SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 101

Rhoddwyd les o fflat ym 1985 am 125 o flynyddoedd. Mae'r tenant presennol wedi marw'n ddiweddar. Mae cyfreithiwr yn gweithredu ar ran y cynrychiolwyr personol sy'n gwerthu les y fflat gyda gwarant teitl cyfyngedig.

Mae'r fflat mewn cyflwr gwael (poor state of repair) oherwydd methiant y tenant presennol i gydymffurfio â'r cyfamod atgyweirio yn y les. Mae'r cynrychiolwyr personol yn awyddus i bwysleisio bod y fflat yn cael ei werthu fel y mae (as seen).

Mae'r cyfreithiwr yn y broses o ddrafftio'r contract a'r trosglwyddiad ('Dogfennaeth y Gwerthiant').

Pa ddarpariaeth, os o gwbl, dylai'r cyfreithiwr ei chynnwys yn Nogfennaeth y Gwerthiant mewn perthynas â chyflwr y fflat?

A. Nid oes angen darpariaeth oherwydd bod y cynrychiolwyr personol yn gwerthu gyda gwarant teitl cyfyngedig.

B. Darpariaeth sy'n eithrio dyletswydd didwylledd mwyaf (utmost good faith) y gwerthwr mewn perthynas â chyfamod atgyweirio'r tenant yn y les.

C. Nid oes angen darpariaeth oherwydd bod y les yn 'hen les' oherwydd fe'i rhoddwyd cyn 1 Ionawr 1996.

D. Darpariaeth sy'n addasu'r cyfamodau statudol ar gyfer teitl a fyddai fel arall yn awgrymu cydymffurfiaeth â chyfamod atgyweirio'r tenant yn y les.

E. Darpariaeth sy'n datgan yn glir bod y les yn 'les newydd' oherwydd ei bod wedi'i haseinio ar ôl 1 Ionawr 1996.


D - Darpariaeth sy'n addasu'r cyfamodau statudol ar gyfer teitl a fyddai fel arall yn awgrymu cydymffurfiaeth â chyfamod atgyweirio'r tenant yn y les.

Atebodd 32% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE