Polisi Diogelu

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mehefin 2024

1

Cyflwyniad

1.1

Dylid ystyried y Polisi hwn yn y cyd-destun, oherwydd hyd y brentisiaeth, na fydd disgwyl i unrhyw ymgeiswyr dan 18 oed sefyll yr asesiad pwynt terfyn (APT). Am y rheswm hwnnw nid ymdrinnir â phobl ifanc dan oed yn benodol. Yn ogystal, fel darparwr APT i’w cynnal mewn canolfan asesu yn hytrach na'r gweithle, dim ond ychydig iawn o gyswllt fydd gan Kaplan ag ymgeiswyr SQE.

1.2

Mae'r term 'Diogelu' yn disgrifio'r dull ataliol a rhagofalus o gynllunio, a gweithdrefnau y mae'n angenrheidiol eu bod ar waith er mwyn diogelu plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed rhag niwed posibl iddynt o fewn y fframwaith cyfreithiol a bennir mewn deddfwriaeth gan gynnwys Deddfau Plant 1989 a 2004 a Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006.

1.3

Ystyr diogelu yw bod â diwylliant o wyliadwriaeth lle mae pob aelod ostaff yn deall ei gyfrifoldebau ac yn gweithredu'n unol â hynny gan sicrhau bod pob unigolyn perthnasol yn ymwybodol o'r hyn y gall ei ddisgwyl a beth i'w wneud pe bai ganddo bryderon.

2

Ynglŷn â'r Polisi hwn

2.1

Diben y ddogfen hon yw pennu polisi Kaplan SQE ar gyfer diogelu ymgeiswyr SQE, gan gynnwys prentisiaid, wrth gyflwyno SQE.

2.2

Mae Kaplan SQE wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant ymgeiswyr SQE ac mae'n disgwyl i bob aelod o staff, contractiwr ac isgontractiwr sy'n ymwneud â chyflwyno SQE rannu'r ymrwymiad hwn.

2.3

Mae Kaplan SQE o'r gred bod gan bob ymgeisydd SQE yr hawl i gael ei amddiffyn rhag camdriniaeth, waeth beth fo'i oedran, hil, crefydd, gallu, rhywedd, iaith, cefndir neu hunaniaeth rywiol ac mae'n ystyried bod lesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed yn hollbwysig.

3

Cwmpas y Polisi hwn

Mae'r Polisi hwn yn rhoi cyfrifoldeb ar bob aelod o staff, arholwr, aseswr, contractiwr, ymgynghorydd ac unigolyn arall sy'n gweithio ar ran Kaplan SQE neu ei isgontractwyr sy'n ymwneud â chyflwyno SQE y mae eu rôl yn cynnwys cyswllt ag ymgeiswyr SQE.

4

Diffiniadau

4.1

Swyddog Diogelu Arweiniol: Yr aelod o staff Kaplan SQE sydd ag atebolrwydd cyffredinol a chyfrifoldeb strategol dros ddiogelu ymgeiswyr SQE; ac

4.2

Oedolyn sy'n Agored i Niwed: Unigolyn 18 oed neu'n hŷn y mae angen gofal a chymorth arno, p'un a yw'n derbyn hynny ar hyn o bryd ai peidio; sy'n profi camdriniaeth neu esgeulustod neu sydd mewn perygl o hyn; ac ni all amddiffyn ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod oherwydd ei anghenion gofal a chymorth.

5

Egwyddorion Diogelu

Bydd Kaplan SQE yn:

5.1

Sicrhau bod pob ymgeisydd SQE, gan gynnwys prentisiaid, yn gallu ymgymryd ag SQE mewn modd diogel.

5.2

Cydnabod yn benodol ei gyfrifoldeb am ddiogelu lles Oedolion sy'n Agored i Niwed sy'n ymgymryd ag SQE drwy sicrhau bod trefniadau priodol ar waith i'w alluogi i gyflawni ei ddyletswydd i ddarparu amgylchedd diogel.

5.3

Cyfleu ei safonau i unigolion perthnasol sydd o fewn cwmpas y Polisi hwn.

5.4

Cynnal gwiriadau cefndir priodol o unigolion perthnasol sydd o fewn cwmpas y Polisi hwn lle bo hynny'n briodol.

5.5

Cymryd camau prydlon pan fo'n credu bod ymgeisydd SQE mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei niweidio, neu fod hyn wedi digwydd.

5.6

Ei gwneud hi'n ofynnol bod digwyddiadau sy'n berthnasol i'r Polisi hwn gael eu hadrodd, yn fewnol ac i'r awdurdodau priodol, gan sicrhau y caiff y manylion perthnasol eu cofnodi'n briodol.

5.7

Cydweithio ag eraill a rhannu gwybodaeth, lle y bo'n briodol ac y caniateir hynny'n gyfreithlon, er mwyn amddiffyn Ymgeisydd SQE. Gallai hyn gynnwys asiantaethau gorfodi'r gyfraith lle bo angen.

5.8

Gwahardd bwlio o unrhyw fath neu unrhyw fath o wahaniaethu mewn cysylltiad ag SQE.

5.9

Gwrthod y defnydd o lafur plant neu lafur gorfodol mewn cysylltiad ag SQE.

5.10

Sicrhau bod ei bolisïau a'i weithdrefnau diogelu yn adlewyrchu arfer da wrth amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed a bod trefniadau diogelu yn gymesur ac yn seiliedig ar synnwyr cyffredin.

6

Pwy ydym ni'n ei Ddiogelu?

6.1

Bydd Kaplan SQE yn sicrhau ei fod yn darparu amgylchedd diogel i bob ymgeisydd SQE, gan gynnwys prentisiaid.

6.2

Mae Kaplan SQE yn cydnabod bod arferion diogelu yn cael eu cymhwyso i grwpiau sy'n agored i niwed. Os bydd Kaplan SQE yn cael gwybod bod unrhyw ymgeisydd yn Oedolyn sy'n Agored i Niwed, bydd yn rhoi mesurau ychwanegol ar waith fel y darperir ar eu cyfer gan y Polisi hwn a'r gweithdrefnau cysylltiedig.

7

Rhag beth ydyn ni'n Diogelu?

7.1

Mae Kaplan SQE wedi ymrwymo i weithredu lle mae'n credu bod Oedolyn sy'n Agored i Niwed mewn perygl o gael ei gam-drin neu ei niweidio. Mae camdriniaeth neu niwed yn cynnwys y canlynol ond nid rhestr lawn yw hon o reidrwydd:

7.1.1

Camdriniaeth gorfforol;

7.1.2

Camdriniaeth emosiynol;

7.1.3

Esgeulustod;

7.1.4

Camdriniaeth rywiol neu berthnasoedd amhriodol;

7.1.5

Radicaleiddio ac eithafiaeth;

7.1.6

Bwlio, gan gynnwys seiberfwlio;

7.1.7

Erledigaeth;

7.1.8

Hunan-niweidio; a

7.1.9

Thai anaddas neu ddigartrefedd.

7.2

Mae Atodiad A y Polisi hwn yn rhoi canllawiau ar gyfer adnabod arwyddion camdriniaeth, gan gynnwys yr uchod, y dylai unigolion sydd o fewn cwmpas y Polisi hwn fod yn ymwybodol ohonynt pan fyddant mewn cysylltiad ag ymgeiswyr SQE.

8

Cyfrifoldebau Diogelu

8.1

8.1. Natasha Goulden, Rheolwr Ansawdd yn Nhîm Cydraddoldeb ac Ansawdd SQE, yw'r Swyddog Diogelu Arweiniol, sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am faterion diogelu yn Kaplan SQE. Y cyfeiriad e-bost yw natasha.goulden@kaplan.co.uk.

8.2

Bydd y Swyddog Diogelu Arweiniol yn:

8.2.1

Rhoi'r polisi hwn ar waith ac yn ei hyrwyddo ar draws SQE, gan sicrhau bod pob aelod o staff yn ymwybodol o'r polisi hwn, ei gynnwys a'i gyfrifoldeb fel rhan ohono;

8.2.2

Rhoi ar waith addasiadau priodol i unrhyw asesiad SQE os bydd Kaplan SQE yn cael gwybod bod unrhyw ymgeisydd yn Oedolyn sy'n Agored i Niwed, er mwyn amddiffyn yr ymgeisydd hwnnw;

8.2.3

Sicrhau bod unrhyw bryderon yn cael eu rhannu gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a sefydliadau partner eraill lle bo hynny'n briodol;

8.2.4

Cyfeirio achosion pan fo amheuaeth o niwed neu gamdriniaeth i'r asiantaethau ymchwilio perthnasol a gweithredu fel ffynhonnell cymorth, cyngor ac arbenigedd o fewn Kaplan SQE;

8.2.5

Cadw cofnodion cyfrinachol o achosion perthnasol a'r camau gweithredu a gymerwyd; ac

8.2.6

Ymgymryd â hyfforddiant Diogelu priodol er mwyn adnabod arwyddion camdriniaeth a deall y camau priodol i'w cymryd os bydd ganddo bryderon.

8.3

Dylai unrhyw unigolyn sy'n dod yn ymwybodol o arwyddion niwed neu gamdriniaeth bosibl neu wirioneddol mewn perthynas ag ymgeiswyr sy'n ymgymryd ag SQE neu sydd â phryderon mewn perthynas â lles unrhyw ymgeisydd SQE roi gwybod i'r Swyddog Diogelu Arweiniol cyn gynted â phosibl.

8.4

Bydd y Swyddog Diogelu Arweiniol yn dilyn gweithdrefnau priodol i amddiffyn yr unigolyn perthnasol ac yn trafod yr achos gydag Uwch Dîm Arwain Kaplan SQE lle bo hynny'n briodol.

8.5

Dylai'r Swyddog Diogelu Arweiniol gyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu neu awdurdodau statudol gan ymgynghori ag Uwch Dîm Arwain Kaplan SQE.

8.6

Lle bo unrhyw unigolyn sydd o fewn cwmpas y Polisi hwn yn ansicr a bod angen arweiniad arno ynghylch materion diogelu, fe'i hanogir i ofyn am arweiniad y Swyddog Diogelu Arweiniol.

8.7

Os na fydd y Swyddog Diogelu Arweiniol ar gael, bydd y Dirprwy Swyddog Diogelu, Jackie Panter, sef Pennaeth Ansawdd a Chydraddoldeb, yn gyfrifol am faterion diogelu a chydymffurfiaeth â'r Polisi hwn. Y cyfeiriad e-bost yw jackie.panter@kaplan.co.uk.

9

Recriwtio Staff

Mae Kaplan SQE yn cydymffurfio ag arfer da wrth recriwtio a hyfforddi ei staff a'i gontractwyr ac mae hyn yn ofynnol gan ei isgontractwyr hefyd. Mae'r holl staff yn cael hyfforddiant diogelu sy'n briodol i'w rôl.

10

Polisïau a Gweithdrefnau Cysylltiedig

Dylid defnyddio'r polisi hwn ar y cyd â pholisïau a gweithdrefnau canlynol Kaplan:

  • Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Polisi Diogelu Data
  • Polisi Defnydd Derbyniol o TG
  • Polisi Iechyd a Diogelwch
  • Polisi Chwythu'r Chwiban
  • Cod Ymddygiad Busnes
  • Polisi Urddas yn y Gweithle
11

Adolygu a Chyhoeddi Polisïau

Mae sefyllfa diogelu’n newid yn gyflym o ran rheoleiddio statudol a ffactorau risg sy'n dod i'r amlwg. Mae'n hanfodol felly fod y Polisi hwn yn cael ei adolygu'n gyson gan y Swyddog Diogelu Arweiniol a'i ddosbarthu i Uwch Dîm Arwain Kaplan SQE i'w adolygu'n flynyddol. Bydd y polisi hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan SQE.

Atodiad A: Canllawiau ar gyfer Adnabod Arwyddion Camdriniaeth

Yn aml gall fod yn anodd adnabod camdriniaeth. Dangosyddion yn unig yw'r arwyddion a restrir yn y canllawiau hyn ac mae'n bosibl bod esboniadau rhesymol ar gyfer llawer o'r rhain. Serch hynny, mae'n bwysig deall yr hyn a allai awgrymu bod camdriniaeth yn digwydd a bod yn effro i'r angen am ymgynghori ymhellach.

Gall rhywun gam-drin unigolyn drwy achosi niwed neu drwy fethu gweithredu i atal niwed. Gall camdriniaeth ddigwydd o fewn teulu, mewn lleoliad sefydliadol neu gymunedol, dros y ffôn neu ar y Rhyngrwyd. Gall cam-drin gael ei gyflawni gan rywun mae unigolyn yn ei adnabod neu gan ddieithryn llwyr.

Os byddwch chi'n poeni am ymgeisydd, mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw arwyddion a symptomau corfforol neu ymddygiad. Yn y modd hwn, gallwch fonitro a yw patrwm yn dod i'r amlwg ai peidio, a darparu tystiolaeth fel rhan o unrhyw ymchwiliad yn ôl yr angen.

Camdriniaeth Gorfforol

Gall camdriniaeth gorfforol gynnwys taro, ysgwyd, taflu, gwenwyno, llosgi, sgaldio, boddi, a mygu. Gall hefyd ddigwydd pan fydd rhiant neu ofalwr yn achosi salwch i unigolyn yn fwriadol er mwyn ceisio sylw; gelwir hyn yn salwch ffug. Mae symptomau sy'n awgrymu camdriniaeth gorfforol yn cynnwys:

  • Cleisiau o amgylch y geg neu ynddo, ar y cefn, y pen-ôl neu o amgylch y rectwm
  • Cleisiau olion bysedd neu farciau gafael, ar freichiau, coesau neu frest plentyn bach
  • Brathiadau
  • Marciau llosgi a sgaldio; llosgiadau crwn bach y gallai fod wedi'u hachosi gan sigarét
  • Torri esgyrn breichiau, coesau neu asennau plentyn bach
  • Nifer fawr o greithiau o wahanol feintiau, newydd neu hŷn.

Camdriniaeth Emosiynol

Mae camdriniaeth emosiynol yn digwydd pan nad yw angen unigolyn am gariad, diogelwch, canmoliaeth a chydnabyddiaeth yn cael ei ddiwallu. Fel arfer mae'n bodoli ochr yn ochr â mathau eraill o gamdriniaeth. Mae ymddygiad emosiynol camdriniol yn digwydd pan fydd rhiant, gofalwr neu berson ag awdurdod yn elyniaethus, yn wrthodol, yn fygythiol neu'n tanseilio, a hynny'n gyson. Gall hefyd ddigwydd pan fydd unigolyn yn cael ei rwystro rhag cyswllt cymdeithasol ag eraill, neu pan fydd disgwyliadau amhriodol arnynt o ran datblygiad. Gall gynnwys gweld neu glywed camdriniaeth rhywun arall. Mae symptomau sy'n awgrymu camdriniaeth emosiynol yn cynnwys:

  • Ymddygiad sy'n ceisio sylw neu lynu'n gaeth iawn wrth rywun (“clingy”)
  • Hunan-barch isel iawn neu hunan-feirniadaeth ormodol
  • Ymddygiad mewnblyg iawn neu ofn mawr; 'gwyliadwrus ac wedi rhewi'
  • Iselder ysbryd
  • Diffyg ffiniau priodol gyda dieithriaid; rhy awyddus i blesio
  • Anhwylderau bwyta.

Esgeulustod

Ystyr esgeulustod yw methu'n barhaus â diwallu anghenion corfforol a/neu seicolegol sylfaenol unigolyn, gan achosi niwed i'w iechyd a'i ddatblygiad. Gall olygu bod rhiant neu ofalwr yn methu darparu bwyd, lloches neu ddillad digonol, yn methu amddiffyn unigolyn rhag niwed neu berygl, neu’n methu cael gafael ar ofal a thriniaeth feddygol briodol pan fydd angen. Gall fodoli ar wahân i fathau eraill o gamdriniaeth neu ochr yn ochr â nhw. Gall symptomau esgeulustod corfforol ac emosiynol gynnwys:

  • Goruchwyliaeth annigonol; cael ei adael ar ei ben ei hun am gyfnodau hir o amser
  • Diffyg ysgogiad, cyswllt cymdeithasol neu addysg
  • Diffyg maeth, gan arwain at iechyd gwael
  • Llwglyd drwy'r amser; dwyn bwyd neu stwffio'i hun â bwyd
  • Methu ceisio neu ddilyn cyngor meddygol i'r graddau lle bo bywyd neu ddatblygiad plentyn mewn perygl
  • Dillad anaddas ar gyfer yr amodau.

Camdriniaeth rywiol

Mae camdriniaeth rywiol yn golygu gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, p'un a yw'r plentyn/person yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ai peidio. Gall hyn gynnwys cyswllt corfforol, treiddiol a heb fod yn dreiddiol, neu gynnwys dim cyswllt, megis gwylio gweithgareddau rhywiol neu edrych ar ddeunydd pornograffig. Mae annog plant/pobl ifanc i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol hefyd yn fath o gamdriniaeth. O dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, mae unrhyw weithgaredd rhywiol – cyswllt neu ddigyswllt – gyda phlentyn dan 13 oed, yn drosedd.

Mae symptomau camdriniaeth rywiol yn cynnwys:

  • Honiadau neu ddatgelu
  • Clefydau a drosglwyddir yn rhywiol; heintiau wrinol
  • Diddordeb gormodol mewn materion rhywiol; chwarae, geiriau neu arlunio â naws rywiol amhriodol
  • Plentyn/person ifanc sy'n rhywiol bryfoclyd neu sy'n ymddwyn mewn modd dengar amhriodol gydag oedolion
  • Aflonyddwch cwsg rheolaidd ar ffurf hunllefau a/neu wlychu'r gwely.

Gall y canlynol hefyd fod yn berthnasol i blant hŷn a phobl ifanc:

  • Iselder
  • Camddefnyddio cyffuriau ac/neu alcohol
  • Anhwylderau bwyta; ymddygiad obsesiynol
  • Hunan-anffurfio; ceisio cyflawni hunanladdiad
  • Problemau coleg/cyfoedion/perthynas.

Radicaleiddio

Mae radicaleiddio yn broses lle mae person, yn aml o gefndir agored i niwed, yn dechrau mabwysiadu safbwynt(iau) gwleidyddol, crefyddol neu gymdeithasol eithafol a, thrwy'r rhain, yn cymryd rhan mewn gweithgarwch eithafol. Bydd ei farn yn aml yn cael ei ffurfio drwy gamarweiniad, camddealltwriaeth, cenfigen, dicter, 'ymdeimlad o anghyfiawnder', drwgdeimlad neu ofn.

Dyma rai arwyddion a allai olygu y gallai rhywun fod mewn perygl o gael ei radicaleiddio neu sy'n mynd trwy broses o radicaleiddio:

Newidiadau corfforol:

  • Newid sydyn neu raddol mewn ymddangosiad corfforol
  • Gwisgo dillad crefyddol yn sydyn neu'n annisgwyl
  • Cael tatŵs â negeseuon amrywiol
  • Tyfu barf yn annisgwyl
  • Eillio ei ben yn annisgwyl ("skinhead")
  • Yn meddu ar anrhegion a dillad anesboniadwy (weithiau bydd pobl sy'n meithrin perthynas amhriodol â pherson ifanc - "groomers" - yn defnyddio anrhegion fel ffonau symudol a dillad fel llwgrwobr).

Newidiadau cymdeithasol:

  • Torri cysylltiadau â ffrindiau, teulu neu'r gymuned
  • Dechrau tynnu'n ôl yn gymdeithasol
  • Bod yn ddibynnol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd
  • Dechrau ymgysylltu ag eraill sydd â safbwyntiau radicalaidd
  • Bwlio neu diawleiddio pobl eraill yn agored
  • Dechrau mynychu ralïau a gwrthdystiadau ar gyfer achosion eithafol
  • Ymgysylltu â phobl radical hysbys
  • Ymweld â gwefannau, rhwydweithiau a blogiau eithafol.

Newidiadau Emosiynol

  • Dechrau cwyno, yn aml gyda dicter, am bolisïau llywodraethol, yn enwedig polisi tramor
  • Cefnogi trais neu ymddygiad troseddol
  • Dechrau credu mewn cynllwynio gan y llywodraeth
  • Dangos ymddygiad eratig fel paranoia a rhithdyb
  • Siarad am geisio ymddial ar eraill
  • Dechrau dangos anoddefgarwch crefyddol eithafol
  • Dangos cydymdeimlad â grwpiau radical
  • Dangos casineb neu anoddefgarwch tuag at bobl neu gymunedau eraill oherwydd eu bod yn wahanol.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?