SQE yn Gymraeg

This page is available in English.

Mae Cymru a Lloegr yn rhannu un awdurdodaeth gyfreithiol unigol gyda dwy iaith swyddogol: y Gymraeg a'r Saesneg. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi mynediad i wasanaethau cyfreithiol — yn y ddwy iaith.

Mae'r dudalen hon yn cynnig canllawiau ymarferol i ymgeiswyr sy'n dymuno sefyll asesiadau'r SQE yn Gymraeg. This page is also available in English.

Cipolwg o'r wybodaeth allweddol

  • Nid oes gwahaniaeth o ran cost wrth sefyll SQE yn Gymraeg neu yn Saesneg.
  • Rhaid i chi roi rhybudd o flaen llaw os ydych chi'n dymuno sefyll yr asesiad yn Gymraeg.
  • Mae SQE1 yn Gymraeg ar gael yn ystod ffenestri asesu mis Ionawr a mis Medi.
  • Mae SQE2 (llafar ac ysgrifenedig) yn Gymraeg ar gael yn ffenestri asesu mis Ebrill a mis Hydref yn unig.
  • Efallai y byddai rhai rhannau o'r SQE ar gael yn Saesneg yn unig—mae manylion am hyn isod.

Rhoi rhybudd o sefyll yr SQE yn Gymraeg

I sicrhau bod yr asesiad ar gael yn Gymraeg, rhaid i chi gwblhau ffurflen rhybudd o flaen llaw cyn y terfyn amser perthnasol.

Os na fydd ymgeiswyr yn rhoi rhybudd o flaen llaw erbyn y terfyn amser, ni chaiff asesiad yn Gymraeg ei gynnig yn yr eisteddiad hwnnw. Bydd hi'n dal i fod yn bosib i chi sefyll yr asesiad yn Saesneg os bydd lleoedd ar gael.

Terfynau amser rhoi rhybudd o flaen llaw sydd ar ddod

  • SQE2 Hydref 2025: mae'r terfyn amser hwn eisoes wedi mynd heibio
  • SQE1 Ionawr 2026: 1 Medi 2025
  • SQE2 Ebrill 2026: 31 Rhagfyr 2025

Ffurflen rhoi rhybudd o flaen llaw – SQE yn Gymraeg

Os byddwch chi'n newid eich meddwl am sefyll yr asesiad yn Gymraeg, gallwch ganslo eich archeb ac ailarchebu er mwyn sefyll yr asesiad yn Saesneg, cyhyd â'ch bod chi'n gwneud hynny cyn y terfyn amser am archebion, yn unol â'n telerau a'n hamodau ac argaeledd. Sylwer nad oes modd gwarantu y byddwch chi'n gallu archebu'r un sedd na'r un lleoliad.

Nid yw hi'n bosib newid eich dewis iaith ar ôl y terfyn amser archebu.


Sefyll SQE1 yn Gymraeg

Gallwch sefyll SQE1 yn Gymraeg mewn unrhyw ganolfan brofi Pearson VUE sydd â lle pan fyddwch yn archebu. Caiff SQE1 ei sefyll dros ddau ddiwrnod.

Os byddwch chi'n rhoi rhybudd eich bod yn bwriadu sefyll SQE1 yn Gymraeg, bydd tîm SQE Kaplan yn cysylltu â chi i drefnu eich archeb.

Beth sydd yn Gymraeg?

Os byddwch yn dewis sefyll SQE1 yn Gymraeg, darperir y canlynol i chi yn Gymraeg:

  • Pob cwestiwn SQE1 (gan gynnwys yr opsiynau ateb)
  • Y tiwtorial ar y sgrin cyn eich asesiad
  • Y datganiad Ffit i Sefyll a'r Cytundeb Cyfrinachedd Ymgeiswyr

Bydd yr holl agweddau eraill ar yr arholiad yr un peth â'r fersiwn Saesneg. Bydd staff y ganolfan brofi yn cyfathrebu â chi yn Saesneg.


Sefyll SQE2 yn Gymraeg

Gallwch sefyll yr asesiadau SQE2 yn Gymraeg yn ystod ffenestri asesu Ebrill a Hydref yn unig.

Gellir sefyll yr asesiadau ysgrifenedig mewn unrhyw ganolfan brofi Pearson VUE sydd ar gael.

Cynigir yr asesiadau llafar (Cyfweliad Cleient ac Eiriolaeth) yn Gymraeg mewn un eisteddiad llafar fesul ffenestr yn unig, yng Nghaerdydd.

Gallwch ddewis sefyll:

  • yr asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg a'r llafar yn Saesneg;
  • yr asesiadau llafar yn Gymraeg a'r ysgrifenedig yn Saesneg; neu
  • y ddau yn Gymraeg.

Byddwn yn gofyn i chi nodi eich dewisiadau wrth roi rhybudd o flaen llaw.

Yn yr un modd ag SQE1, bydd tîm SQE Kaplan yn cysylltu â chi wrth dderbyn eich rhybudd i gadarnhau eich trefniadau.

Beth sydd yn Gymraeg?

  • Cyfarwyddiadau i ymgeiswyr ar gyfer asesiadau ysgrifenedig a llafar
  • Tiwtorial ar y sgrin, datganiad Ffit i Sefyll a Chytundeb Ymgeiswyr
  • Caiff yr asesiadau llafar eu cynnal yn Gymraeg gan arholwyr dwyieithog

Efallai y bydd dogfennau asesu eraill yn dal i fod yn Saesneg. Mae manylion yn yr adran isod.

Bydd staff y ganolfan brofi yn cyfathrebu â chi yn Saesneg.


Egwyddorion cyfieithu a dogfennau atodol

Mae cyfieithwyr Cymraeg Kaplan, sy'n aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yn dilyn safonau llym, gyda mewnbwn gan banel o gyfreithwyr sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg ac arbenigwyr iaith, gan gynnwys Canolfan Bedwyr (Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg Cymraeg Prifysgol Bangor).

Gall rhai termau arbenigol neu dechnegol yn Gymraeg mewn asesiad gynnwys cyfieithiad Saesneg mewn cromfachau. Yn ogystal, i ymgeiswyr sy'n sefyll asesiad yr SQE yn Gymraeg, darperir geirfa o'r termau a gyfieithwyd y mae cyfreithwyr Cymraeg Kaplan yn eu hystyried i fod yn anodd, yn arbenigol neu'n dechnegol yn yr asesiad.

Yn SQE2, caiff yr E-bost at yr Ymgeisydd (sy'n amlinellu eich tasg) ei gyfieithu i'r Gymraeg. Fel arfer, caiff unrhyw ddogfennau atodol eu cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg i adlewyrchu, cyhyd â bo'n bosib, yr hyn y byddai cyfreithiwr newydd gymhwyso yn eu gweld yn arferol wrth ei waith. Lle na fyddai dogfen yn cael ei darllen yn Gymraeg mewn bywyd go iawn, er enghraifft, oherwydd nad oes cyfieithiad swyddogol yn Gymraeg, ni chaiff y ddogfen ei chyfieithu a chaiff ei darparu'n Saesneg yn unig i ymgeiswyr.

Mae enghreifftiau o ddogfennau na fyddant yn cael eu cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn cynnwys deddfwriaeth y DU, cyfraith achos neu unrhyw ddogfennau sy'n destun hawlfraint.

Er y disgwylir i'r holl ymgeiswyr sy'n sefyll asesiadau SQE2 yn Gymraeg ateb neu ymateb yn Gymraeg, ar adegau, efallai cewch eich cynghori i roi eich ateb yn Saesneg. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, i adlewyrchu'r hyn a fyddai'n digwydd wrth ymarfer, neu i liniaru unrhyw annhegwch posibl i ymgeiswyr. Er enghraifft, os yw'r dasg yn ei gwneud hi'n ofynnol i ymgeiswyr ddarllen deunyddiau sy'n cael eu darparu yn Saesneg yn bennaf, i osgoi bod dan anfantais, gellir cynghori ymgeiswyr y gallant roi eu hatebion yn Saesneg (ond gallant roi eu hatebion yn Gymraeg os yw'n well ganddynt).


Adnoddau i'ch helpu i benderfynu

I'ch helpu i wneud penderfyniad gwybodus, rydym yn argymell i chi adolygu cwestiynau enghreifftiol SQE1 ac SQE2 yn Gymraeg:

Mae'r rhain yn cynnwys rhestrau geirfa SQE2 ac enghreifftiau o'r fformat ar ôl cyfieithu. Gallwch hefyd archwilio enghraifft fyw o ryngwyneb yr arholiad yn Gymraeg ar system Pearson VUE.

Hefyd, mae gennym ni dudalen bwrpasol ar gyfer adnoddau ychwanegol a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Mae'r dudalen hon ar gael yn Saesneg hefyd.


Disgwyliadau iaith

Os byddwch chi'n dewis sefyll asesiad yn Gymraeg, disgwylir i chi feddu ar afael dda ar y Gymraeg yn ysgrifenedig ac ar lafar. Fodd bynnag:

  • Chi sy'n gyfrifol am benderfynu a yw lefel eich Cymraeg yn briodol.
  • Os byddwch chi'n ei chael hi'n anodd yn ystod yr arholiad SQE2, gallwch ateb yn Saesneg heb gosb.

Sylwer na ddarperir geiriadur Cymraeg i chi os byddwch chi'n sefyll yr asesiadau SQE1 neu SQE2 yn Gymraeg, ac ni ddarperir fersiwn Saesneg o'r asesiad i chi chwaith.


Polisïau, canlyniadau a gweinyddu

  • Mae llwyfan Pearson VUE ar gael yn Gymraeg, gan gynnwys yr holl ddatganiadau cyn asesu.
  • Bydd gweinyddwyr SQE yn y ganolfan brofi (e.e. goruchwylwyr, marsialiaid) yn cyfathrebu â chi yn Saesneg.
  • Caiff eich canlyniadau eu cyhoeddi yn Saesneg, ond gallwch ofyn i dderbyn yr e-bost canlyniadau yn Gymraeg.

Gallwch hefyd ddarllen polisïau SQE yn Gymraeg: Polisïau SQE yn Gymraeg

Dysgu rhagor: Adnoddau Cymraeg ychwanegol

Learn more: Additional Welsh resources

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?