SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 99

Ddwy flynedd yn ôl, cytunodd dyn i rentu ysgubor i'w gymydog am gyfnod o chwe blynedd am rent misol. Llofnododd y ddau ohonynt les ysgrifenedig a oedd yn ymgorffori'r holl delerau a gytunwyd arnynt. Ni dystiwyd eu llofnodion.

Meddiannwyd yr ysgubor gan y cymydog yn syth yn unol â'r les ac mae'r dyn a'r cymydog wedi cydymffurfio â'i thelerau’n ofalus ers hynny.

Pa fath o les sy'n cael ei chreu rhwng y dyn a'r cymydog?

A. Les gyfreithiol am gyfnod o chwe blynedd oherwydd bod y gyfraith yn ystyried wedi'i wneud yr hyn a ddylai fod wedi'i wneud (the law considers done that which ought to be done).

B. Les gyfreithiol am gyfnod o chwe blynedd oherwydd bod gofynion contract dilys wedi'u bodloni.

C. Les ecwitïol gyfnodol fisol oherwydd y ddarpariaeth am daliad o rent misol.

D. Les gyfreithiol oherwydd bod yr eithriad les lafar (parol lease) wedi'i fodloni.

E. Les ecwitïol am gyfnod o chwe blynedd oherwydd bod ecwiti yn ystyried wedi'i wneud yr hyn a ddylai fod wedi'i wneud (equity considers done that which ought to be done).


E - Les ecwitïol am gyfnod o chwe blynedd oherwydd bod ecwiti yn ystyried wedi'i wneud yr hyn a ddylai fod wedi'i wneud (equity considers done that which ought to be done).

Atebodd 46% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE