SQE1 Cwestiynau enghreifftiol

Cwestiwn 96

Mae menyw wedi gweithio i'w chyflogwr ers 18 mis. Drwy gydol y cyfnod hwnnw mae'r cyflogwr wedi beirniadu ei gwaith yn annheg ac wedi'i cham-drin ar lafar o flaen eraill. Mae'r cam-drin ar lafar wedi dod i ddigwydd yn amlach ac erbyn hyn mae'r cyflogwr yn gwneud sylwadau hiliol yn aml am y fenyw ac yn bygwth ei diswyddo.

Mae cam-drin difrifol y cyflogwr yn peri gofid mawr i'r fenyw ac wrth reswm mae hi'n teimlo bod cam difrifol arni o ganlyniad.

Un bore, mae'r cyflogwr yn gweiddi ac yn rhegi ar y fenyw. Mae hi mewn trallod mawr (is distraught) ond yn dychwelyd i'w desg i weithio. Ni all ganolbwyntio ac, wrth i'r cyflogwr fynd tuag ati hanner awr yn ddiweddarach, mae'r fenyw yn colli hunan-reolaeth ac yn ei drywanu unwaith yn y gwddf gyda siswrn mae hi'n ei ddal. Mae'r cyflogwr yn marw o'r anafiadau mae'n eu dioddef.

Nid oedd y fenyw'n ofni unrhyw drais gan y cyflogwr wrth ei drywanu ac roedd hi'n deall natur ei gweithredoedd hi.

Caiff y fenyw ei chyhuddo o lofruddiaeth y cyflogwr ac mae ei chyfreithiwr yn ystyried a yw'r amddiffyniad rhannol o golli rheolaeth ar gael iddi. Mae'r cyfreithiwr yn credu y gallai rheithgor ganfod y gallai menyw resymol fod wedi ymateb yn yr un ffordd neu mewn ffordd debyg â'r fenyw dan yr amgylchiadau.

Gan gofio cred y cyfreithiwr, pa un o'r canlynol fydd yn penderfynu a yw'r amddiffyniad rhannol o golli rheolaeth ar gael i'r fenyw?

A. Nad oedd trywanu'r cyflogwr gan y fenyw yn ymateb uniongyrchol i'r cam-drin ar lafar a gyfeiriwyd ati.

B. Bod camdriniaeth y cyflogwr tuag at y fenyw wedi gwneud iddi deimlo wrth reswm bod cam difrifol arni.

C. Nad oedd y cyflogwr wedi defnyddio unrhyw drais corfforol tuag at y fenyw ar unrhyw adeg.

D. Bod y fenyw wedi deall natur ei gweithredoedd pan drywanodd hi'r cyflogwr.

E. Bod y fenyw dim ond wedi trywanu'r cyflogwr unwaith.


B - Bod camdriniaeth y cyflogwr tuag at y fenyw wedi gwneud iddi deimlo wrth reswm bod cam difrifol arni.

Atebodd 69% o ymgeiswyr y cwestiwn hwn yn gywir


Ready to register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE 

Have you passed the SQE?

Find out what happens after passing the SQE and admission to the roll of solicitors.

Learn more

SQE News

Stay up to date with SQE news and important announcements.

News Register for SQE news alerts

Register for the SQE?

Create your personal SQE account and book your assessments.

Register for SQE