr amser penodedig.
  • Dylai ymgeisydd sy’n cael ei daro’n wael yn ystod asesiad neu sy’n wynebu amgylchiadau personol annisgwyl neu anrhagweladwy y tu hwnt i’w reolaeth resymol sy’n cael neu sy’n debygol o gael effaith sylweddol a niweidiol ar ei berfformiad roi gwybod i’r Goruchwyliwr cyn gynted â phosibl a chyn gadael y lleoliad asesu. Yn yr amgylchiadau hyn, dylai’r ymgeisydd benderfynu a yw am dynnu’n ôl o’r asesiad ai peidio. Ni fydd marciau’n cael eu haddasu oherwydd salwch neu amgylchiadau personol annisgwyl neu annisgwyl eraill. Mae manylion llawn ar gael yn Rheoliadau Asesu’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr a’r Polisi Amgylchiadau Lliniarol.
  • Ni chaiff ymgeisydd sydd wedi llofnodi Datganiad ei fod yn Ffit i Sefyll gyflwyno hawliad am amgylchiadau lliniarol sy’n gwrth-ddweud y datganiad.

DATGANIAD FFIT I SEFYLL

  • Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen y Polisi Ffit i Sefyll ac ni wn am unrhyw reswm a allai gael effaith andwyol ar fy mherfformiad yn ystod yr asesiad ..........(nodwch fel y bo’n briodol) neu pam y gallwn wedyn gyflwyno hawliad am amgylchiadau lliniarol yng nghyswllt yr asesiad hwn.
  • Os ydw i wedi gwneud cais am addasiadau rhesymol i’r trefniadau asesu, rwy’n cadarnhau fy mod yn derbyn bod yr addasiadau rhesymol hynny wedi cael eu gwneud.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?