SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 100

Bu farw dyn ym mis Mehefin 2024. Ym mis Rhagfyr 2024 gwerthodd ei gynrychiolwyr personol (y Cynrychiolwyr) ddaliad o gyfrannau dyfynedig (quoted shares). Yr enillion at ddibenion Treth Enillion Cyfalaf (CGT) ar y gwerthiant hwn oedd £2,300. Ni wnaeth y Cynrychiolwyr unrhyw warediadau (disposals) eraill at ddibenion CGT yn ystod blwyddyn dreth 2024/25.

Gwerthodd y Cynrychiolwyr ddaliad pellach o gyfrannau dyfynedig ('yr Ail Werthiant’) ym mis Tachwedd 2025. Roedd y dyn wedi prynu'r cyfrannau hyn am £35,000. Ar ddyddiad ei farwolaeth, roedd ganddynt werth o £50,000 ac fe'u gwerthwyd gan y Cynrychiolwyr am £65,000 net o gostau'r gwerthiant. Ni wnaeth y Cynrychiolwyr unrhyw warediadau eraill at ddibenion CGT yn ystod blwyddyn dreth 2025/26. Yr eithriad CGT blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25 yw £3,000. Yr eithriad CGT blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26 yw £3,000 a'r gyfradd CGT yw 24%.

Beth yw atebolrwydd CGT y Cynrychiolwyr ar yr Ail Werthiant?

A. £2,712

B. £6,312

C. £2,880

D. £6,480

E. £3,600


C - £2,880

Atebodd 37% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE