SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 98

Mae menyw ar dreial yn Llys y Goron am drosedd honedig o ladrad.

Yn y treial, mae'r erlyniad yn cyflwyno ei achos. Mae achos yr erlyniad yn cynnwys tystiolaeth gan dyst sy'n dweud gwelodd ef y fenyw yn cyflawni'r lladrad. Mae cyfreithiwr eiriolwr y fenyw yn herio tystiolaeth y tyst yn gadarn wrth groes-holi. Ar ôl i'r erlyniad gloi ei achos, mae cyfreithiwr eiriolwr y fenyw yn gwneud argymhelliad nad oes achos i'w ateb yn absenoldeb y rheithgor. Mae'r argymhelliad yn llwyddiannus.

Cyn i'r rheithgor ddychwelyd a'r achos llys barhau, mae'r fenyw yn gofyn i'w chyfreithiwr eiriolwr beth fydd yn digwydd nesaf, ac yn dweud nad yw hi am roi tystiolaeth.

Pa gyngor dylai'r cyfreithiwr eiriolwr ei roi i'r fenyw?

A. Bydd y barnwr yn crynhoi'r achos a bydd y rheithgor yn ymadael i ystyried rheithfarn.

B. Bydd y barnwr yn cyfarwyddo'r rheithgor i ddwyn rheithfarn o ddieuog a chaiff y fenyw ei rhyddfarnu (acquitted).

C. Bydd y barnwr yn gorchymyn i'r treial barhau ond bydd yn cyfarwyddo'r rheithgor nad oes modd dod i gasgliad andwyol os nad yw'r fenyw nawr yn rhoi tystiolaeth.

D. Bydd y barnwr yn rhyddhau'r rheithgor ac yn gorchymyn aildreial.

E. Bydd y barnwr yn caniatáu i'r cyfreithiwr eiriolwr wneud argymhelliad (submission) nad oes achos i'w ateb i'r rheithgor.


B - Bydd y barnwr yn cyfarwyddo'r rheithgor i ddwyn rheithfarn o ddieuog a chaiff y fenyw ei rhyddfarnu (acquitted).

Atebodd 57% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE