SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 97

Mae dyn yn cysylltu â chyfreithiwr. Gweithredodd y cyfreithiwr ar ei ran bum mlynedd yn ôl wrth iddo brynu tŷ rhydd-ddaliadol preswyl newydd drwy drosglwyddiad.

Mae'r dyn yn dweud ei fod yn cael trafferthion ailforgeisio'r tŷ oherwydd ni wnaiff y benthycwyr mae ef wedi mynd atynt dderbyn y darpariaethau a allai fod yn feichus (onerous) sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad mewn perthynas â chynnal a chadw’r ystad y mae'r tŷ wedi'i leoli ynddi (‘y Darpariaethau Cynnal a Chadw).

Mae'r dyn yn honni nad oes ganddo unrhyw gof o dderbyn cyngor blaenorol gan y cyfreithiwr am y Darpariaethau Cynnal a Chadw.

Mae'r cyfreithiwr yn gwirio ffeil y dyn sydd yn yr archif.

Pa ddogfen ddylai gynnwys y cyngor i'r dyn am y Darpariaethau Cynnal a Chadw?

A. Trosglwyddiad.

B. Llythyr gofal cleientiaid.

C. Adroddiad ar deitl.

D. Telerau ac amodau safonol cwmni’r cyfreithiwr.

E. Tystysgrif o'r teitl.


C - Adroddiad ar deitl.

Atebodd 43% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE