How to register for the SQE1 and SQE2 assessments.
How to verify your ID and what you need to provide.
What the survey is, and what it covers.
If you need help or assistance to sit your assessments.
If you are a qualified lawyer, you may be eligible for an exemption.
How to book the SQE1 and SQE2 assessments.
Find out how and when to book your SQE assessments.
Upcoming assessment dates, booking windows, and test centre locations.
Find out how you can take the SQE assessments in Welsh.
Everything you need to know about sitting the SQE1 and SQE2 assessments.
The assessment specification for both FLK1 and FLK2, including annexes and sample questions.
The specification for the written and oral assessments, including annexes and sample questions.
Useful advice and resources to help you prepare for the SQE assessments.
What to expect on the assessment days and how to claim mitigating circumstances.
How to get your results, how assessments are marked, how to resit an assessment, or make an appeal.
What to expect when you get your results, and how to resit any assessments.
Read and download SQE reports.
Learn about what the SQE is, who it's for and how much it costs.
Find out what the SQE is and how it works.
Find out who's eligible to take the SQE, including exemptions.
Find out how much the SQE will cost and how you can pay for it.
Find out what candidates say about their experience of the SQE.
Due to inactivity, and for security reasons, you will be automatically logged out of your SQE account in 1 minute.
Press ’continue’ to stay logged in.
The monitoring and maximising diversity survey has been updated. Please return to the survey to reconfirm your answers and complete the new section at the end.
You must do this to remain eligible for the SQE. You will not be able to book your next assessment until you have updated your answers.
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Chwefror 2026
Fersiwn flaenorol - ar gyfer asesiadau a gymerir hyd at 30 Medi 2026
Cyflwyniad
Cwmpas a diben
Penodwyd Kaplan SQE Limited (Kaplan SQE) gan Solicitors Regulation Authority Limited (“SRA”) fel unig ddarparwr yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (“SQE”) a’r Sefydliad Asesu Pwynt Terfyn (“EPAO”) ar gyfer Prentisiaid Cyfreithwyr. Mae Kaplan SQE yn ymdrin ag addasiadau rhesymol yn unol â’r Polisi hwn fel sy’n ofynnol gan yr SRA.
Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth ac i sicrhau bod ein dull gweithredu ar gyfer SQE yn gynhwysol ac yn bodloni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r polisi hwn yn rhoi sylw i’n dulliau gweithredu ar gyfer darparu:
Tegwch
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y Polisi hwn yn deg ac yn dryloyw ac yn cael ei weithredu mewn ffordd sy’n:
Cyfrinachedd
Byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarperir i ni yn gyfrinachol ac yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd manylion y trefniadau unigol yn cael eu rhannu gyda’r bobl hynny y mae’n angenrheidiol iddynt wybod er mwyn cytuno a/neu weithredu’r addasiad rhesymol neu'r cymhwysiad.
Terfynau amser
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r terfynau amser a nodir yn y Polisi.
Lle bo amgylchiadau eithriadol sy’n golygu nad yw’n rhesymol i’r ymgeisydd fodloni'r terfynau amser o’r fath ar gyfer darparu gwybodaeth neu i ymateb, rhaid iddo roi gwybod i ni cyn gynted ag y bo modd a, lle bo’n berthnasol, gan gyflwyno tystiolaeth i gyfiawnhau'r oedi.
Lle bo hyn yn cael ei dderbyn, a lle bo'n bosibl, gallai terfynau amser newydd gael eu cytuno. Gellir adolygu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais a'r dyddiadau cau ar gyfer derbyn Cynnig dan amgylchiadau eithriadol yn unig, am y rhesymau a nodir ym mharagraff 4.
Ymgeiswyr ag anabledd
Pan fo anabledd ar ymgeisydd, sicrheir y bydd gwybodaeth ar gael iddo mewn fformatau priodol, a gwneir addasiadau rhesymol i’r trefniadau er mwyn diwallu ei anghenion. Gweler manylion pellach ym mharagraff 6.
Adolygu’r Polisi hwn
Caiff y Polisi hwn a’r arferion cysylltiedig, gan gynnwys y cwestiynau cyffredin a gwybodaeth i aseswyr anableddau, eu monitro’n barhaus a bydd newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud a’u rhoi ar waith cyn gynted ag y bo modd. Bydd Kaplan SQE yn adolygu’r polisi hwn a phob polisi cysylltiedig yn rheolaidd fel rhan o'i weithdrefnau sicrhau ansawdd parhaus.
Dogfennau cysylltiedig sy’n berthnasol i’r Polisi hwn
Mae'r cwestiynau cyffredin a gwybodaeth i aseswyr anableddau yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y rhoddir y Polisi hwn ar waith.
Ymrwymiad a dull gweithredu
Mae’r Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr a’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol a nodir ym Manyleb Asesu SQE1 a Manyleb Asesu SQE2 yn pennu'r cymwyseddau a’r wybodaeth y mae’n rhaid i bob ymgeisydd feddu arnynt er mwyn dangos eu gallu i ymarfer. Mae’r Safon Drothwy yn pennu'r safon y mae’n rhaid ei chyrraedd er mwyn cymhwyso fel Cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Rhaid i bob ymgeisydd gael ei asesu yn erbyn y Datganiad Cymhwysedd Cyfreithiwr a’r Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol a rhaid iddo gyrraedd y Safon Drothwy er mwyn cymhwyso.
Er mwyn rhoi cyfle teg i bob ymgeisydd ddangos ei gymhwysedd i’r safon ofynnol, rydym yn cydnabod bod yn rhaid i ni wneud trefniadau i ddarparu addasiadau rhesymol.
Ein dull ni o ddatblygu asesiadau yw rhagweld ceisiadau ymgeiswyr am addasiadau rhesymol a, lle bo modd, gwneud trefniadau asesu sy’n lleihau’r angen i wneud addasiadau.
Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol lle byddai ymgeisydd, y mae anabledd arno yn unol ag ystyr Deddf Cydraddoldeb 2010, dan anfantais sylweddol yn yr asesiad o gymharu â rhywun nad oes anabledd arno.
Yn unol â'r Ddeddf Cydraddoldeb, mae anabledd ar berson (P) os oes:
Byddwn yn cymryd camau rhesymol i gael gwared ar yr anfantais sylweddol honno drwy wneud “Addasiadau Rhesymol” i drefniadau’r asesiad.
Byddwn hefyd yn ystyried ceisiadau i wneud “Cymwysiadau”. Ystyr Cymwysiadau yw newidiadau i drefniadau asesiad. Gellir gwneud cais am Gymhwysiad/Cymwysiadau pan nad oes anabledd ar yr ymgeisydd, ond bod arno salwch, cyflwr neu gyflwr newidiol, anaf neu ddigwyddiad arall y tu hwnt i’w reolaeth a fydd yn cael anfantais sylweddol ar ei allu i sefyll yr SQE mewn ffenestr asesu. Bydd pob cais am Gymwysiadau yn cael ei ystyried yn ôl disgresiwn rhesymol Kaplan a fesul achos.
Y broses ar gyfer gwneud cais am Addasiadau Rhesymol neu Gymwysiadau
Gellir gwneud cais am Addasiadau Rhesymol neu Gymwysiadau unwaith y bydd ymgeisydd wedi cofrestru ar gyfer cyfrif SQE.
Rhaid i ymgeisydd sy’n gwneud cais am Addasiadau Rhesymol y cyfeirir atynt ym mharagraff 2.4 uchod neu Gymwysiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 2.5 uchod lenwi ffurflen gais 'addasiadau rhesymol' yn ei gyfrif ymgeisydd SQE, oni bai bod trefniadau amgen wedi’u cytuno (gweler paragraff 1.5 a pharagraff 6).
Dylid gwneud ceisiadau cyn gynted ag y bo modd er mwyn caniatáu i Addasiadau Rhesymol/Cymwysiadau gael eu derbyn erbyn y dyddiad cau a bennir ym mharagraff 4.
Rhaid i'r cais gynnwys yr wybodaeth ganlynol
Os na fydd unrhyw elfen o'r wybodaeth hon ar gael ar adeg cwblhau'r ffurflen, cysylltwch â ni yn equality.quality@sqe.sra.org.uk. Ni allwn wneud cynnig Addasiadau Rhesymol na Chymwysiadau nes y bydd dogfennaeth gefnogol neu wybodaeth briodol wedi'i derbyn.
Bydd aelod o’r Tîm Cydraddoldeb yn cydnabod derbyn y ffurflen gais o fewn 5 niwrnod gwaith o dderbyn y ffurflen gais am addasiadau rhesymol, i roi gwybod i'r ymgeisydd am y camau nesaf a darparu manylion i'r ymgeisydd ar bwy sydd wedi’i benodi’n Gyswllt Addasiadau Rhesymol ("RAL").
Bydd y RAL yn ystyried:
Os bydd angen rhagor o wybodaeth er mwyn ystyried cais yr ymgeisydd, bydd y RAL yn cysylltu â'r ymgeisydd ac yn egluro pa wybodaeth ychwanegol s’n angenrheidiol.
Os bydd yr Addasiadau Rhesymol neu Gymwysiadau arfaethedig sy'n cael eu hystyried yn gymhleth, neu os bydd angen i'r RAL gydweithio â Thimau eraill Kaplan, neu â darparwr y ganolfan brofi, bydd y RAL yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd pa gamau sydd ar y gweill a'r amserlen ar gyfer y camau hynny. Mae’n bosibl y bydd angen mwy o amser i roi’r trefniadau hyn ar waith.
Unwaith y bydd y cais a'r wybodaeth gefnogol wedi cael eu hystyried yn llawn, bydd y RAL yn cofnodi'r Addasiad(au) Rhesymol neu’r Cymhwysiad/Cymwysiadau: sef "Cynnig" - yn y cyfrif ymgeisydd SQE. Bydd y RAL yn e-bostio'r ymgeisydd i roi gwybod bod Cynnig wedi'i wneud a sut i fynd ati i dderbyn neu wrthod y Cynnig.
Os bydd yr ymgeisydd yn gwrthod y Cynnig yn ei gyfrif ymgeisydd SQE, rhaid iddo gysylltu â'i RAL i egluro pam y gwnaeth wrthod y Cynnig. Bydd y RAL yn ystyried rhesymau’r ymgeisydd am wrthod y Cynnig a, lle y bo’n briodol, mae’n bosibl y bydd Cynnig amgen yn cael ei wneud.
Os na wneir Cynnig amgen, gall yr ymgeisydd wneud Cais am Adolygiad (gweler paragraff 5).
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Addasiadau Rhesymol neu Gymwysiadau
Er mwyn i Addasiadau Rhesymol neu Gymwysiadau fod ar waith yn y ffenestr asesu benodol, rhaid i'r Addasiad(au) Rhesymol neu’r Cymhwysiad/Cymwysiadau gael eu derbyn erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen archebu sedd ar gyfer y ffenestr asesu benodol honno.
Mae'r amserlen hon am y rhesymau canlynol:
Os nad yw'r ymgeisydd yn derbyn y Cynnig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen archebu sedd yn y ffenestr asesu berthnasol, byddwn yn neilltuo sedd dros dro i'r ymgeisydd. Ni allwn warantu y bydd y sedd dros dro yn cael ei throsi i sedd wedi'i harchebu ar gyfer y ffenestr asesu a ffefrir. Mae hyn oherwydd ei bod hi’n bosibl na fydd y cyfleusterau ar gael yn y ganolfan brofi erbyn i’r Cynnig gael ei dderbyn.
Lle nad yw Cynnig yn cael ei dderbyn neu le na ellir cytuno ar Gynnig o fewn pythefnos o'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen archebu sedd, bydd y sedd dros dro yn cael ei rhyddhau, oni bai bod yr ymgeisydd yn aros am ganlyniad Cais am Adolygiad (gweler paragraff 5).
Dim ond dan amgylchiadau eithriadol y bydd ceisiadau a wneir ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen archebu sedd yn cael eu hystyried.
Enghraifft o amgylchiad eithriadol yw lle mae ymgeisydd wedi derbyn diagnosis ar ôl y terfyn amser i gyflwyno'r ffurflen archebu sedd, neu nad oedd ei gyflwr yn hysbys (er enghraifft beichiogrwydd).
Rhaid i'r ymgeisydd egluro pam nad oedd yn gallu gwneud cais cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen archebu sedd.
Er y byddwn yn mynd ati i gynnig a gweithredu Addasiadau Rhesymol neu Gymwysiadau priodol, efallai na fydd hi’n bosibl i Addasiadau Rhesymol neu Gymwysiadau fod ar waith ar gyfer ffenestr asesu y mae’r ymgeisydd yn ei ffafrio am y rhesymau canlynol:
Cais am Adolygiad
Gall ymgeisydd sydd wedi gwrthod y Cynnig ac wedi esbonio i'w RAL y rhesymau dros wrthod, wneud cais wedyn am adolygiad o'r Cynnig (“Cais am Adolygiad”).
Rhaid i'r Cais am Adolygiad nodi esboniad yr ymgeisydd am pam nad yw wedi derbyn ei Gynnig a rhaid i hyn gael ei anfon, ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth a gwybodaeth bellach i equality.quality@sqe.sra.org.uk gyda ‘Request for review of adjustments proposal’ yn llinell pwnc yr e-bost.
Bydd adolygydd (aelod uwch o Kaplan SQE - yr “Adolygydd”) yn adolygu'r cais ac mae’n bosibl y bydd yn ceisio gwybodaeth bellach ac yn derbyn cyngor fel y bo'n briodol.
Bydd yr Adolygydd yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol, gan gynnwys:
Gall yr Adolygydd:
Pan fydd yr Adolygydd yn gwrthod y Cynnig a wnaed, gall argymell camau pellach, a bydd yr ymgeisydd fel arfer yn cael Cynnig wedi'i ddiwygio.
Bydd penderfyniad yr Adolygydd yn cael ei gyfleu i'r ymgeisydd o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y Cais am Adolygiad. Os caiff Cynnig ei ddiwygio, bydd y cynnig newydd yn cael ei anfon at yr ymgeisydd trwy ei gyfrif ymgeisydd SQE o fewn 5 niwrnod gwaith o benderfyniad yr Adolygydd.
Ffyrdd amgen o wneud cais am addasiadau
Lle na fydd ymgeisydd yn gallu defnyddio’r cyfrif ymgeisydd SQE/y broses gofrestru ac archebu ar-lein (gan gynnwys gwneud cais am addasiadau rhesymol a chyflwyno tystiolaeth gefnogol), gallwn gynnig dulliau gwahanol o gyfathrebu, a darparu gwybodaeth mewn gwahanol fformatau.
Dylai ymgeiswyr y mae angen rhagor o gymorth arnynt gysylltu â ni yn enquiries@sqe.sra.org.uk neu 0203 486 3080, a bydd aelodau o’n tîm yn gweithio gydag ymgeiswyr i ddod o hyd i’r ffordd orau o helpu.
Create your personal SQE account and book your assessments.
Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.
Stay up to date with SQE news and important announcements.