Adnoddau SQE yn Gymraeg

Mae nifer o adnoddau SQE ar gael yn Gymraeg i gefnogi ymgeiswyr sy'n dewis sefyll eu hasesiadau yn Gymraeg. Mae'r dudalen hon yn darparu dolenni i ddogfennau allweddol a chwestiynau enghreifftiol yn ogystal â gwybodaeth am yr asesiadau Cymraeg, gweinyddiaeth y canolfannau profi, a’r egwyddorion cyfieithu.


Manyleb asesu SQE1 yn Gymraeg

Mae manyleb asesu SQE1 ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.


Manyleb asesu SQE2 yn Gymraeg

Mae manyleb asesu SQE2 ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd.


Cwestiynau enghreifftiol SQE1 yn Gymraeg

Mae cwestiynau enghreifftiol SQE1 ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall darllen y rhain eich helpu i ddeall sut mae terminoleg yn cael ei chyfieithu a sut y caiff y cwestiynau eu cyflwyno. Gall hyn gefnogi eich penderfyniad ynghylch sefyll yr asesiad yn Gymraeg ai peidio.

Gallwch hefyd weld fersiwn Gymraeg o'r arholiad yn system Pearson VUE, sy’n cynnwys cwestiynau enghreifftiol a rhyngwyneb defnyddiwr realistig.

Sylwer: Ni ddarperir rhestr eirfa ar gyfer SQE1, yn seiliedig ar adborth o gynllun peilot SQE1 Cymraeg.


Cwestiynau enghreifftiol SQE2 yn Gymraeg

Mae cwestiynau enghreifftiol SQE2 ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg hefyd. Maent yn dangos sut mae cyfieithiadau Cymraeg yn cael eu trin ac yn cynnwys enghreifftiau o eirfa ar gyfer termau anodd neu dechnegol.

Bydd y cwestiynau enghreifftiol yn eich helpu i ddeall yr hyn i'w ddisgwyl os byddwch yn dewis sefyll SQE2 yn Gymraeg, gan gynnwys:

  • Sut caiff terminoleg ei defnyddio a'i chyfieithu
  • Pa restrau geirfa y gellir eu darparu
  • Pryd y gellir rhoi atebion yn Saesneg (os yw tasg neu ddeunydd ar gael yn Saesneg yn unig)

Cwestiynau enghreifftiol SQE2

Arholwyr ac asesiadau llafar

  • Mae asesiadau llafar SQE2 (Cyfweliad â’r Cleient ac Eiriolaeth) yn cael eu cynnal gan arholwyr dwyieithog a fydd yn cyfathrebu â chi yn Gymraeg.
  • Darperir cyfarwyddiadau ar ddiwrnodau asesiadau llafar SQE2 — megis y datganiad Ffit i Sefyll a'r Cytundeb Cyfrinachedd Ymgeiswyr — yn Gymraeg a Saesneg.

Egwyddorion cyfieithu ar gyfer SQE2

  • Caiff y prif E-bost at yr Ymgeisydd ei gyfieithu i'r Gymraeg.
  • Efallai na fydd rhai dogfennau ategol (e.e. deddfwriaeth neu gyfraith achos) yn cael eu cyfieithu.
  • Gall rhai dogfennau aros yn Saesneg oherwydd cyfyngiadau cyfreithiol neu hawlfraint.
  • Os yw'r deunyddiau yn Saesneg yn unig, mae’n bosib y cewch eich cynghori ei bod hi’n dderbyniol ymateb yn Saesneg, er y gallwch ateb yn Gymraeg os yw hynny'n well gennych.

Polisïau SQE yn Gymraeg a gwybodaeth am y canolfannau profi

Mae nifer o bolisïau SQE ar gael yn Gymraeg ochr yn ochr â'u fersiynau Saesneg.

Cadwch mewn cof:

  • Bydd holl staff canolfannau profi SQE (e.e. goruchwylwyr, marsialiaid) yn cyfathrebu yn Saesneg.
  • Mae porth Pearson VUE a ddefnyddir ar gyfer asesiadau ysgrifenedig SQE1 a SQE2 ar gael yn Gymraeg.
  • Mae'r tiwtorial ar y sgrin, y datganiad Ffit i Sefyll, y Cytundeb Cyfrinachedd a Chytundeb yr Asesiad i Ymgeiswyr hefyd ar gael yn Gymraeg.
  • Darperir canlyniadau'r asesiad yn Saesneg, ond gallwch ofyn bod yr e-bost canlyniadau yn cael ei anfon atoch yn Gymraeg pan fyddwch yn ein hysbysu o'ch bwriad i sefyll yr asesiad yn Gymraeg.

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more about Have you passed the SQE?